Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Yn Benderfynol o Fod yn Filwr Da i Iesu

Yn Benderfynol o Fod yn Filwr Da i Iesu

Wrth i’r bwledi hisian o’m cwmpas, codais hances boced wen. Roedd y milwyr a oedd yn saethu ataf yn gweiddi arnaf i ddod allan. Yn araf deg bach, dyma fi’n agosáu atyn nhw, heb wybod a fyddwn i’n byw neu’n marw. Sut cefais fy hun mewn sefyllfa mor beryglus?

Y FI oedd y seithfed o wyth o blant a anwyd i rieni gweithgar yn Karítsa, pentref bychan yng Ngwlad Groeg, ym 1926.

Y flwyddyn flaenorol, gwnaeth fy rhieni gwrdd â John Papparizos, Myfyriwr y Beibl selog a siaradus. Cafodd rhesymu Ysgrythurol cadarn John argraff ar fy rhieni a dechreuon nhw fynychu cyfarfodydd Myfyrwyr y Beibl, fel y galwyd Tystion Jehofa bryd hynny, yn y pentref lleol. Roedd gan fy mam ffydd gadarn yn Jehofa Dduw, ac er nad oedd hi’n gallu darllen, roedd hi’n rhannu ei ffydd ag eraill bob cyfle a gâi. Yn anffodus, canolbwyntio ar ffaeleddau pobl a wnaeth fy nhad, a rhoddodd y gorau i fynychu’r cyfarfodydd.

Er bod fy mrodyr a fy chwiorydd yn parchu’r Beibl, gwnaeth pleserau ieuenctid ddenu ein sylw. Yna, ym 1939, tra oedd Ewrop yn cael ei rhwygo gan yr Ail Ryfel Byd, digwyddodd rhywbeth a roddodd ysgytwad i’r pentref. Cafodd ein cymydog a’n cefnder, Nicolas Psarras, a oedd newydd ei fedyddio’n Dyst, ei gonsgriptio i’r fyddin. Heb ofn, dywedodd Nicolas, 20 oed, wrth yr awdurdodau milwrol: “Fedra i ddim ymladd oherwydd fy mod i’n filwr i Grist.” Fe’i dedfrydwyd gan y llys milwrol i ddeng mlynedd o garchar. Roedden ni mewn sioc!

Yn ffodus, yn fuan ym 1941, daeth byddin y Cynghreiriaid i mewn i Wlad Groeg ac fe ryddhawyd Nicolas o’r carchar. Aeth yn ôl i Karítsa, lle gwnaeth fy mrawd hŷn Ilias ei bledu â chwestiynau am y Beibl. Roeddwn innau’n gwrando’n astud. Wedi hynny, dechreuodd Ilias a minnau ynghyd â’n chwaer iau, Efmorfia, fynychu cyfarfodydd y Tystion yn rheolaidd. Y flwyddyn wedyn, gwnaeth y tri ohonon ni ymgysegru i Jehofa a chael ein bedyddio. Yn ddiweddarach, daeth dau frawd a dwy chwaer arall imi yn Dystion.

Ym 1942, roedd gan gynulleidfa Karítsa naw o rai ifanc rhwng 15 a 25. Roedd pawb yn gwybod bod treialon o’n blaenau. Felly, i gryfhau ein gilydd, roedden ni’n manteisio ar bob cyfle i ddod at ein gilydd i astudio’r Beibl, i ganu caneuon ysbrydol, ac i weddïo. O ganlyniad, cryfhawyd ein ffydd.

Demetrius a’i ffrindiau yn Karítsa

RHYFEL CARTREF

Wrth i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dechreuodd comiwnyddion y wlad wrthryfela’n erbyn llywodraeth Gwlad Groeg, a rhoi cychwyn ar ryfel cartref chwerw iawn. Roedd herwfilwyr comiwnyddol yn crwydro cefn gwlad i orfodi pentrefwyr i ymuno â nhw. Pan ymosodon nhw ar ein pentref, gwnaethon nhw herwgipio tri o Dystion ifanc—Antonio Tsoukaris, Ilias, a minnau. Roedden ni’n mynnu mai Cristnogion niwtral oedden ni; ond eto fe’n gorfodwyd ni i orymdeithio i Fynydd Olympus, tua 12 awr o’n pentref.

Yn fuan wedyn, dyma swyddog comiwnyddol yn ein gorchymyn i ymuno â grŵp o herwfilwyr. Pan wnaethon ni esbonio nad ydy gwir Gristnogion yn ymladd yn erbyn eu cyd-ddyn, gwylltiodd y swyddog a’n llusgo gerbron y cadfridog. Pan wnaethon ni ailadrodd yr hanes, dywedodd y cadfridog: “Ewch â mul i gario’r clwyfedig o faes y gad i’r ysbyty.”

