Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

“Dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill.” (Heb. 5:12) Meddylia am hynny! Mae Jehofa, yr Athro gorau oll, yn gofyn i ni ddysgu pobl eraill amdano! Braint a chyfrifoldeb mawr yw dysgu eraill am Jehofa, boed hynny yn y teulu, yn y gynulleidfa, neu yn y weinidogaeth. Sut gallwn ni lwyddo?

Mae’r ateb i’w gael yng ngeiriau’r apostol Paul i Timotheus: “Canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a’u dysgu nhw.” Aeth Paul ymlaen: “Wedyn byddi’n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.” (1 Tim. 4:13, 16) Mae’r neges sydd gen ti i’w rhannu yn achub bywydau. Felly mae’n hanfodol inni weithio i wella ein sgiliau darllen a dysgu. Diben y llyfryn hwn yw dy helpu di i wneud hynny. Ystyria rai o’i nodweddion.

Adnod ar bob tudalen sy’n cynnwys naill ai egwyddor Feiblaidd sy’n berthnasol i’r wers neu enghraifft o’r wers honno ar waith

Does dim athro tebyg i Jehofa. (Job 36:22) Bydd y llyfryn hwn yn dy helpu di i hogi dy sgiliau darllen a dysgu, ond cofia mai Jehofa yw Ffynhonnell ein neges, ac Ef yw’r un sy’n tynnu pobl ato. (Ioan 6:44) Felly, gweddïa’n aml am yr ysbryd glân. Defnyddia Air Duw yn helaeth. Tynna sylw at Jehofa, nid atat ti dy hun. Ceisia feithrin cariad mawr at Jehofa yng nghalonnau dy wrandawyr.

Rwyt ti wedi cael gwahoddiad i ddysgu eraill am y neges bwysicaf erioed. Rydyn ni’n ffyddiog y byddi di’n llwyddo drwy ddibynnu ar y “nerth mae Duw yn ei roi.”—1 Pedr 4:11.

Dy gyd-weithwyr,

Corff Llywodraethol Tystion Jehofa