Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB

2 | Peidio â Thalu’r Pwyth yn Ôl

2 | Peidio â Thalu’r Pwyth yn Ôl

Dysgeidiaeth o’r Beibl:

“Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl. . . . Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. Peidiwch mynnu dial ar bobl . . . Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘“Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl” meddai’r Arglwydd.’”RHUFEINIAID 12:17-19.

Beth Mae’n ei Olygu:

Er ei fod yn beth naturiol i deimlo’n ddig pan mae rhywun yn ein brifo ni, dydy Duw ddim eisiau inni dalu drwg am ddrwg. Yn hytrach, mae’n ein hannog ni i fod yn amyneddgar achos yn fuan bydd yn cywiro pob cam.—Salm 37:7, 10.

Beth Allwch Chi ei Wneud:

Pan fydd pobl amherffaith yn dial, maen nhw’n cyfrannu at y cylch o gasineb. Felly, os ydy rhywun wedi eich brifo chi neu wedi achosi niwed ichi, peidiwch â thalu’r pwyth yn ôl. Ceisiwch reoli’ch teimladau ac ymateb mewn ffordd heddychlon. Weithiau, byddai’n well i anghofio am y peth. (Diarhebion 19:11) Wrth gwrs, ar adegau eraill, byddai’n well gweithredu. Er enghraifft, os ydych chi wedi dioddef trosedd, efallai byddwch chi eisiau rhoi gwybod i’r heddlu neu’r awdurdodau.

Mae talu’r pwyth yn ôl yn achosi niwed i’ch hun

Beth os nad ydych chi’n gallu gweld ffordd heddychlon o ddatrys y broblem? Neu beth os ydych chi wedi gwneud popeth bosib i’w datrys? Peidiwch â dial. Bydd hynny’n debygol o wneud y sefyllfa’n waeth. Yn hytrach, torrwch y cylch o gasineb. Gallwch chi ddysgu i ddibynnu ar ffordd Duw o ddatrys y broblem. ‘Trystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di.’—Salm 37:3-5.