Neidio i'r cynnwys

“Chwaraeon Eithafol”—A Ddylech Chi Gymryd y Risg?

“Chwaraeon Eithafol”—A Ddylech Chi Gymryd y Risg?

Safbwynt y Beibl

“Chwaraeon Eithafol”—A Ddylech Chi Gymryd y Risg?

Y DYDDIAU HYN MAE MWY A MWY OHONON NI YN GADAEL EIN SEDDI A MYND ATI EIN HUNAIN I NEIDIO ALLAN O AWYRENNAU, I ABSEILIO I LAWR CLOGWYNI, I FYND DROS RAEADRAU MEWN CAIAC, AC I NOFIO GYDA SIARCOD.”—PAPUR BRO WILLOW GLEN RESIDENT

MAE’R sylwadau hyn yn disgrifio’r diddordeb cynyddol mewn chwaraeon eithafol. Mae campau fel plymio o’r awyr, dringo rhew, paragleidio, a neidio BASE * yn fwy poblogaidd nag erioed ac yn adlewyrchu byd sydd wedi gwirioni ar gymryd risgiau. Mae pobl yn defnyddio byrddau eira, beiciau mynydd, byrddau sglefrio, a sgidiau sglefrio i wthio eu hunain i herio’r llethrau serthaf, y clogwyni uchaf, a’r neidiau hiraf. Yn ôl y cylchgrawn Time, mae poblogrwydd “chwaraeon eithafol,” sydd â risgiau difrifol, yn dangos pa mor awyddus y mae pobl “i fyw ar y dibyn, lle mae’r cyfuniad o beryglon, sgiliau, ac ofn yn creu teimlad o wthio ffiniau personol i athletwyr amatur a phroffesiynol fel ei gilydd.”

Sut bynnag, mae’r diddordeb cynyddol yn y chwaraeon hyn, a’r tuedd i fynd â chwaraeon normal i eithafion, yn golygu bod mwy o bobl yn cael eu hanafu. Yn yr Unol Daleithiau ym 1997, bu cynnydd o 33 y cant yn y nifer a gafodd triniaeth ysbyty oherwydd anafiadau sglefrfyrddio. Yn achos eirafyrddio, roedd y cynnydd yn 31 y cant, ac 20 y cant yn achos mynydda. Mae’r ffigurau yn fwy brawychus ar gyfer chwaraeon eraill, fel mae’r nifer o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chwaraeon eithafol yn dangos. Mae’r rhai sydd o blaid y chwaraeon hyn yn ymwybodol o’r peryglon. “Mae marwolaeth wastad yng nghefn fy meddwl,” meddai un ddynes sy’n mwynhau sgio eithafol. Dywed dyn sy’n eirafyrddio’n broffesiynol: “Os na chei di dy anafu, dwyt ti ddim yn gwneud digon o ymdrech.”

O ystyried y ffeithiau hyn, a ddylai’r Cristion gymryd rhan? Sut gall y Beibl ein helpu ni i benderfynu? I ateb y cwestiynau hynny, mae angen inni ystyried sut mae Duw yn teimlo am werth bywyd.

Safbwynt Duw at Fywyd

Mae’r Beibl yn dweud mai Jehofa yw’r “ffynnon sy’n rhoi bywyd.” (Salm 36:9) Mae’r ffordd iddo greu’r ddynolryw yn dangos ei fod am inni fwynhau bywyd. (Salm 139:14; Actau 14:16, 17; 17:24-28) Mae’n rhesymol felly inni gredu bod Duw yn disgwyl inni ofalu am ein bywydau. Mae’r gyfraith a’r egwyddorion a roddodd Duw i Israel yn dangos pa mor bwysig yw bywyd yn ei olwg ef.

O dan Gyfraith Moses, roedd yn rhaid i’r Israeliaid gymryd camau i ddiogelu bywydau pobl eraill. Os nad oedden nhw’n gwneud hynny, a rhywun yn colli ei fywyd o ganlyniad, roedden nhw’n cael eu cosbi. Er enghraifft, roedd yn rhaid i berchennog tŷ adeiladu wal isel neu ganllaw o gwmpas to fflat ei dŷ. Os nad oedd yn gwneud hynny, a rhywun yn syrthio oddi ar y to a marw, roedd perchennog y tŷ yn gyfrifol. (Deuteronomium 22:8) Petai tarw yn cornio rhywun i farwolaeth yn annisgwyl, ni fyddai perchennog y tarw yn cael ei ddal yn gyfrifol. Ar y llaw arall, petai pobl yn gwybod bod y tarw yn beryglus, ac wedi rhybuddio’r perchennog, ac yntau heb gadw’r tarw dan reolaeth, a’r tarw yn cornio rhywun i farwolaeth, yna byddai’r perchennog yn gallu cael ei ddienyddio. (Exodus 21:28, 29) Rhoddodd Jehofa y cyfreithiau hyn i’r Israeliaid oherwydd bod bywyd yn werthfawr iddo ac y mae eisiau i bobl ofalu amdano.

Roedd gweision ffyddlon Duw yn deall bod yr egwyddorion hyn hefyd yn berthnasol i gymryd risgiau personol. Ar un achlysur yn y Beibl, dywedodd Dafydd y byddai’n braf “cael diod o ddŵr o’r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” Ar y pryd, roedd Bethlehem yn nwylo’r Philistiaid. Pan glywodd milwyr Dafydd am ei ddymuniad, aeth tri ohonyn nhw drwy ganol gwersyll y Philistiaid, codi dŵr o’r ffynnon, a dod ag ef yn ôl iddo. Beth oedd ymateb Dafydd? Gwrthododd yfed y dŵr a’i dywallt ar y llawr. Dywedodd: “Allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i’w nôl.” (1 Cronicl 11:17-19) Doedd Dafydd ddim am i neb beryglu ei fywyd dim ond er mwyn bodloni ei ddymuniad personol ef.

Roedd ymateb Iesu yn debyg pan awgrymodd y Diafol y dylai neidio oddi ar dŵr uchaf y deml i weld a fyddai’r angylion yn ei achub. Ateb Iesu oedd: “Paid rhoi’r Arglwydd dy Dduw ar brawf.” (Mathew 4:5-7) Roedd Dafydd ac Iesu yn gwybod nad oedd Duw am i bobl wneud pethau peryglus a allai gostio bywydau.

O ystyried yr esiamplau hyn, teg yw gofyn, ‘Lle yn union dylen ni dynnu’r llinell o ran pa chwaraeon sy’n eithafol neu beryglus? Gan fod modd gwneud unrhyw weithgaredd hamdden mewn ffordd eithafol, sut gallwn ni benderfynu pa mor bell y dylen ni fynd?’

A yw’n Werth y Risg?

Bydd edrych yn onest ar unrhyw gamp rydyn ni’n ystyried ei gwneud yn ein helpu ni i benderfynu. Er enghraifft, gallwn ni ofyn, ‘Faint o ddamweiniau sy’n gysylltiedig â’r gamp hon? Ydw i wedi cael yr hyfforddiant a’r offer diogelu i osgoi anafiadau? Beth fydd yn digwydd imi os ydw i’n cwympo neu os bydd fy offer diogelu yn methu? Ai damwain fach fyddai hyn, neu oes siawns imi gael fy anafu’n ddifrifol neu farw?’

Bydd dewis cymryd rhan mewn chwaraeon eithafol yn effeithio ar ein perthynas â Jehofa, ac ni fydden ni’n esiampl dda i eraill yn y gynulleidfa. (1 Timotheus 3:2, 8-10; 4:12; Titus 2:6-8) Mae’n amlwg y dylai Cristnogion, hyd yn oed yn eu gweithgareddau hamdden, ystyried agwedd y Creawdwr tuag at bwysigrwydd bywyd.

[Troednodyn]

^ Par. 4 Mae’r gair BASE yn acronym o’r geiriau Saesneg building, antenna, span, ac earth. Mae pobl yn parasiwtio oddi ar adeiladau, pontydd a chlogwyni. Ond mae’r gamp wedi ei gwahardd ym Mharciau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, oherwydd ei bod mor beryglus.