Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 49

Yr Atgyfodiad—Gobaith Sicr!

Yr Atgyfodiad—Gobaith Sicr!

“Dw i’n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl . . . yn ôl yn fyw.”—ACT. 24:15.

CÂN 151 Geilw Ef

CIPOLWG a

1-2. Pa obaith hyfryd sydd gan weision Jehofa?

 MAE gobaith yn bwysig iawn. Mae gobaith rhai pobl yn seiliedig ar gael priodas hapus, magu plant iach, neu wella o salwch difrifol. Efallai ein bod ninnau fel Cristnogion yn dyheu am yr un pethau. Ond rydyn ni’n gobeithio am rywbeth mwy na hynny. Ein gobaith ni yw byw am byth a gweld ein hanwyliaid marw yn ôl yn fyw unwaith eto.

2 Dywedodd yr apostol Paul: “Dw i’n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw.” (Act. 24:15) Nid Paul oedd y cyntaf i siarad am obaith yr atgyfodiad. Fe wnaeth y patriarch Job hefyd. Roedd yn sicr y byddai Duw yn ei gofio ac yn ei atgyfodi.—Job 14:7-10, 12-15.

3. Sut gall 1 Corinthiaid pennod 15 ein helpu?

3 Mae’r “ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw” yn un o’r “pethau sylfaenol” sy’n rhan o’r ddysgeidiaeth Gristnogol. (Heb. 6:1, 2) Mae trafodaeth Paul am yr atgyfodiad i’w gweld yn 1 Corinthiaid pennod 15. Mae’n rhaid fod yr hyn a ysgrifennodd wedi calonogi Cristnogion y ganrif gyntaf. A gall y bennod honno ein calonogi ninnau a chryfhau ein gobaith ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi credu yn yr atgyfodiad.

4. Pam y gallwn fod yn sicr y bydd ein hanwyliaid yn cael eu hatgyfodi?

4 Mae atgyfodiad Iesu yn rhoi sicrwydd inni y bydd ’na atgyfodiad i’n hanwyliaid marw. Roedd yn rhan o’r “newyddion da” a gyhoeddodd Paul i’r Corinthiaid. (1 Cor. 15:1, 2) Aeth mor bell â dweud, os nad oedd Cristion yn credu yn yr atgyfodiad, byddai ei ffydd yn ddiwerth. (1 Cor. 15:17) Credu yn atgyfodiad Iesu yw sail ein gobaith Cristnogol.

5-6. Beth mae geiriau 1 Corinthiaid 15:3, 4 yn ei olygu i ni?

5 Yn gynnar yn nhrafodaeth Paul ynglŷn â’r atgyfodiad, soniodd am dair ffaith, sef (1) “Bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni,” (2) “ei fod wedi ei gladdu,” a (3) ei fod “wedi ei godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae’r ysgrifau’n dweud.”—Darllen 1 Corinthiaid 15:3, 4.

6 Beth mae marwolaeth Iesu, ei gladdedigaeth, a’i atgyfodiad yn ei olygu i ni? Rhagfynegodd y proffwyd Eseia y byddai’r Meseia’n cael “ei dorri i ffwrdd o dir y byw” ac yn cael “ei gladdu gyda throseddwyr.” Ond, byddai rhywbeth arall yn digwydd. Ychwanegodd Eseia y byddai’r Meseia’n cymryd ‘pechodau llawer o bobl arno’i hun.’ Fe wnaeth Iesu hyn drwy roi ei fywyd yn bridwerth. (Esei. 53:8, 9, 12; Math. 20:28; Rhuf. 5:8.) Felly, mae marwolaeth Iesu, ei gladdedigaeth, a’i atgyfodiad yn gosod sail gadarn i’n gobaith y cawn ein rhyddhau rhag pechod a marwolaeth, ac y cawn weld ein hanwyliaid unwaith eto.

TYSTIOLAETH LLAWER O LYGAD-DYSTION

7-8. Beth sy’n helpu Cristnogion i fod yn sicr y cafodd Iesu ei atgyfodi?

7 Er mwyn credu yn yr atgyfodiad, mae’n rhaid inni’n gyntaf fod yn hollol sicr y cafodd Iesu ei atgyfodi. Pam y gallwn ni fod yn sicr fod Jehofa wedi dod â Iesu yn ôl yn fyw?