“Ond beth petaen ni’n cael ein dal gan filwyr y llywodraeth?” medden ni. “Oni fydden nhw’n edrych arnon ni fel milwyr?” “Felly ewch â bara i’r ffrynt,” meddai. “Ond beth petai swyddog yn ein gweld ni gyda’r mul ac yn ein gorchymyn i gario arfau i’r ffrynt?” dyma ni’n rhesymu. Meddyliodd y cadfridog am yn hir ac, yn y pen draw, dywedodd: “Wel, siŵr gen i y byddwch chi’n gallu gofalu am ddefaid! Arhoswch ar y mynydd i ofalu am y preiddiau.”

Felly, tra oedd y rhyfel cartref yn cael ei hymladd o’n cwmpas, roedd y tri ohonon ni’n teimlo y byddai ein cydwybod yn caniatáu inni fugeilio defaid. Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd Ilias, y mab hynaf, ganiatâd i ddod yn ôl adref i ofalu am ei fam a hithau’n weddw bellach. Aeth Antonio yn sâl a chafodd yntau ei ryddhau. Roeddwn innau, fodd bynnag, yn dal yn gaeth.

Yn y cyfamser, roedd byddin y llywodraeth yn dechrau amgylchynu’r comiwnyddion. Gwnaeth y grŵp a oedd yn fy ngharcharu i ffoi i’r mynyddoedd i gyfeiriad Albania. Wrth ymyl y ffin, cawson ni’n fwyaf sydyn ein hamgylchynu gan filwyr y llywodraeth. Aeth y rebeliaid i banics a ffoi. Cuddiais y tu ôl i goeden a oedd wedi syrthio, a dyna sut y cefais fy hun yn y sefyllfa y soniais amdani ar y cychwyn.

Pan ddywedais wrth y milwyr fy mod i wedi cael fy ngharcharu gan y comiwnyddion, aethon nhw â mi i gael fy asesu yn y gwersyll milwrol wrth ymyl Véroia, sef y ddinas Berea yn y Beibl. Yna, cefais fy ngorchymyn i agor ffosydd ar gyfer y milwyr. Pan wrthodais, cefais fy alltudio gan y pennaeth milwrol i’r ynys gosb erchyll Makrónisos (Makronisi).

YNYS ARSWYD

Roedd y graig anial, ddi-ddŵr, a chrasboeth o’r enw Makrónisos wedi ei lleoli ar arfordir Attica, tua 30 milltir o Athen. Dim ond wyth milltir ar ei hyd a milltir a hanner ar ei thraws oedd yr ynys. Ond eto, o 1947 hyd at 1958, roedd mwy na 100,000 o garcharorion, gan gynnwys comiwnyddion gweithredol a drwgdybiedig a chyn-rebeliaid, ynghyd ag ugeiniau o Dystion Jehofa.

Pan gyrhaeddais yn fuan ym 1949, rhannwyd y carcharorion yn wersylloedd gwahanol. Roeddwn i mewn gwersyll lefel diogelwch isel ynghyd â sawl cant o ddynion. Cysgodd tua 40 ohonon ni ar y llawr mewn pabell gynfas a oedd i fod i ddal 10 o bobl. Roedden ni’n yfed dŵr budr ac yn bwyta gan amlaf ffacbys ac aubergines. Roedd y llwch a’r gwynt cyson yn gwneud bywyd yn annioddefol. Ond o leiaf doedd dim rhaid inni orfod llusgo creigiau yn ôl ac ymlaen, artaith sadistaidd a oedd yn achosi niwed dychrynllyd i gyrff a meddyliau llawer o’r carcharorion anffodus.

Gyda brodyr eraill a oedd wedi eu halltudio i Ynys Makrónisos

Un diwrnod a minnau’n cerdded ar y traeth, cwrddais â brodyr o’r gwersylloedd eraill. Braf iawn oedd cael bod gyda’n gilydd! Gan fod yn ofalus iawn i osgoi cael ein dal, roedden ni’n ceisio cwrdd gyda’n gilydd bob cyfle a gawson ni. Roedden ni hefyd yn pregethu’n ddistaw bach i’r carcharorion eraill, a daeth rhai ohonyn nhw’n Dystion yn ddiweddarach. Roedd y gweithgareddau hynny ynghyd â’n gweddïau taer yn ein cynnal yn ysbrydol.

FFWRNAIS DANLLYD

Ar ôl imi fynd trwy ddeng mis o “adsefydlu,” penderfynodd yr awdurdodau ei bod hi’n hen bryd imi roi gwisg filwrol amdanaf. Pan wrthodais, dyma nhw yn fy llusgo gerbron pennaeth y gwersyll. Rhoddais bapur i’r dyn ac arno’r datganiad: “Dim ond milwr i Grist rwyf yn dymuno bod.” Ar ôl fy mygwth, cefais fy rhoi yn nwylo ei ddirprwy, archoffeiriad yn yr Eglwys Uniongred Roegaidd a oedd yn gwisgo ei holl regalia crefyddol. Pan atebais ei gwestiynau o’r Ysgrythurau, rhuodd yn gas: “Dos ag ef o’m golwg i. Ffanatig ydy’r dyn hwn!”

