Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 14

Duw yn Siarad Drwy Ei Broffwydi

Duw yn Siarad Drwy Ei Broffwydi

Jehofa yn penodi proffwydi i gyflwyno negeseuon ynglŷn â barn, gwir addoliad, a theyrnasiad y Meseia

YN YSTOD cyfnod brenhinoedd Israel a Jwda, daeth grŵp o ddynion ffyddlon a dewr i’r amlwg— y proffwydi. Eu gwaith nhw oedd cyflwyno negeseuon oddi wrth Dduw. Ystyriwch bedair thema bwysig yng ngwaith y proffwydi.

1. Dinistr Jerwsalem. Ymhell o flaen llaw, rhybuddiodd Eseia a Jeremeia, ynghyd â phroffwydi eraill, y byddai Jerwsalem yn cael ei dinistrio. Gan ddefnyddio iaith fyw, fe wnaethon nhw esbonio pam roedd Duw yn ddig wrth bobl y ddinas. Roedd y bobl yn honni eu bod nhw’n cynrychioli Jehofa, ond roedd eu llygredd moesol, eu gau grefydd, a’u trais yn dangos yn wahanol.—2 Brenhinoedd 21:10-15; Eseia 3:1-8, 16-26; Jeremeia 2:1–3:13.

2. Adfer gwir addoliad. Ar ôl 70 mlynedd fel alltudion, fe fyddai pobl Dduw yn cael eu rhyddhau o Fabilon. Fe fydden nhw’n dychwelyd i’w hen wlad ac yn ailadeiladu teml Jehofa yn Jerwsalem. (Jeremeia 46:27; Amos 9:13-15) Ryw 200 mlynedd ymlaen llaw, fe wnaeth Eseia enwi Cyrus fel yr un a fyddai’n gorchfygu Babilon ac yn gadael i bobl Dduw adfer gwir addoliad. Roedd Eseia hyd yn oed yn rhagweld y modd anarferol y byddai Cyrus yn concro’r ddinas.—Eseia 44:24–45:3.

3. Dyfodiad y Meseia a’i brofiadau. Byddai’r Meseia yn cael ei eni ym Methlehem. (Micha 5:2) Fe fyddai’n ostyngedig, yn cyrraedd Jerwsalem ar gefn asyn. (Sechareia 9:9) Er y byddai’n dirion, ni fyddai’n boblogaidd a byddai llawer yn ei wrthod. (Eseia 42:1-3; 53:1, 3) Fe fyddai’n marw mewn modd creulon. Ai dyna fyddai diwedd y Meseia? Nage. Pwrpas ei aberth oedd i bobl gael maddeuant am eu pechodau. (Eseia 53:4, 5, 9-12) A dim ond drwy ei atgyfodiad y byddai hynny’n bosibl.

4. Teyrnasiad y Meseia dros y ddaear. Does gan bobl amherffaith mo’r gallu i lywodraethu’n heddychlon, ond byddai’r Meseia yn cael ei adnabod fel Tywysog heddychlon. (Eseia 9:6, 7; Jeremeia 10:23) Dan ei lywodraeth ef, byddai pawb yn cyd-fyw yn heddychlon a byddai heddwch hyd yn oed rhwng pobl ac anifeiliaid. (Eseia 11:3-7) Fyddai neb yn sâl. (Eseia 33:24) Byddai hyd yn oed marwolaeth yn cael ei lyncu am byth. (Eseia 25:8) Yn ystod teyrnasiad y Meseia, byddai’r meirw yn cael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear.—Daniel 12:13.

​—Yn seiliedig ar llyfrau Eseia, Jeremeia, Daniel, Amos, Micha, a Sechareia.