Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwrthod Meddylfryd y Byd

Gwrthod Meddylfryd y Byd

“Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag—syniadau sy’n . . . rheoli’r byd yma.”—COLOSIAID 2:8.

CANEUON: 38, 31

1. Beth ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Colosae? (Gweler y llun agoriadol.)

YSGRIFENNODD yr apostol Paul at y Cristnogion yn Colosae tra oedd ef ei hun yn y carchar yn Rhufain tua’r blynyddoedd 60-61. Esboniodd iddyn nhw pam roedd angen “deall pethau ysbrydol,” hynny yw, gweld pethau yr un ffordd â Jehofa. (Colosiaid 1:9) Dywedodd Paul: “Dw i’n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i’ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy’n swnio’n glyfar ond sydd ddim yn wir. Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag—syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol a’r dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia.” (Colosiaid 2:4, 8) Yna, esboniodd pam mae rhai syniadau poblogaidd yn anghywir a pham mae llawer o bobl yn hoff ohonyn nhw. Er enghraifft, gall rhai o’r syniadau hyn wneud i bobl deimlo eu bod nhw’n fwy doeth ac yn well na phobl eraill. Felly, ysgrifennodd Paul ei lythyr i helpu’r brodyr i osgoi meddylfryd y byd ac i wrthod arferion drwg.—Colosiaid 2:16, 17, 23.

2. Pam y byddwn ni’n trafod esiamplau o feddylfryd y byd?

2 Mae pobl sy’n dilyn syniadau’r byd yn anwybyddu egwyddorion Jehofa, ac os nad ydyn ni’n ofalus, gall eu syniadau nhw wneud inni amau doethineb Jehofa dros amser. Anodd yw osgoi syniadau’r byd, sy’n ymddangos ar y teledu, y we, yn y gweithle, ac yn yr ysgol. Beth gallwn ni ei wneud i wrthod y dylanwad drwg hwn? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pum esiampl sy’n dangos meddylfryd y byd a byddwn ni’n gweld sut i wrthod y syniadau hyn.

OES ANGEN CREDU YN NUW?

3. Pa syniad y mae llawer o bobl yn ei hoffi, a pham?

3 “Dw i’n gallu bod yn berson da heb gredu yn Nuw.” Mae’r syniad hwn yn gyffredin mewn llawer o wledydd heddiw. Efallai fod pobl sy’n dweud hyn heb feddwl yn ddwfn am fodolaeth Duw ond, yn hytrach, yn mwynhau’r teimlad o ryddid sydd ganddyn nhw i wneud beth bynnag y maen nhw eisiau ei wneud. (Darllen Salm 10:4.) Mae eraill yn meddwl eu bod nhw’n swnio’n ddoeth pan fyddan nhw’n dweud, “Dw i’n gallu dilyn egwyddorion da heb gredu yn Nuw.”

4. Beth gallwn ni ei ddweud i helpu rhywun sydd ddim yn credu mewn Creawdwr?

4 A yw’n rhesymegol i gredu nad yw Creawdwr yn bodoli? Mae rhai pobl yn drysu pan fyddan nhw’n troi at wyddoniaeth am yr ateb. Ond mae’r gwirionedd yn syml. A allai tŷ ymddangos yn sydyn heb reswm? Na allai, wrth gwrs! Byddai’n rhaid i rywun ei adeiladu. Ond, mae pethau byw yn llawer mwy cymhleth nag unrhyw dŷ. Mae hyd yn oed y celloedd byw mwyaf syml yn gallu gwneud copïau ohonyn nhw eu hunain, rhywbeth na allai unrhyw dŷ ei wneud. Mae hyn yn golygu bod celloedd yn gallu storio gwybodaeth a’i phasio ymlaen i gelloedd newydd er mwyn iddyn nhw hefyd wneud copïau ohonyn nhw eu hunain. Pwy greodd y celloedd byw sydd â’r gallu i wneud y pethau hyn? Mae’r Beibl yn rhoi’r ateb: “Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy’n bod ydy Duw!”—Hebreaid 3:4.

5. Ydy hi’n iawn i gredu ein bod ni’n gallu gwybod beth sy’n dda heb gredu yn Nuw?

5 A ydy hi’n iawn i gredu ein bod ni’n gallu gwybod beth sy’n dda heb gredu yn Nuw? Mae’n wir fod Gair Duw yn dweud y gall hyd yn oed pobl sydd ddim yn credu ynddo ddilyn egwyddorion da. (Rhufeiniaid 2:14, 15) Er enghraifft, gall rhywun garu a pharchu ei rieni. Ond, os nad yw’n dilyn safonau Jehofa, fe all wneud penderfyniadau drwg iawn. (Eseia 33:22) Mae llawer o bobl gall heddiw yn gwbl sicr fod angen help Duw arnon ni i ddatrys problemau ofnadwy’r byd. (Darllen Jeremeia 10:23.) Felly, ddylen ni byth feddwl y gallwn ni wybod beth sy’n dda heb gredu yn Nuw a heb ddilyn ei safonau.—Salm 146:3.