Trannoeth, gofynnwyd imi unwaith eto roi gwisg filwrol amdanaf. Pan wrthodais, cefais fy nyrnu ac yna fy nghuro â ffon. Aethpwyd â mi i ysbyty’r gwersyll i gadarnhau nad oedd fy esgyrn wedi eu torri ac yna fy llusgo yn ôl i fy mhabell. Digwyddodd hyn bob diwrnod am ddeufis.

Oherwydd nad oeddwn yn gallu cyfaddawdu, daeth y milwyr yn rhwystredig a cheisio tacteg newydd. A chlymu fy nwylo y tu ôl i fy nghefn i, gwnaeth y milwyr guro gwadnau fy nhraed â rhaff. Trwy’r boen ofnadwy, cofio roeddwn i eiriau Iesu: “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a’ch erlid, . . . dych chi wedi’ch bendithio’n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath!” (Math. 5:11, 12) Yn y diwedd, ar ôl beth oedd yn teimlo fel oes i mi, disgynnais yn anymwybodol.

Gwnes i ddeffro mewn cell rewllyd heb fara, dŵr, na blanced. Er hynny, roeddwn i’n teimlo’n dawel fy meddwl. Fel y mae’r Beibl yn ei addo, roedd yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi” yn gwarchod fy nghalon a fy meddwl. (Phil. 4:7) Y diwrnod wedyn, rhoddodd milwr caredig fara, dŵr, a chôt imi. Yna, rhoddodd milwr arall ei siâr ef imi. Yn yr amryw ffyrdd hyn, roeddwn i’n teimlo gofal tyner Jehofa.

Roedd yr awdurdodau yn fy ystyried yn rebel diedifar ac roedd rhaid imi fynd gerbron llys milwrol yn Athen. Yno, cefais fy nedfrydu i dair blynedd o garchar yn Yíaros (Gyaros), ynys tua 30 milltir i’r dwyrain o Makrónisos.

“GALLWN NI EICH TRYSTIO CHI”

Cadarnle brics coch anferth oedd carchar Yíaros, yn dal mwy na 5,000 o garcharorion gwleidyddol. Roedd yn dal saith o Dystion Jehofa, wedi eu carcharu am eu niwtraliaeth Gristnogol. Er ei fod wedi ei wahardd yn llwyr, roedd y saith ohonon ni’n cwrdd yn ddistaw bach i astudio’r Beibl. Roedden ni’n derbyn yn rheolaidd gopïau o’r Tŵr Gwylio wedi eu smyglo, ac roedden ni’n eu copïo â llaw ar gyfer ein hastudiaethau.

Un diwrnod tra oedden ni’n astudio yn y dirgel, daeth un o’r gardiau ar ein traws a chymryd ein llenyddiaeth oddi arnon ni. Roedd rhaid inni fynd i weld y dirprwy, gan ddisgwyl y byddai ein dedfrydau yn cael eu hestyn. Yn hytrach, dywedodd y dirprwy: “Rydyn ni’n gwybod pwy ydych chi, ac yn parchu eich safiad. Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni eich trystio chi. Ewch yn ôl i’ch gwaith.” Gwnaeth hefyd roi dyletswyddau llai beichus inni. Roedden ni’n ddiolchgar o waelod ein calonnau. Hyd yn oed yn y carchar, gallai ein ffyddlondeb ddod â chlod i Jehofa.

Oherwydd ein dycnwch, cawson ni lawer o fendithion. Cafodd carcharor a oedd yn athro mathemateg ei ysgogi gan ein hymddygiad i ofyn cwestiynau am ein daliadau. Pan gawson ni’n rhyddhau ym 1951, fe’i rhyddhawyd yntau hefyd. Yn ddiweddarach, cafodd ei fedyddio’n Dyst a daeth yn bregethwr llawn-amser.

YN FILWR O HYD

Gyda fy ngwraig Janette

Ar ôl imi gael fy rhyddhau, fe es i’n ôl i’r teulu yn Karítsa. Wedyn, ynghyd â llawer o fy nghyd-wladwyr, symudais i Melbourne yn Awstralia. Yno, priodais Janette a magu mab a thair merch yn y ffordd Gristnogol.

Heddiw, a minnau dros fy 90, rwy’n dal yn gwasanaethu fel henuriad. Oherwydd hen anafiadau, mae fy nghorff a fy nhraed yn brifo weithiau, yn enwedig ar ôl bod allan yn y gwaith pregethu. Er hynny, rwy’n benderfynol o fod yn filwr da i Iesu.—2 Tim. 2:3.