Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llyfr I Chi?

Llyfr I Chi?

Llyfr I Chi?

“Y mae cyfansoddi llyfrau yn waith diddiwedd,” meddai Solomon rhyw 3,000 o flynyddoedd yn ôl. (Pregethwr 12:12) Mae’r sylw hwnnw mor addas heddiw ag erioed.Yn ogystal â’r clasuron safonol, argreffir miloedd o lyfrau newydd bob blwyddyn. Â chymaint o lyfrau i ddewis ohonyn’ nhw, pam dylech chi ddarllen y Beibl?

MAE llawer o bobl yn darllen llyfrau er mwyn difyrrwch neu er mwyn ennill gwybodaeth, neu efallai am y ddau reswm. Gall yr un peth fod yn wir am y Beibl. Gall gynnig deunydd darllen dyrchafol, a difyr hyd yn oed. Ond mae’r Beibl yn amgenach na hynny. Mae e’n ffynhonnell unigryw o wybodaeth.—Pregethwr 12:9, 10.

Mae’r Beibl yn ateb cwestiynau mae bodau dynol wedi eu pwyso ers amser—cwestiynau am ein gorffennol, ein presennol, a’n dyfodol. Mae llawer yn holi: Tybed o ble daethom ni? Beth tybed ydi pwrpas bywyd? Tybed sut mae canfod hapusrwydd mewn bywyd? Tybed ’fydd ’na fywyd ar y ddaear bob amser? Beth sydd yn y dyfodol tybed ar ein cyfer ni?

Mae grym cyfansawdd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yma yn sefydlu’n eglur fod y Beibl yn drachywir a dilys. ’Rydym eisoes wedi ystyried sut y gall ei gyngor ymarferol ein helpu ni i fyw bywydau ystyrlon a hapus heddiw. Gan fod ei atebion ynglŷn â’r presennol yn bodloni, yn sicr mae ei atebion am y gorffennol a’i broffwydoliaethau am y dyfodol yn haeddu sylw gofalus.

Sut i Gael y Budd Mwyaf

Mae llawer o bobl wedi dechrau darllen y Beibl ond yn rhoi’r gorau iddi wrth ganfod rhannau ohono yn anodd i’w deall. Os mai hynny fu eich profiad chi, mae ’na rai pethau all helpu.

Mae rhai pobl yn dechrau trwy ddarllen cofnod yr Efengylau am fywyd Iesu, y mae ei ddysgeidiaeth ddoeth, fel yr hyn a welir yn y Bregeth ar y Mynydd, yn adlewyrchu ymwybyddiaeth graff am y natur ddynol ac yn amlinellu sut i wella’n rhan.—Gweler Mathew penodau 5 i 7.

Yn ogystal â darllen drwy’r Beibl, gall dull testunol o astudio fod yn eithaf addysgiadol. Mae hyn yn golygu dadansoddi’r hyn sydd gan y Beibl i’w ddweud ar bwnc penodol. Efallai y synnech ddysgu’r hyn sydd gan y Beibl i’w ddweud mewn gwirionedd ar bynciau fel yr enaid, y nefoedd, y ddaear, bywyd, a marwolaeth, yn ogystal ag ar Deyrnas Dduw—beth ydyw a’r hyn y bydd hi’n ei ­gyflawni. * Mae gan Dystion Jehofah raglen ar gyfer astudio’r Beibl yn destunol, a ddarperir yn ddi-dâl. Gellwch holi amdani drwy ysgrifennu at y cyhoeddwyr, gan ddefnyddio’r cyfeiriad addas a restrir ar dudalen 2.

Wedi archwilio’r dystiolaeth, mae llawer o bobl wedi dod i’r casgliad mai o Dduw, a adwaenir yn yr Ysgrythurau wrth yr enw “Jehofah,” y mae’r Beibl. (Salmau 83:18, BCL) Efallai na’ch argyhoeddir chi fod y Beibl o ffynhonnell ddwyfol. Ond pam nad ei archwilio drosoch eich hun? ’Rydym yn hyderus wedi proses o ddysgu, myfyrio, ac efallai brofi gwerth ymarferol ei ddoethineb digyfnewid drosoch eich hun, y deuwch i deimlo fod y Beibl yn wir yn llyfr i bawb, ac yn fwy na hynny—yn llyfr i chi.

[Troednodiadau]

^ Par. 9 Llyfr sydd wedi helpu llawer i astudio’r Beibl yn destunol yw Knowledge That Leads to Everlasting Life, a gyhoeddir gan the Watchtower Bible and Tract Society of New York, Inc.