OES ANGEN CREFYDD?

6. Beth mae llawer o bobl yn ei feddwl am grefydd?

6 “Gelli di fod yn hapus heb grefydd.” Mae llawer yn teimlo bod crefydd yn ddiflas ac yn ddiwerth. Hefyd, mae llawer o grefyddau yn dysgu am uffern, yn rhoi pwysau ar bobl i roi arian, neu’n cefnogi gwleidyddion. Nid yw’n syndod fod mwy a mwy o bobl yn dweud eu bod nhw’n hapus heb grefydd! Efallai y bydden nhw’n dweud pethau fel: “Mae gen i ddiddordeb yn Nuw, ond dydw i ddim eisiau perthyn i unrhyw grefydd.”

7. Sut gall gwir grefydd dy wneud di’n hapus?

7 Ydy hi’n wir ein bod ni’n gallu bod yn hapus heb grefydd? Wrth gwrs, gall person fod yn hapus heb gau grefydd. Ond, ni all unrhyw un fod yn wirioneddol hapus oni bai ei fod yn ffrind i Jehofa, y “Duw bendigedig!” (1 Timotheus 1:11) Mae popeth y mae Jehofa’n ei wneud yn helpu pobl eraill. Fel gweision iddo, rydyn ni’n hapus oherwydd ein bod ninnau hefyd yn edrych am ffyrdd i helpu pobl eraill. (Actau 20:35) Er enghraifft, meddylia am sut gall gwir addoliad helpu teulu i fod yn hapus. Rydyn ni’n dysgu sut i barchu ein cymar a bod yn ffyddlon iddo ef neu hi, sut i fagu plant parchus, a sut i ddangos cariad go iawn tuag at aelodau’r teulu. Mae gwir addoliad yn helpu pobl Jehofa i gydweithio mewn heddwch yn y gynulleidfa ac i ddangos cariad tuag at eu brodyr.—Darllen Eseia 65:13, 14.

8. Sut gall Mathew 5:3 ein helpu i ddeall beth sy’n dod â gwir hapusrwydd?

8 Felly, a all rhywun fod yn wirioneddol hapus heb wasanaethu Duw? Beth sy’n gwneud pobl yn hapus? Mae rhai yn mwynhau gweithio, chwaraeon, neu hobïau. Mae eraill yn teimlo’n dda wrth edrych ar ôl eu teulu a’u ffrindiau. Er bod y pethau yma’n dod â hapusrwydd, mae ’na fwy i fywyd na hynny’n unig. Rydyn ni’n wahanol i anifeiliaid, felly, gallwn ni ddod i adnabod ein Creawdwr a’i addoli. Mae Duw wedi ein creu ni i deimlo’n hapus pan fyddwn ni’n gwneud y pethau hynny. (Darllen Mathew 5:3.) Er enghraifft, rydyn ni’n teimlo’n hapus ac yn cael ein calonogi pan ydyn ni’n cwrdd â’n brodyr a’n chwiorydd i addoli Jehofa. (Salm 133:1) Rydyn ni hefyd yn teimlo’n llawen oherwydd ein bod ni’n rhan o frawdoliaeth fyd-eang sy’n byw bywyd glân ac sydd â gobaith hyfryd ar gyfer y dyfodol.

OES ANGEN SAFONAU MOESOL?

9. (a) Pa agwedd tuag at ryw sy’n boblogaidd? (b) Pam mae Gair Duw yn dweud bod cael rhyw y tu allan i’r briodas yn ddrwg?

9 “Beth sy’n bod â chael rhyw heb briodi?” Efallai y bydd pobl yn gofyn: “Pam rydych chi mor llym? Mwynha dy fywyd.” Ond mae Gair Duw yn gwahardd anfoesoldeb rhywiol. * (Gweler y troednodyn.) (Darllen 1 Thesaloniaid 4:3-8.) Mae gan Jehofa’r hawl i osod deddfau inni oherwydd ei fod wedi ein creu ni. Mae’n dweud mai dim ond dyn a dynes sydd wedi priodi â’i gilydd sy’n gallu cael perthynas rywiol. Mae Jehofa yn rhoi deddfau inni oherwydd ei fod yn ein caru ni. Mae’n gwybod y bydd ein bywydau’n well os ydyn ni’n eu dilyn. Bydd teulu sy’n dilyn deddfau Duw yn dod yn fwy cariadus a pharchus ac yn teimlo’n saff. Ond, bydd Duw yn cosbi’r rhai sy’n gwybod ei ddeddfau ac yn gwrthod ufuddhau iddyn nhw.—Hebreaid 13:4.