8 Roedd ’na lawer o lygad-dystion a roddodd dystiolaeth fod Iesu wedi cael ei atgyfodi. (1 Cor. 15:5-7) Y tyst cyntaf y soniodd Paul amdano oedd yr apostol Pedr (Ceffas). Cadarnhaodd grŵp o ddisgyblion fod Pedr wedi gweld Iesu yn ôl yn fyw. (Luc 24:33, 34) Ar ben hynny, gwelodd y “deuddeg disgybl” Iesu ar ôl iddo gael ei atgyfodi. Yna, cafodd y Crist “ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o’n brodyr,” efallai ar yr achlysur hapus yng Ngalilea a soniwyd amdano yn Mathew 28:16-20. “Gwelodd Iago” Iesu hefyd, ei hanner brawd yn ôl pob tebyg, a oedd heb roi ei ffydd yn Iesu fel y Meseia cyn hynny. (Ioan 7:5) Ar ôl gweld Iesu yn ôl yn fyw, cafodd Iago ei berswadio i gredu ynddo. Mae’n arwyddocaol fod llawer o lygad-dystion yr atgyfodiad yn dal yn fyw pan ysgrifennodd Paul y llythyr hwn tua 55 OG, felly byddai unrhyw un ag amheuon yn gallu holi’r llygad-dystion dibynadwy hynny.

9. Beth mae Actau 9:3-5 yn ei ddweud sy’n dangos y gallai Paul roi mwy o dystiolaeth fod Iesu wedi cael ei atgyfodi?

9 Yn hwyrach ymlaen, ymddangosodd Iesu i Paul ei hun. (1 Cor. 15:8) Roedd Paul (Saul) ar ei ffordd i Ddamascus pan glywodd lais yr Iesu atgyfodedig a chael gweledigaeth ohono yn y nef. (Darllen Actau 9:3-5.) Roedd yr hyn ddigwyddodd i Paul yn dystiolaeth bellach fod Iesu wir wedi cael ei atgyfodi.—Act. 26:12-15.

10. Beth wnaeth Paul oherwydd iddo gredu bod Iesu wedi cael ei atgyfodi?

10 Byddai rhai pobl â diddordeb mawr yn yr hyn oedd gan Paul i’w ddweud, oherwydd ar un adeg, roedd Paul wedi erlid y Cristnogion. Wedi iddo gael ei argyhoeddi fod Iesu wedi cael ei atgyfodi, gweithiodd Paul yn galed i berswadio eraill i gredu. Cafodd ei guro, ei garcharu, a’i longddryllio wrth iddo ledaenu’r ffaith fod Iesu wedi marw ond ei fod bellach yn fyw. (1 Cor. 15:9-11; 2 Cor. 11:23-27) Roedd Paul yn credu mor gadarn fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, roedd yn barod i farw wrth bregethu am hynny. Onid yw’r dystiolaeth gynnar hon yn dy sicrhau bod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw? Ac onid yw’n cryfhau dy ffydd yn yr atgyfodiad?

CYWIRO SYNIADAU ANGHYWIR

11. Pam efallai roedd gan rai yng Nghorinth syniadau anghywir am yr atgyfodiad?

11 Roedd gan rai yn ninas Corinth yng Ngwlad Groeg syniadau anghywir am yr atgyfodiad, aethon nhw hyd yn oed mor bell â dweud “fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi.” Pam? (1 Cor. 15:12) Roedd athronwyr yn Athen, dinas Roegaidd arall, wedi chwerthin ar y syniad fod Iesu wedi cael ei atgyfodi. A gallai’r agwedd hon fod wedi dylanwadu ar rai yng Nghorinth. (Act. 17:18, 31, 32) Efallai bod eraill wedi cymryd bod yr atgyfodiad yn ffigurol, hynny yw, fod rhywun a oedd “yn farw” mewn pechod yn gallu dod “yn fyw” fel Cristion. Beth bynnag oedd eu rheswm, roedd gwadu’r atgyfodiad yn golygu bod eu ffydd yn ofer. Os nad oedd Duw wedi atgyfodi Iesu, doedd dim pridwerth wedi ei dalu, a byddai pawb yn aros yn bechaduriaid. Felly, doedd gan y rhai oedd yn gwadu’r atgyfodiad ddim gobaith go iawn.—1 Cor. 15:13-19; Heb. 9:12, 14.

12. Sut mae 1 Pedr 3:18, 22 yn ein helpu ni i ddeall bod atgyfodiad Iesu yn wahanol i’r rhai cynt?

12 Gwyddai Paul o brofiad personol fod “y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw.” Roedd yr atgyfodiad hwnnw yn well nag atgyfodiad y rhai a gafodd eu codi’n ôl yn fyw ar y ddaear—dim ond i farw unwaith eto. Dywedodd Paul am Iesu: “Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf—fe ydy’r cyntaf o lawer sy’n mynd i gael eu codi.” Ym mha ffordd roedd Iesu yn gyntaf? Ef oedd y cyntaf i gael ei atgyfodi fel ysbryd a’r person cyntaf o blith dynolryw i fynd i’r nefoedd.—1 Cor. 15:20; Act. 26:23; darllen 1 Pedr 3:18, 22.

