Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 10

Mae Iesu yn Gryfach Na’r Cythreuliaid

Mae Iesu yn Gryfach Na’r Cythreuliaid

WYT ti’n cofio pam gwnaeth un o angylion Duw droi’n Satan y Diafol?— Roedd ef eisiau i bobl ei addoli ef yn lle Duw. A wnaeth angylion eraill ddilyn Satan?— Do. Mae’r Beibl yn eu galw nhw’n ‘angylion Satan,’ neu gythreuliaid.—Datguddiad 12:9.

Ydy’r angylion drwg, neu gythreuliaid, hyn yn credu yn Nuw?— Mae’r Beibl yn dweud: ‘Mae’r cythreuliaid yn credu yn Nuw.’ (Iago 2:19) Ond nawr maen nhw’n ofnus oherwydd maen nhw’n gwybod bydd Duw yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi eu gwneud. Ond beth maen nhw wedi ei wneud?—

Mae’r Beibl yn dweud bod yr angylion hynny wedi gadael eu cartref yn y nef a dod i fyw ar y ddaear er mwyn cael rhyw gyda’r menywod hardd yno. (Genesis 6:1, 2; Jwdas 6) Beth wyt ti’n ei wybod am ryw?—

Mae dyn a dynes yn cael rhyw drwy ddod yn agos iawn at ei gilydd mewn ffordd arbennig. Wedyn mae babi yn gallu tyfu ym mol y fam. Ond dydy angylion ddim i fod i gael rhyw. Mae Duw yn dweud mai dim ond gŵr a gwraig sydd wedi priodi sydd i gael rhyw. Yna, os bydd babi yn cael ei eni, bydd y gŵr a’i wraig yn gallu gofalu amdano.

Pa beth drwg a wnaeth yr angylion hyn?

Pan greodd yr angylion gyrff dynol iddyn nhw eu hunain a chael rhyw gyda menywod ar y ddaear, cawson nhw fabanod a dyfodd i fod yn gewri. Roedden nhw’n gas iawn ac roedden nhw’n brifo pobl. Felly daeth Duw â dilyw mawr i ddinistrio’r cewri a’r bobl ddrwg i gyd. Ond dywedodd wrth Noa am adeiladu arch, neu gwch mawr, i achub y bobl dda. Dywedodd Iesu ei bod hi’n bwysig iawn inni gofio beth ddigwyddodd yn ystod y Dilyw.—Genesis 6:​3, 4, 13, 14; Luc 17:26, 27.

Pan ddaeth y Dilyw, wyt ti’n gwybod beth ddigwyddodd i’r angylion drwg?— Aethon nhw yn ôl i’r nef a stopio defnyddio eu cyrff dynol. Ond doedden nhw ddim yn cael bod yn angylion Duw eto, felly daethon nhw’n angylion Satan, neu gythreuliaid. A beth ddigwyddodd i’w plant, y cewri?— Bu farw nhw yn ystod y Dilyw gyda’r holl bobl eraill oedd heb wrando ar Dduw.

Pam mae mwy o drais yn y byd heddiw nag erioed o’r blaen?

Ers y Dilyw, dydy Duw ddim yn gadael i’r cythreuliaid droi eu hunain yn ddynion mwyach. Ond er nad ydyn ni’n gallu eu gweld, mae’r cythreuliaid yn dal yn ceisio dylanwadu ar bobl i wneud pethau drwg iawn. Maen nhw wedi cael eu taflu allan o’r nef i’r ddaear ac felly maen nhw’n achosi mwy o drwbl nag erioed.

Pam rwyt ti’n meddwl na allwn ni weld y cythreuliaid?— Mae oherwydd eu bod nhw’n anweladwy. Ond gallwn ni fod yn sicr eu bod nhw’n bodoli. Mae’r Beibl yn dweud bod Satan ‘yn camarwain pobl trwy’r byd i gyd,’ a bod ei gythreuliaid yn ei helpu.—Datguddiad 12:9, 12.

Ydy’r Diafol a’i gythreuliaid yn gallu ein camarwain, neu ein twyllo ni hefyd?— Ydyn, os nad ydyn ni’n ofalus. Ond does dim rhaid inni ofni. Dywedodd Iesu: ‘Does gan y Diafol ddim gafael arna i.’ Os ydyn ni’n aros yn agos at Dduw, bydd ef yn ein hamddiffyn ni rhag y Diafol a’i gythreuliaid.—Ioan 14:30.

