Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Roedden Nhw Eisiau Imi Brofi’r Gwir Drosto I Fy Hun”

“Roedden Nhw Eisiau Imi Brofi’r Gwir Drosto I Fy Hun”
  • GANWYD: 1982

  • GWLAD ENEDIGOL: GWERINIAETH DOMINICA

  • HANES: CES I FY MAGU FEL MORMON

FY NGHEFNDIR:

Ces i fy ngeni yn Santo Domingo, Gweriniaeth Dominica, yr ifanca’ o bedwar o blant. Roedd fy rhieni yn addysgedig ac roedden nhw eisiau magu eu plant ymysg pobl dda a gonest. Pedair blynedd cyn imi gael fy ngeni, gwnaeth fy rhieni gwrdd â chenhadon Mormon. Gwnaeth gwisg a thrwsiad da’r dynion ifanc a’u cwrteisi wneud argraff dda ar fy rhieni. Yn fuan wedyn, penderfynodd fy rhieni y byddai ein teulu yn dod yn un o’r teuluoedd cyntaf ar yr ynys i ymuno ag Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, neu’r Eglwys Formonaidd.

Wrth imi dyfu fyny, o’n i’n mwynhau gweithgareddau cymdeithasol yr eglwys ac o’n i’n parchu pwyslais y Mormoniaid ar fywyd teuluol a gwerthoedd moesol. O’n i’n falch o fod yn Formon ac roedd gen i nod o fod yn genhadwr.

Pan o’n i’n 18 oed, gwnaeth fy nheulu symud i’r Unol Daleithiau er mwyn imi allu mynd i Brifysgol dda. Ryw flwyddyn wedyn, daeth fy modryb a’m hewyrth, sy’n Dystion Jehofa, i’n gweld ni yn Fflorida. Gwnaethon nhw ein gwahodd ni i fynd i gynhadledd Feiblaidd gyda nhw. Gwnaeth y ffaith fod pawb o’m cwmpas yn troi at yr Ysgrythurau a chymryd nodiadau greu argraff arna i. Felly gofynnais am bin a phapur a dechreuais wneud yr un fath.

Ar ôl y gynhadledd, gan fy mod i â diddordeb mewn bod yn genhadwr, awgrymodd fy modryb a’m hewyrth y bydden nhw’n gallu fy helpu i ddysgu rhywbeth am y Beibl. O’n i’n meddwl bod hyn yn syniad da achos ar y pryd o’n i’n gwybod mwy am Lyfr Mormon nag o’n i am y Beibl.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Yn ystod ein trafodaethau Beiblaidd dros y ffôn, byddai fy modryb a’m hewyrth bob amser yn fy annog i gymharu fy naliadau gyda dysgeidiaethau’r Beibl. Roedden nhw eisiau imi brofi’r gwirionedd drosto i fy hun.

Roedd ’na lawer o bethau gyda’r ffydd Formonaidd o’n i wedi eu derbyn, ond do’n i ddim yn siŵr sut roedd yr Ysgrythurau yn cymharu â’r syniadau hynny. Anfonodd fy modryb imi rifyn Tachwedd 8, 1995 o’r cylchgrawn Deffrwch! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa, a oedd yn cynnwys erthyglau ar y ffydd Formonaidd. Er syndod imi, do’n i ddim yn gyfarwydd â llawer o ddysgeidiaethau Mormonaidd. Ysgogodd hynny imi wneud ymchwil ar wefan swyddogol y Mormoniaid i gadarnhau bod yr hyn a ddywedwyd yn y Deffrwch! yn wir. Mi oedd yn wir, ac mi gafodd y ffeithiau hynny eu cadarnhau ymhellach pan ymwelais ag amgueddfeydd y Mormoniaid yn Utah.

