Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Yr Wyf Wedi Amlygu Dy Enw”

“Yr Wyf Wedi Amlygu Dy Enw”

“Yr Wyf Wedi Amlygu Dy Enw”

“Yr wyf wedi amlygu dy enw i’r rhai a roddaist imi allan o’r byd. . . . Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto.”—IOAN 17:6, 26, BCND.

Beth Mae’n Ei Olygu: Mi wnaeth Iesu wneud enw Duw yn hysbys drwy ei ddefnyddio yn ei weinidogaeth. Pan fyddai Iesu’n darllen o’r Ysgrythurau, fel y gwnaeth yn aml, mi fyddai wedi dweud enw personol Duw. (Luc 4:16-21, Thomas Briscoe) Dysgodd ei ddilynwyr i weddïo: “Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.”—Luc 11:2.

Sut Gwnaeth y Cristnogion Cynnar Ateb y Gofynion: Dywedodd yr apostol Pedr wrth yr henuriaid yn Jerwsalem fod Duw wedi cymryd o blith y Cenhedloedd “bobl yn dwyn ei enw.“ (Actau 15:14, BCND) Pregethodd yr apostolion ac eraill: “Pob un a alwo ar enw Iehofah fydd gadwedig.” (Actau 2:21, Briscoe; Rhufeiniaid 10:13) Roedden nhw hefyd yn defnyddio’r enw dwyfol yn eu hysgrifau eu hunain. Mae’r Toseffta, casgliad o ddeddfau Iddewig a orffennwyd tua 300 OG, yn dweud ynghylch llosgi ysgrifau Cristnogol gan wrthwynebwyr: “Dydyn nhw ddim yn achub llyfrau’r Efengylwyr na llyfrau’r minim [Cristnogion Iddewig mae’n debyg] rhag y tân. Ond maen nhw’n cael llosgi yn y fan a’r lle, . . . y nhw a’r cyfeiriadau at yr Enw Dwyfol sydd ynddyn nhw.”

Pwy Sy’n Ffitio’r Patrwm Heddiw? Mae’r Revised Standard Version o’r Beibl, sydd wedi ei awdurdodi gan Gyngor Cenedlaethol Eglwysi Crist yn yr Unol Daleithiau, yn dweud yn ei ragair: “Daeth y defnydd o unrhyw enw priod ar gyfer yr unig wir Dduw, fel petai ’na dduwiau eraill i wahaniaethu oddi wrthyn nhw, i ben yn Iddewiaeth cyn y cyfnod Cristnogol ac y mae’n gwbl amhriodol ar gyfer ffydd gyffredinol yr Eglwys Gristnogol.” Felly, gwnaethon nhw ddisodli’r enw dwyfol gyda’r teitl, “ARGLWYDD.” Yn ôl y Rhagarweiniad i’r Hen Destament, yn y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig: “Cadwyd y dull traddodiadol o drosi’r enw dwyfol Iafe (Yahweh) yn ARGLWYDD (mewn priflythrennau), a defnyddio Arglwydd am ’adonai.” Yn ddiweddar, cafodd esgobion orchymyn gan y Fatican: “Ni ddylai ddefnyddio nac ynganu enw Duw ar ffurf y tetragramaton IHWH * mewn caneuon na gweddïau.”

Pwy heddiw sy’n defnyddio ac amlygu enw personol Duw? Pan oedd Sergey yn ei arddegau yng Nghirgistan, gwyliodd ffilm oedd yn galw Duw wrth yr enw Jehofa. Am ryw ddeng mlynedd wedyn, chlywodd Sergey mo’r enw dwyfol eto. Yn hwyrach ymlaen, wedi iddo symud i’r Unol Daleithiau, daeth dau o Dystion Jehofa i’w dŷ a dangos enw Duw iddo yn y Beibl. Roedd Sergey wrth ei fodd i gael hyd i grŵp oedd yn defnyddio enw Jehofa. Diddorol yw nodi fod Webster’s Third New International Dictionary, o dan y pennawd “Jehofa Dduw,” yn rhoi’r diffiniad “goruwch dduw sy’n cael ei gydnabod, a’i addoli gan Dystion Jehofa fel yr unig dduw.”

[Troednodyn]

^ Par. 5 Yn y Gymraeg, fel arfer mae’r enw dwyfol yn cael ei drawslythrennu’n “Jehofa.”