Mae’n bwysig inni wybod pa bethau drwg mae’r cythreuliaid eisiau inni eu gwneud. Meddylia amdani. Pa bethau drwg a wnaeth y cythreuliaid pan ddaethon nhw i’r ddaear?— Cyn y Dilyw, roedden nhw’n cael rhyw gyda menywod. Roedd hynny yn beth drwg i angylion ei wneud. Heddiw mae’r cythreuliaid yn hapus pan na fydd pobl yn gwrando ar gyfraith Duw am ryw. Pwy wyt ti’n meddwl yw’r unig rai a ddylai gael rhyw?— Ie, rwyt ti’n iawn, dim ond gŵr a gwraig.

Heddiw mae rhai bechgyn a merched ifanc yn cael rhyw, ond mae hynny yn beth drwg. Mae’r Beibl yn sôn am organ rhywiol dynion, neu ‘bidyn.’ (Lefiticus 15:1-3) Yr enw ar organau rhywiol allanol merched ydy fwlfa. Fe wnaeth Jehofa greu’r rhannau hyn o’r corff ar gyfer pwrpas arbennig i bobl briod yn unig. Pan fydd pobl yn gwneud pethau sydd yn erbyn cyfraith Jehofa, mae’r cythreuliaid yn hapus. Er enghraifft, mae’r cythreuliaid yn hapus pan fydd bachgen a merch yn chwarae gydag organau rhywiol ei gilydd. Fyddwn ni ddim eisiau gwneud y cythreuliaid yn hapus, na fyddwn ni?—

Mae ’na rywbeth arall mae’r cythreuliaid yn ei hoffi sydd yn gas gan Jehofa. Wyt ti’n gwybod beth ydy hynny?— Trais. (Salm 11:5) Mae trais yn golygu bod yn gas a brifo pobl eraill. Cofia, dyna sut roedd y cewri, plant y cythreuliaid, yn ymddwyn.

Mae’r cythreuliaid hefyd yn hoffi codi ofn ar bobl. Weithiau maen nhw’n esgus bod yn bobl sydd wedi marw. Weithiau maen nhw’n copïo lleisiau pobl sydd wedi marw. Drwy wneud hyn, maen nhw’n gwneud i lawer o bobl gredu bod pobl sydd wedi marw yn fyw ac yn gallu siarad â ni. Maen nhw’n gwneud i lawer o bobl gredu mewn bwganod.

Felly mae’n rhaid inni fod yn ofalus nad ydy Satan a’i gythreuliaid yn ein twyllo ni. Mae’r Beibl yn ein rhybuddio: ‘Mae Satan yn ffugio bod yn angel da ac mae ei weision yn gwneud yr un peth.’ (2 Corinthiaid 11:14, 15) Ond mewn gwirionedd mae’r cythreuliaid yn ddrwg. Gad inni weld sut maen nhw’n ceisio ein gwneud ni’n debyg iddyn nhw.

Ble mae pobl yn dysgu llawer am drais, am ryw sydd yn erbyn cyfraith Duw, ac am ysbrydion?— Wyt ti’n meddwl eu bod nhw’n dysgu am y pethau hyn drwy wylio rhaglenni teledu a ffilmiau, drwy chwarae gemau fideo, mynd ar y We, a darllen llyfrau comics? Ydy gwneud y pethau hyn yn ein helpu ni i agosáu at Dduw neu i agosáu at y Diafol a’i gythreuliaid? Beth wyt ti’n ei feddwl?—

Beth sy’n gallu digwydd os ydyn ni’n gwylio trais?

Pwy wyt ti’n meddwl sydd eisiau inni wylio a gwrando ar bethau drwg?— Ie, Satan a’i gythreuliaid. Felly beth sy’n rhaid inni ei wneud?— Mae angen inni ddarllen, gwylio, a gwrando ar bethau sy’n dda inni ac a fydd yn ein helpu ni i wasanaethu Jehofa. Wyt ti’n gallu meddwl am rai pethau da y gallwn ni eu gwneud?—

Pa bethau da gallwn ni eu gwneud?

Os ydyn ni’n gwneud beth sy’n dda, does dim rheswm inni ofni’r cythreuliaid. Mae Iesu’n llawer cryfach na nhw, ac maen nhw’n ei ofni. Un tro dywedodd y cythreuliaid wrth Iesu: “Wyt ti wedi dod i’n dinistrio ni?” (Marc 1:24) Byddwn ni mor hapus pan ddaw’r amser i Iesu ddinistrio Satan a’i gythreuliaid. Yn y cyfamser, os ydyn ni’n aros yn agos at Iesu a’i Dad nefol, gallwn ni fod yn sicr y byddan nhw’n ein hamddiffyn rhag y cythreuliaid.

Gad inni ddarllen am beth mae angen inni ei wneud, yn 1 Pedr 5:​8, 9 ac Iago 4:7, 8.