Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Yfed Alcohol—Sut Gallwch Chi Ei Gadw Dan Reolaeth?

Yfed Alcohol—Sut Gallwch Chi Ei Gadw Dan Reolaeth?

 Mae rhai pobl yn yfed mwy o alcohol pan fyddan nhw’n teimlo yn unig, dan straen, neu’n cael bywyd yn ddiflas. A ydych chi wedi sylwi eich bod yn yfed mwy? Os felly, sut gallwch chi sicrhau nad yw eich yfed yn mynd allan o reolaeth neu’n arwain ichi fynd yn ddibynnol arno? Ystyriwch ychydig o wybodaeth ymarferol a all eich helpu chi i gadw rheolaeth arno.

 Beth mae yfed yn gymedrol yn ei olygu?

 Mae’r Beibl yn dweud: “Paid cael gormod i’w wneud gyda’r rhai sy’n goryfed.”—Diarhebion 23:20.

 Ystyriwch: Nid yw’r Beibl yn erbyn yfed alcohol yn gymedrol. (Pregethwr 9:7) Ond mae’n gwahaniaethu rhwng yfed yn gymedrol, goryfed, a meddwi. (Luc 21:34; Effesiaid 5:18; Titus 2:3) Hyd yn oed os nad yw’n arwain at feddwi, mae yfed gormod o alcohol yn gallu effeithio ar eich iechyd, ar eich perthynas ag eraill, ac ar eich gallu i wneud penderfyniadau da.—Diarhebion 23:29, 30.

 Mae llawer o awdurdodau’n gwahaniaethu rhwng yfed sydd â risg isel ac yfed sydd â risg uchel. Yn aml, byddan nhw’n diffinio’r gwahaniaeth drwy sôn am y nifer o unedau o alcohol y mae rhywun yn eu hyfed mewn diwrnod, a’r nifer o ddiwrnodau mae rhywun yn yfed mewn wythnos. a Sut bynnag, mae pawb yn ymateb i alcohol mewn ffordd wahanol, ac ar rai adegau, y peth doethaf i’w wneud yw peidio ag yfed o gwbl. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd:

 “Gall hyd yn oed un ddiod neu ddwy fod yn ormod—er enghraifft, i bobl:

  •   Sy’n gyrru neu’n defnyddio peiriannau.

  •   Sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron.

  •   Sy’n cymryd rhai mathau o feddyginiaeth.

  •   Sydd â rhai cyflyrau meddygol.

  •   Sy’n methu rheoli eu harferion yfed.”

 Arwyddion eich bod chi’n dechrau camddefnyddio alcohol

 Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw.”—Galarnad 3:40.

 Ystyriwch: Gallwch chi amddiffyn eich hun rhag effeithiau niweidiol alcohol os ydych chi’n ystyried eich arferion yfed yn rheolaidd ac yn eu newid os bydd angen. Edrychwch am yr arwyddion canlynol sy’n awgrymu efallai eich bod chi’n colli rheolaeth.

  •   Rydych chi’n dibynnu ar alcohol er mwyn bod yn hapus. Rydych chi’n teimlo bod angen cael diod er mwyn ymlacio, cymdeithasu, neu gael hwyl. Rydych chi’n yfed er mwyn ymdopi â’ch problemau.

  •   Rydych chi’n yfed mwy nag oeddech chi. Rydych chi’n yfed yn fwy aml. Mae eich diodydd yn gryfach, ac mae angen mwy ohonyn nhw i gael yr un effaith ag o’r blaen.

  •   Mae yfed wedi creu problemau yn y teulu neu yn y gwaith. Er enghraifft, rydych chi’n gwario mwy o arian ar alcohol nag y gallwch chi ei fforddio.

  •   Rydych chi’n gwneud pethau peryglus ar ôl yfed, fel dewis gyrru car, nofio, neu ddefnyddio peiriannau.

  •   Mae pobl eraill wedi dweud eu bod nhw’n poeni am faint rydych chi’n ei yfed. Pan fyddan nhw’n dweud rhywbeth, rydych chi’n cynhyrfu ac yn gwneud esgusodion. Rydych chi’n ceisio yfed heb i neb wybod, neu’n dweud celwyddau am faint rydych chi’n ei yfed.