10. Sut gall Cristion osgoi anfoesoldeb rhywiol?

10 Mae’r Beibl yn ein dysgu ni am sut i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Mae’n rhaid inni reoli’r hyn rydyn ni’n edrych arno. Dywedodd Iesu: “Dw i’n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy’n llygadu gwraig a’i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi. Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd.” (Mathew 5:28, 29) Felly, mae’n rhaid inni osgoi pornograffi a cherddoriaeth anfoesol. Ysgrifennodd Paul: “Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol.” (Colosiaid 3:5) Hefyd, mae’n rhaid inni reoli’r hyn rydyn ni’n meddwl amdano ac yn ei drafod.—Effesiaid 5:3-5.

GYRFA YN Y BYD

11. Pam efallai y bydden ni eisiau gyrfa dda?

11 “Bydd gyrfa dda yn dy wneud di’n hapus.” Gall pobl ddweud wrthyn ni am ganolbwyntio ar yrfa yn y byd, yn enwedig un a fydd yn dod ag enwogrwydd, grym, neu gyfoeth. Oherwydd bod cymaint o bobl yn meddwl y bydd gyrfa dda yn dod â hapusrwydd, mae ’na berygl i ninnau ddechrau meddwl hynny hefyd.

12. A fydd gyrfa dda yn dy wneud di’n hapus?

12 Ydy hi’n wir fod gyrfa sy’n dy wneud di’n bwerus neu’n enwog yn dy wneud di’n hapus? Nac ydy. Meddylia am hyn. Roedd Satan eisiau bod yn bwerus ac yn enwog. Mewn ffordd, fe gafodd yr hyn roedd yn ei ddymuno. Ond, dydy’r Diafol ddim yn hapus, mae’n flin. (Mathew 4:8, 9; Datguddiad 12:12) I’r gwrthwyneb, meddylia am ba mor hapus rydyn ni wrth inni helpu pobl eraill i ddysgu am Dduw ac am y dyfodol arbennig mae’n ei addo inni. Ni all unrhyw yrfa yn y byd roi’r fath hapusrwydd iti. Hefyd, er mwyn ennill gyrfa dda, yn aml mae pobl yn troi’n gystadleuol, yn ymosodol, neu’n genfigennus o bobl eraill. Ond, yn y pen draw, maen nhw’n dal yn teimlo’n wag. Mae’r Beibl yn dweud eu bod nhw’n “ceisio rheoli’r gwynt!”—Pregethwr 4:4.

13. (a) Beth yw’r agwedd gywir tuag at ein swydd? (b) Beth oedd yn gwneud Paul yn wirioneddol hapus?

13 Wrth gwrs, mae angen inni ennill bywoliaeth, ac nid yw dewis swydd rydyn ni’n ei mwynhau yn anghywir. Ond, ni ddylai ein swydd gael y lle cyntaf yn ein bywyd. Dywedodd Iesu: “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.” (Mathew 6:24) Gwasanaethu Jehofa a dysgu eraill am y Beibl sy’n dod â’r llawenydd mwyaf. Dyna oedd profiad yr apostol Paul. Pan oedd yn ifanc, canolbwyntiodd ar gael gyrfa lwyddiannus. Yn hwyrach ymlaen, fe ddaeth yn wirioneddol hapus pan welodd sut roedd neges Duw yn newid bywydau’r bobl roedd yn pregethu iddyn nhw. (Darllen 1 Thesaloniaid 2:13, 19, 20.) Mae gwasanaethu Jehofa a dysgu eraill amdano yn dod â mwy o hapusrwydd nag unrhyw yrfa yn y byd!

Rydyn ni’n hapus pan ydyn ni’n helpu eraill i ddysgu am Dduw (Gweler paragraffau 12, 13)

DATRYS PROBLEMAU’R BYD

14. Pam mae pobl yn hoffi’r syniad fod dyn yn gallu datrys ei broblemau ei hun?

14 “Gall bodau dynol ddatrys eu problemau eu hunain.” Mae llawer o bobl yn hoffi’r syniad hwn. Pam? Petai’n wir, byddai’n golygu nad oes angen arweiniad Duw arnon ni, ac ein bod ni’n gallu gwneud beth bynnag a fynnwn ni. Wyt ti wedi clywed pobl yn dweud bod problemau fel rhyfel, trosedd, clefydau, a thlodi yn lleihau? Dywedodd un adroddiad: “Y rheswm y mae dynolryw yn gwella ydy bod pobl wedi penderfynu gwneud y byd yn lle gwell.” Ydy hynny’n wir? Ydy pobl, o’r diwedd, yn dechrau gweithio allan sut i ddatrys problemau’r byd? Gad inni edrych ar y ffeithiau.