Y RHAI A FYDD “YN CAEL BYWYD”

13. Yn ôl Paul, beth yw’r gwahaniaeth rhwng Adda ac Iesu?

13 Sut gallai marwolaeth un dyn ddod â bywyd i filiynau? Rhoddodd Paul ateb clir i’r cwestiwn hwnnw. Esboniodd y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddigwyddodd i ddynolryw o achos beth wnaeth Adda, a’r hyn sy’n bosib i ni oherwydd aberth Crist. Ynglŷn ag Adda, ysgrifennodd Paul fod “marwolaeth wedi dod drwy berson dynol.” Pan bechodd Adda, daeth â marwolaeth arno’i hun ac ar ei ddisgynyddion. Rydyn ni’n dal i ddioddef canlyniadau ofnadwy ei anufudd-dod. Ond, oherwydd bod Duw wedi atgyfodi ei Fab, gallwn gael dyfodol disglair! “Daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd,” sef Iesu. “Mae pawb yn marw am eu bod nhw’n perthyn i Adda,” rhesymodd Paul, “ond mae pawb sy’n perthyn i’r Meseia yn cael bywyd newydd.”—1 Cor. 15:21, 22.

14. A fydd Adda’n cael ei atgyfodi? Esbonia.

14 Beth roedd Paul yn ei olygu pan ddywedodd fod “pawb yn marw am eu bod nhw’n perthyn i Adda”? Roedd Paul yn sôn am ddisgynyddion Adda a oedd wedi etifeddu pechod ac amherffeithrwydd ganddo, ac o ganlyniad yn mynd i farw. (Rhuf. 5:12) Dydy Adda ddim ymhlith y rhai a fydd “yn cael bywyd.” Ni all Adda elwa ar bridwerth Crist, oherwydd roedd yn ddyn perffaith a benderfynodd anufuddhau i Dduw. Yn y pen draw, bydd yr hyn a ddigwyddodd i Adda yn digwydd i’r rhai y bydd “Mab y Dyn” yn eu barnu fel “geifr,” hynny yw, byddan nhw’n cael eu torri i ffwrdd oddi wrth fywyd am byth.—Math. 25:31-33, 46; Heb. 5:9.

Iesu oedd y cyntaf o lawer i gael ei atgyfodi i fywyd yn y nef (Gweler paragraffau 15-16) b

15. Pwy sy’n cael eu cynnwys yn y “pawb” a fydd “yn cael bywyd”?

15 Sylwa fod Paul wedi dweud y byddai “pawb sy’n perthyn i’r Meseia yn cael bywyd.” (1 Cor. 15:22) Cafodd llythyr Paul ei ysgrifennu at Gristnogion eneiniog Corinth, a fyddai’n cael eu hatgyfodi i fywyd yn y nef. Cafodd y Cristnogion hynny eu “galw i fod yn bobl sanctaidd” mewn undod â Christ Iesu. A soniodd Paul am “y rhai a hunodd yng Nghrist.” (1 Cor. 1:2; 15:18, BCND; 2 Cor. 5:17, BCND) Mewn llythyr ysbrydoledig arall, ysgrifennodd Paul y byddai’r rhai sy’n “un [â Iesu] trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef,” hefyd yn “un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef.” (Rhuf. 6:3-5, BCND) Cafodd Iesu ei atgyfodi fel ysbryd ac aeth i’r nef. Felly, dyna fydd yn digwydd i bawb sydd “yng Nghrist,” hynny yw, pob Cristion eneiniog.

16. Beth oedd Paul yn ei awgrymu wrth alw Iesu yn “ffrwyth cyntaf”?

16 Ysgrifennodd Paul y cafodd Crist ei godi “fel y ffrwyth cyntaf . . . o lawer sy’n mynd i gael eu codi.” Cofia fod eraill, fel Lasarus, wedi cael eu codi yn ôl i fyw ar y ddaear, ond Iesu oedd y cyntaf erioed i gael ei atgyfodi fel ysbryd, a chael bywyd tragwyddol. Gall gael ei gymharu â ffrwyth cyntaf y cynhaeaf yr oedd yr Israeliaid yn offrymu i Dduw. A hefyd, drwy alw Iesu yn “ffrwyth cyntaf,” roedd Paul yn awgrymu y byddai eraill ar ôl Iesu yn cael eu hatgyfodi i fyw yn y nef. Byddai’r apostolion ac eraill “yng Nghrist” yn dilyn Iesu. Ymhen amser, bydden nhwthau yn cael atgyfodiad tebyg i Iesu.