O’n i wastad wedi credu nad oedd Llyfr Mormon a’r Beibl yn mynd yn groes i’w gilydd. Ond pan ddechreuais ddarllen y Beibl o ddifri, sylwais fod dysgeidiaethau Mormonaidd yn mynd yn groes i’r hyn oedd yn y Beibl. Er enghraifft, yn Eseciel 18:4, Beibl Cysegr-lân, mae’r Beibl yn dweud bod yr enaid yn marw. Ond, yn Llyfr Mormon, argraffiad Cymraeg 1852, mae’n dweud yn Alma tudalen 278, llinell 15, “nas gallai yr enaid byth farw.”

Yn ogystal â’r anghysondeb athrawiaethol, roedd syniadau cenedlaetholgar y Mormoniaid yn fy mhoeni. Er enghraifft, mae’r Mormoniaid yn cael eu dysgu bod gardd Eden yn Jackson County, Missouri, yn yr Unol Daleithiau. Ac mae proffwydi’r eglwys yn dweud pan fydd “Teyrnas Dduw yn bodoli bydd baner yr Unol Daleithiau yn chwifio yn falch a dilychwin ar bolyn baner rhyddid a hawliau cyfartal.”

Do’n i ddim yn deall sut byddai gwlad fy ngenedigaeth​—neu unrhyw wlad arall o ran hynny​—yn ffitio’r darlun hwn. Gwnes i godi’r pwnc un noswaith pan ges i alwad ffôn gan Formon ifanc oedd yn cael ei hyfforddi i fod yn genhadwr. Gofynnais iddo’n blaen, a fyddai’n fodlon ymladd yn erbyn ei gyd-Formoniaid petai ei wlad yn mynd i ryfel yn erbyn eu gwlad nhw? Ces i fy synnu pan ddywedodd y byddai! Gwnes i gloddio’n ddyfnach i ddysgeidiaethau fy ffydd a holi rhai o arweinwyr cyfrifol y Mormoniaid. Yr ateb ges i oedd, bod fy nghwestiynau yn ymwneud â dirgelion a fyddai ryw ddydd yn cael eu datrys wrth i’r goleuni ddod yn fwy disglair.

Wedi fy siomi gyda’u hesboniad, wnes i edrych yn fwy manwl arna i fy hun a fy rheswm dros eisiau bod yn genhadwr Mormonaidd. Gwnes i sylweddoli mai un rheswm dros eisiau bod yn genhadwr oedd fy mod i eisiau helpu pobl eraill. Roedd y statws cymdeithasol a fyddai’n dod gyda bod yn genhadwr yn apelio ata i. Y ffaith amdani oedd, do’n i ddim yn gwybod llawer am Dduw. Er imi edrych lawer gwaith ar y Beibl yn y gorffennol doeddwn i ddim wir wedi ei werthfawrogi. Doedd gen i ddim syniad am bwrpas Duw ar gyfer y ddaear nac ar gyfer dynolryw.

FY MENDITHION:

Drwy fy astudiaeth o’r Beibl gyda Thystion Jehofa, dysgais, ymhlith pethau eraill, beth yw enw Duw, beth sy’n digwydd ar ôl marw, a beth yw rôl Iesu yng nghyflawniad pwrpas Duw. O’r diwedd des i’n gyfarwydd â’r llyfr rhyfeddol hwnnw. O’n i wrth fy modd yn rhannu ag eraill y gwirioneddau o’n i’n eu dysgu. O’n i wastad yn gwybod bod Duw yn bodoli, ond nawr o’n i’n gallu siarad ag ef mewn gweddi fel fy Ffrind gorau. Ces i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa ar Orffennaf 12, 2004, a chwe mis yn ddiweddarach dechreuais weithio’n llawn amser yn y weinidogaeth Gristnogol.

Am bum mlynedd, gweithiais ym mhencadlys Tystion Jehofa yn Brooklyn, Efrog Newydd. O’n i wrth fy modd yn gallu helpu cynhyrchu Beiblau a llenyddiaeth Feiblaidd sy’n bwydo miliynau o bobl o gwmpas y ddaear yn ysbrydol, a dw i’n dal i fwynhau helpu eraill i ddysgu am Dduw.