Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Egwyddorion y Beibl Sy’n Gallu Eich Helpu Os Ydych Chi’n Colli Eich Swydd

Egwyddorion y Beibl Sy’n Gallu Eich Helpu Os Ydych Chi’n Colli Eich Swydd

 Gall colli eich swydd wneud hi’n anodd cael dau benllinyn ynghyd a gall poeni am y sefyllfa effeithio ar eich bywyd teuluol ac ar eich emosiynau hefyd. Ystyriwch yr awgrymiadau canlynol sydd wedi eu seilio ar egwyddorion doeth o’r Beibl i’ch helpu chi i ymdopi.

  •   Siaradwch ag eraill am eich teimladau.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser.”—Diarhebion 17:17.

     Ar ôl colli eich swydd, efallai byddwch chi’n teimlo’n drist, yn ddig, bod eich rwtîn bellach ar chwâl, neu hyd yn oed eich bod chi’n fethiant. Pan fyddwch chi’n rhannu eich teimladau gyda’ch teulu a ffrindiau agos, gallan nhw fod yn gefn emosiynol ichi. Gallan nhw roi cyngor ymarferol wrth ichi fynd ati i chwilio am swydd newydd.

  •   Osgowch bryderu’n ormodol.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.”—Mathew 6:34.

     Mae’r Beibl yn ein hannog i gynllunio o flaen llaw. (Diarhebion 21:5) Ond, mae hefyd yn ein cynghori i beidio â phoeni gormod am y dyfodol. Yn aml byddwn ni’n poeni am bethau sydd ddim yn debygol o ddigwydd. Mae’n well cymryd un dydd ar y tro.

     Mae’r Beibl yn cynnig mwy o gyngor doeth ar sut i ymdopi â’r straen gallwn ni fod yn mynd trwyddo. Darllenwch yr erthygl “Sut i Ddelio â Straen” i ddysgu mwy.

  •   Gwnewch newidiadau angenrheidiol i’r ffordd rydych chi’n gwario eich arian.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Dw i wedi dysgu’r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy’r sefyllfa . . . os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim.”—Philipiaid 4:12.

     Ewch ati i addasu yn ôl eich sefyllfa bresennol. Bydd hyn yn cynnwys newid eich arferion gwario fel nad ydych yn gwario mwy na’ch incwm. Byddwch yn ofalus i beidio â mynd i ddyled heb fod angen.—Diarhebion 22:7.

     Am fwy o awgrymiadau ar sut i addasu eich sefyllfa ariannol bresennol, gweler yr erthygl How to Live on Less.”

  •   Defnyddiwch eich amser yn ddoeth.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi’n ymddwyn . . . Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi.”—Colosiaid 4:5.

     Er nad oes gynnoch chi drefn gwaith benodol bellach, cadwch at rwtîn da er mwyn defnyddio eich amser yn ddoeth. Bydd gwneud hynny yn eich helpu chi i wneud eich bywyd yn fwy sefydlog ac yn rhoi hwb i’ch hunan-werth.

  •   Byddwch yn hyblyg.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae elw i bob gwaith caled.”—Diarhebion 14:23.

     Byddwch yn barod i wneud swydd sy’n wahanol i beth roeddech yn ei wneud o’r blaen. Efallai bydd rhaid ichi ystyried swyddi sy’n cael eu hystyried yn israddol neu sy’n talu’n llai na’ch swydd flaenorol.

  •   Daliwch ati.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Hau dy had yn y bore, a phaid â gorffwys cyn yr hwyr, oherwydd ni wyddost pa un a fydd yn llwyddo.”—Pregethwr 11:6, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

     Daliwch ati i chwilio am waith. Dywedwch wrth eraill eich bod chi’n chwilio am swydd. Siaradwch â pherthnasau, ffrindiau, eich hen gyd-weithwyr a chymdogion. Ewch i’r ganolfan gwaith, edrychwch drwy hysbysebion swyddi mewn papurau newydd ac ar wefannau cwmnïau. Byddwch yn barod i fynd i lawer o gyfweliadau am swyddi ac i anfon llawer o CVs cyn ichi gael hyd i swydd.