17. Pryd byddai’r rhai “yng Nghrist” yn derbyn eu gwobr nefol?

17 Doedd yr atgyfodiad nefol i’r rhai “yng Nghrist” ddim wedi dechrau eto pan ysgrifennodd Paul at y Corinthiaid. Yn hytrach, roedd Paul yn cyfeirio at y dyfodol: “Dyma’r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta’r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e’n dod yn ôl, bydd pawb sy’n perthyn iddo yn ei ddilyn.” (1 Cor. 15:23; 1 Thes. 4:15, 16) Heddiw, rydyn ni’n byw yn y cyfnod hwnnw, sef presenoldeb Crist. Roedd yn rhaid i’r apostolion a’r Cristnogion eneiniog eraill a fu farw ddisgwyl am y presenoldeb hwnnw er mwyn derbyn eu gwobr nefol a bod “yn un [â Iesu] trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef.”

MAE GEN TI OBAITH SICR!

18. (a) Pam gallwn ni ddod i’r casgliad y bydd atgyfodiad arall yn dilyn yr un nefol? (b) Yn ôl 1 Corinthiaid 15:24-26, beth fydd yn digwydd yn y nef?

18 Ond beth am yr holl Gristnogion ffyddlon sydd heb y gobaith o fyw yn y nef gyda Christ? Mae ganddyn nhwthau obaith o gael eu hatgyfodi hefyd. Dywed y Beibl fod Paul ac eraill sy’n mynd i’r nef yn rhan o’r “atgyfodiad cyntaf.” (Dat. 20:6) Onid yw hynny’n awgrymu y bydd atgyfodiad arall yn ei ddilyn? Byddai hynny’n cytuno â’r hyn ddywedodd Job am ei ddyfodol. (Job 14:15) “Pan fydd [Crist yn] dod yn ôl,” yn ei bresenoldeb, bydd “pawb sy’n perthyn iddo” gyda Iesu yn y nef pan fydd yn dinistrio pob llywodraeth, awdurdod a grym. Bydd hyd yn oed y “gelyn olaf,” sef marwolaeth, yn cael ei ddinistrio. Yn bendant, fydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r nef byth yn marw. Ond beth fydd yn digwydd i’r gweddill?—Darllen 1 Corinthiaid 15:24-26.

19. Beth gall y rhai â gobaith daearol ei ddisgwyl?

19 Beth gall y rhai â gobaith daearol ei ddisgwyl? Gall geiriau Paul roi gobaith iddyn nhw: “Dw i’n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw.” (Act. 24:15) Mae’n amlwg na all rhywun anghyfiawn fynd i’r nef, felly mae’r geiriau hyn yn cyfeirio at atgyfodiad sydd i ddod ar y ddaear.

Drwy gredu yn yr atgyfodiad, cawn edrych ymlaen at ddyfodol hapus (Gweler paragraff 20) c

20. Sut mae dy obaith di wedi cael ei atgyfnerthu?

20 Heb os, fe fydd ’na atgyfodiad! Gall y rhai fydd yn cael eu hatgyfodi ar y ddaear edrych ymlaen at fyw yma am byth. Gelli di fod yn sicr y bydd yr addewid hwnnw yn dod yn wir. Gall y gobaith hwnnw dy gysuro di wrth feddwl am dy anwyliaid sydd wedi marw. Gallan nhw gael eu hatgyfodi yn ystod yr amser pan fydd Crist ac eraill yn “teyrnasu . . . am fil o flynyddoedd.” (Dat. 20:6) Gelli dithau hefyd fod yn hyderus y cei di dy atgyfodi petaset ti’n digwydd marw cyn dechrau’r Mil Blynyddoedd. Fyddwn ni ddim yn “cael ein siomi yn y gobaith yna.” (Rhuf. 5:5) Gall hyn dy gryfhau di nawr ac ychwanegu at dy lawenydd yng ngwasanaeth Duw. Ond mae ’na fwy gallwn ni ddysgu o 1 Corinthiaid pennod 15, fel y cawn weld yn yr erthygl nesaf.

CÂN 147 Yr Addewid o Fywyd Tragwyddol

a Mae Cyntaf Corinthiaid pennod 15 yn canolbwyntio ar yr atgyfodiad. Pam mae’r ddysgeidiaeth honno yn bwysig inni, a pham gallwn ni gredu y cafodd Iesu ei atgyfodi? Bydd yr erthygl hon yn trafod y cwestiynau hyn a chwestiynau pwysig eraill am yr atgyfodiad.

b DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Iesu oedd y cyntaf i gael ei gymryd i’r nef. (Act. 1:9) Ymhlith y disgyblion fyddai’n ymuno ag ef yno oedd Tomos, Iago, Lydia, Ioan, Mair, a Paul.

c DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Mae brawd wedi colli ei wraig annwyl a oedd wedi gwasanaethu wrth ei ochr ers blynyddoedd. Mae’n hollol sicr y bydd hi’n cael ei hatgyfodi, ac mae’n dal i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon.