Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gobaith—A Yw’n Gwneud Gwahaniaeth?

Gobaith—A Yw’n Gwneud Gwahaniaeth?

Gobaith—A Yw’n Gwneud Gwahaniaeth?

DIM ond deg oed oedd Daniel, ond roedd ei frwydr yn erbyn canser wedi para am flwyddyn. Roedd ei feddygon a’i ffrindiau wedi colli pob gobaith. Ond roedd Daniel yn dal yn obeithiol. Credai y byddai’n tyfu i fod yn ymchwilydd ac yn helpu i ddarganfod meddyginiaeth ar gyfer canser ryw ddydd. Roedd yn edrych ymlaen at weld doctor a oedd yn arbenigwr yn y math o ganser a oedd ganddo. Ond pan ddaeth y diwrnod, roedd yn rhaid i’r arbenigwr ganslo’r apwyntiad oherwydd tywydd garw. Roedd Daniel wedi colli calon. Am y tro cyntaf aeth yn isel ei ysbryd a bu farw o fewn ychydig ddyddiau.

Adroddwyd hanes Daniel gan arbenigwr a oedd wedi astudio sut mae gobaith neu ddiffyg gobaith yn effeithio ar iechyd. Efallai rydych chi wedi clywed storïau tebyg. Weithiau, bydd pobl mewn oed yn agos at farwolaeth ond yn awyddus i gyrraedd rhyw garreg filltir arbennig—boed hynny’n ymweliad gan anwylyn neu’n ddathliad o ryw fath. Ond unwaith bod yr achlysur drosodd, maen nhw’n marw. Beth sy’n digwydd yn yr achosion hyn? Ydy gobaith mor bwerus ag y mae rhai yn credu?

Mae nifer cynyddol o ymchwilwyr ym maes iechyd yn awgrymu bod optimistiaeth, gobaith, ac emosiynau cadarnhaol eraill yn effeithio yn fawr ar ein bywyd a’n hiechyd. Ond nid pawb sy’n cytuno. Mae rhai ymchwilwyr yn wfftio syniadau o’r fath ac yn eu galw’n anwyddonol. Mae’n well ganddyn nhw gredu mai rhesymau corfforol yn unig sy’n achosi salwch corfforol.

Wrth gwrs, nid peth newydd yw amau pwysigrwydd gobaith. Filoedd o flynyddoedd yn ôl, gofynnwyd i’r athronydd Groeg Aristotlys ddiffinio gobaith, a’i ateb oedd: “Breuddwyd effro ydyw.” Ac yn fwy diweddar, sylwad swta’r gwleidydd Americanaidd Benjamin Franklin oedd: “Marw yn llwglyd fydd yr un sy’n byw ar obaith.”

Beth felly yw’r gwirionedd am obaith? Ai breuddwyd wag i’n cysuro ni ydy gobaith, a dim mwy? Neu oes rheswm i ni gredu mai rhywbeth mwy ydy gobaith​—rhywbeth sy’n effeithio ar ein hiechyd a’n hapusrwydd, rhywbeth sy’n cynnig manteision go iawn?