Coffadwriaeth Marwolaeth Iesu

Nos Iau, 2 Ebrill, 2026

Coffadwriaeth Marwolaeth Iesu

Unwaith y flwyddyn, mae Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfod arbennig i gofio marwolaeth Iesu, gan ddilyn ei orchymyn: “Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.”—Luc 22:19.

Rydyn ni’n eich gwahodd i’r digwyddiad hwn.

Cwestiynau Cyffredin

Pwy all ddod?

Mae croeso i bawb. Croeso ichi ddod â ffrindiau ac aelodau teulu.

Am faint fydd y rhaglen yn para?

Bydd yn para am tua awr.

Ble mae’n cael ei gynnal?

Cysylltwch â Thystion Jehofa am fanylion lleol.

Oes rhaid talu neu wneud unrhyw ymrwymiad?

Nac oes.

A fydd ’na gasgliad?

Na fydd. Fyddwn ni byth yn gwneud casgliad yn ein cyfarfodydd.—Mathew 10:8.

Beth dylwn i ei wisgo?

Does dim cod gwisg penodol, ond mae Tystion Jehofa yn ceisio gwisgo mewn ffordd sy’n parchu’r achlysur.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y Goffadwriaeth?

Mae’r cyfarfod yn dechrau ac yn gorffen gyda chân, a bydd un o weinidogion Tystion Jehofa yn dweud gweddi. Bydd siaradwr yn esbonio pwysigrwydd marwolaeth Iesu a sut gallwn ni elwa o’r hyn mae Duw a Christ wedi ei wneud droston ni.

Pryd caiff y Goffadwriaeth ei chynnal yn y dyfodol?

2026: Nos Iau, 2 Ebrill

2027: Nos Sadwrn, 22 Mawrth