  •   Rydych chi’n cael trafferth peidio ag yfed. Rydych chi wedi ceisio yfed llai, neu beidio ag yfed, ond wedi methu.

 Pum awgrym i’ch helpu chi i reoli eich arferion yfed alcohol

 1. Gwnewch gynllun.

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus.”—Diarhebion 21:5.

 Rhowch gynnig ar hyn: Penderfynwch ar ba ddyddiau o’r wythnos y byddwch chi’n yfed. Gosodwch derfyn cymedrol ar faint o ddiodydd y byddwch chi’n eu cael ar y diwrnodau hynny. A nodwch o leiaf ddau ddiwrnod bob wythnos pan na fyddwch chi’n yfed o gwbl.

 “Y ffordd orau o leihau’r risg o ddechrau dibynnu ar alcohol yw sicrhau bod cyfnodau rheolaidd pan nad ydych chi’n yfed alcohol o gwbl,” meddai elusen sy’n rhoi cyngor ar alcohol yn y DU.

 2. Rhowch eich cynllun ar waith.

 Mae’r Beibl yn dweud: “Gorffennwch hefyd yr hyn rydych chi wedi ei gychwyn.”—2 Corinthiaid 8:11.

 Rhowch gynnig ar hyn: Dysgwch beth yw unedau o alcohol fel y gallwch fesur a chyfrif eich diodydd yn gywir. Edrychwch am ddiodydd dialcohol iachus rydych chi’n eu mwynhau a’u cadw wrth law.

 “Mae newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran lleihau eich risg o gael problemau sy’n gysylltiedig ag alcohol,” meddai’r National Institute on Alcohol Abuse and Alcoholism yn UDA.

 3. Cadwch at eich penderfyniadau.

 Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i’ch ’Ie’ olygu ie ac i’ch ’Nage’ olygu nage.”—Iago 5:12.

 Rhowch gynnig ar hyn: Byddwch yn barod i wrthod diod sydd ddim yn eich cynllun mewn ffordd bendant a chwrtais.

 “Os ydych chi’n gwrthod diod yn syth, byddwch chi’n llai tebygol o ildio,” meddai’r National Institute on Alcohol Abuse and Alcoholism yn UDA.

 4. Cofiwch y buddion o gadw at eich penderfyniadau.

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae gorffen rhywbeth yn well na’i ddechrau.”—Pregethwr 7:8.

 Rhowch gynnig ar hyn: Gwnewch restr o’r rhesymau rydych chi am reoli faint o alcohol rydych chi’n ei yfed. Cofiwch gynnwys pethau fel cysgu’n well, gwella eich iechyd, arbed arian, a gwella eich perthynas ag eraill. Os ydych chi’n siarad ag eraill am eich penderfyniadau, canolbwyntiwch ar y buddion yn hytrach na’r problemau.

 5. Trowch at Dduw am gymorth.

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.”—Philipiaid 4:13.

 Rhowch gynnig ar hyn: Os ydych chi’n poeni am eich arferion yfed, gweddïwch ar Dduw am ei help. Gofynnwch iddo am nerth a hunanreolaeth. b A chymerwch amser i ystyried y cyngor ymarferol sydd yn ei Air, y Beibl. Gyda Duw wrth eich ochr, fe allwch chi reoli faint o alcohol rydych chi’n ei yfed.

a Er enghraifft, mae Canllawiau Yfed Risg Isel Prif Swyddogion Meddygol y DU yn dweud ar gyfer dynion a menywod “ei bod hi’n fwy diogel peidio ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos” a “byddai’n well rhannu’r unedau hyn yn gyfartal dros 3 diwrnod neu ragor.” Mae 14 uned yn cyfateb i tua 6 gwydraid safonol o win neu 6 pheint o gwrw, gan ddibynnu ar gryfder y ddiod.

b Os nad ydych chi’n gallu rheoli faint rydych chi’n ei yfed, efallai bydd rhaid ichi fynd am help proffesiynol.