Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth roedd Iesu’n ei olygu pan ddywedodd: “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r byd”?

Roedd y neges roedd Iesu yn ei chyhoeddi yn un heddychlon. Ond, ar un adeg dywedodd wrth ei apostolion: “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf. Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith.’” (Math. 10:34, 35) Beth roedd Iesu yn ei olygu?

Doedd Iesu ddim eisiau gwahanu teuluoedd, ond mi oedd yn gwybod y byddai’r hyn roedd yn ei ddysgu yn creu rhaniadau mewn rhai teuluoedd. Felly, roedd Iesu’n paratoi y rhai oedd eisiau cael eu bedyddio, a dod yn ddilynwyr iddo, am y treialon a allai ddod oherwydd eu penderfyniad. Petasai eu hanwyliaid yn eu gwrthwynebu nhw, gallai aros yn ffyddlon fod yn anodd iawn.

Mae’r Beibl yn annog Cristnogion i “fyw mewn heddwch gyda phawb.” (Rhuf. 12:18) Mewn rhai teuluoedd, mae un yn derbyn geiriau Iesu, ac eraill yn eu gwrthod nhw. Dyna pryd mae geiriau Iesu yn debyg i ‘gleddyf.’ Pan mae hynny’n digwydd, mae’r perthnasau hynny yn gwneud eu hunain yn “elynion” i’r un sy’n dysgu’r gwir.—Math. 10:36.

Mae rhai o’n brodyr a chwiorydd yn byw yn yr un tŷ â theulu sydd o grefydd wahanol. Weithiau bydd y perthnasau hynny yn rhoi pwysau arnyn nhw i wneud pethau sydd ddim yn plesio Jehofa ac Iesu, fel dathlu gwyliau crefyddol. Wedyn, mae’n rhaid penderfynu pwy maen nhw am blesio. Dywedodd Iesu: “Dydy’r sawl sy’n caru ei dad a’i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi.” (Math. 10:37) A oedd Iesu’n dweud bod rhaid inni garu ein rhieni yn llai er mwyn bod yn perthyn iddo? Nac oedd. Yn hytrach, roedd yn helpu ei ddisgyblion i benderfynu beth oedd yn bwysicaf yn eu bywydau nhw. Felly, os ydy aelodau ein teulu yn gwrthwynebu ein hymdrechion i addoli Jehofa, dydyn ni ddim yn stopio eu caru nhw. Ond, rydyn ni’n sylweddoli bod ein cariad at Dduw yn dod yn gyntaf.

Heb os, mae gwrthwynebiad gan deulu yn gallu bod yn boenus. Ond mae’n bwysig i ddisgyblion Iesu gofio ei fod ef wedi dweud, “Dydy’r sawl sydd ddim yn codi ei [“stanc,” NWT], a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi.” (Math. 10:38) Mae hynny’n golygu bod Cristnogion yn ystyried gwrthwynebiad gan eu teulu fel rhan o’r treialon maen nhw’n eu derbyn. Ond maen nhw’n dal i obeithio y bydd y ffordd maen nhw’n ymddwyn yn cymell eu teulu i newid eu meddyliau, a dechrau edrych i mewn i’r Beibl.—1 Pedr 3:1, 2.