Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

A Wyt Ti’n Manteisio ar Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd?

A Wyt Ti’n Manteisio ar Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd?

A wyt ti’n defnyddio Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd drwy ddarllen yr Ysgrythur a’r sylwadau yn rheolaidd? Os nad wyt ti, a fedri di gynnwys hyn yn dy raglen ysbrydol? Mae llawer yn eu hystyried yn y bore fel eu bod nhw’n gallu myfyrio ar y sylwadau yn ystod y dydd. (Jos 1:8; Sal 119:97) Sut gallwn ni fanteisio yn fwy byth ar y testun Ysgrythurol? Darllena gyd-destun yr adnod yn y Beibl er mwyn deall ei chefndir. Ceisia feddwl am hanes yn y Beibl sy’n adlewyrchu egwyddor y testun. Wedyn rho’r wers ar waith yn dy fywyd. Wrth i Air Duw effeithio ar dy benderfyniadau, bydd yn llywio dy fywyd a byddi di’n cael budd ohono.—Sal 119:105.

Mae teuluoedd Bethel o gwmpas y byd yn trafod Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd amser brecwast. Yn y blynyddoedd diweddar, mae llawer o recordiadau o’r rhain wedi eu rhoi ar JW Broadcasting® o dan PROGRAMS AND EVENTS. Pryd oedd y tro diwethaf iti wylio un neu fwy ohonyn nhw? Efallai fod y deunydd yn union beth rwyt ti ei angen. Er enghraifft, sut gall hanes Lot effeithio ar dy benderfyniadau?

GWYLIA’R FIDEO DO NOT LOVE THE WORLD (1JO 2:15), AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Ar ba egwyddor Feiblaidd cafodd Addoliad y Bore hwn ei seilio?

  • Sut mae hanes Lot yn dangos y peryg o garu’r byd a’i bethau?—Ge 13:12; 14:12; 19:3, 12, 13, 24-26

  • Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru Jehofa ac nid y byd a’i bethau?

Sut galla’ i ddangos yn ystod y dydd fy mod i’n trysori Gair Jehofa?