15. Pam gallwn ni ddweud bod problemau’r byd yn rhai difrifol?

15 Ydy pobl wedi llwyddo i gael gwared ar ryfel? Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail, bu farw dros 60 miliwn o bobl. Yn ystod 2015 yn unig, cafodd 12.4 miliwn o bobl eu gorfodi i adael eu cartrefi oherwydd rhyfeloedd neu erledigaeth. Oherwydd hynny, cododd y cyfanswm o bobl a gafodd eu dadleoli i 65 miliwn. Beth am drosedd? Mewn rhai llefydd, mae lefelau rhai mathau o drosedd wedi gostwng. Ond, yr un pryd, mae mathau eraill, fel seiberdrosedd, trais yn y cartref, a therfysgaeth, ar gynnydd. Beth am glefydau? Mae’n wir fod pobl wedi dod o hyd i ffyrdd o iacháu rhai afiechydon. Ond yn 2013, dywedodd adroddiad fod naw miliwn o bobl o dan 60 oed yn marw bob blwyddyn oherwydd clefyd y galon, cael strôc, canser, afiechydon resbiradol, a diabetes. A beth am dlodi? Yn ôl Banc y Byd, mae’r nifer o bobl sy’n byw mewn tlodi difrifol yn Affrica yn unig wedi cynyddu o 280 miliwn yn 1990 i 330 miliwn yn 2012.

16. (a) Pam mai dim ond Teyrnas Dduw sy’n gallu datrys problemau’r byd? (b) Beth ddywedodd Eseia ac un o’r salmwyr am yr hyn y bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud?

16 Dydy’r ffeithiau hyn ddim yn ein synnu. Heddiw, mae cyfundrefnau economaidd a gwleidyddol yn cael eu rheoli gan bobl hunanol. Ni all y bobl hynny ddod â rhyfel, trosedd, clefydau, na thlodi i ben. Dim ond Teyrnas Dduw sy’n gallu gwneud hynny. Meddylia am beth bydd Jehofa’n ei wneud dros ddynolryw. Bydd ei Deyrnas yn cael gwared ar bopeth sy’n achosi rhyfel, fel hunanoldeb, llygredd, gwladgarwch, gau grefydd, a Satan ei hun. (Salm 46:8, 9) Bydd Teyrnas Dduw yn dod â throsedd i ben. Hyd yn oed heddiw, drwy gyfrwng y Deyrnas, mae miliynau o bobl yn cael eu dysgu i garu ac i drystio ei gilydd. Ni all unrhyw lywodraeth arall wneud hyn. (Eseia 11:9) Cyn bo hir, bydd Jehofa yn cael gwared ar bob clefyd ac yn gwneud pawb yn berffaith iach. (Eseia 35:5, 6) Bydd yn dod â thlodi i ben ac yn ei gwneud hi’n bosib i bawb fwynhau bywyd hapus a chael perthynas agos ag ef. Mae hynny’n werth llawer mwy nag unrhyw swm o arian.—Salm 72:12, 13.

ATEB YN Y FFORDD IAWN

17. Sut gelli di wrthod meddylfryd y byd?

17 Felly, os wyt ti’n clywed syniad poblogaidd sy’n herio dy ffydd, dysga beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y pwnc. Siarada amdano â brawd neu chwaer aeddfed. Meddylia am y rheswm pam mae pobl yn hoff o’r syniad, pam mae’n anghywir, a sut i’w wrthod. Gallwn ein hamddiffyn ein hunain rhag meddylfryd y byd drwy wneud yr hyn y soniodd Paul amdano: “Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi’n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. . . . A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.”—Colosiaid 4:5, 6.

^ Par. 9 Mae rhai cyfieithiadau o’r Beibl wedi ychwanegu adnodau nad oedden nhw’n rhan o’r Ysgrythurau gwreiddiol, sef Ioan 7:53–8:11. Mae rhai wedi darllen yr adnodau hyn ac wedi dod i’r casgliad anghywir mai dim ond person heb bechod sy’n gallu barnu rhywun sydd wedi godinebu. Ond, mae’r Gyfraith a roddodd Duw i’r Israeliaid yn dweud: “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i’r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â’r drwg o Israel.”—Deuteronomium 22:22.