Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 69

Ewch Ymlaen gan Bregethu’r Deyrnas!

Ewch Ymlaen gan Bregethu’r Deyrnas!

(2 Timotheus 4:5)

  1. 1. Ewch ’mlaen gan bregethu’r newyddion

    Drwy’r byd, i holl ddynol ryw.

    Anrhydedd yw helpu yr addfwyn

    I ochri â Theyrnas Dduw.

    Mae’n fraint gwasanaethu Jehofa;

    Cael rhan yn y gwaith, bendith yw.

    Ewch ’mlaen a pharhewch i foliannu

    Sancteiddrwydd a mawr enw Duw.

    (CYTGAN)

    Ewch ymlaen, pregethwch yn hyderus

    i bob llwyth a gwlad.

    Ffyddlon fyddwch, teyrngar i

    Jehofa Dduw ein nefol Dad.

  2. 2. Symudwn ymlaen yn unedig,

    Gan ddilyn arweiniad clir.

    Cydgerddwn yn ôl traed Crist Iesu,

    Cydgamwn yn llwybrau’r gwir.

    Mae’n rhaid i’r gwaith gael ei gyflawni,

    Yn nes at ddydd mawr Duw y down.

    Cydweithiwn dan ofal Jehofa,

    A bwriwn ymlaen yn ddi-ofn!

    (CYTGAN)

    Ewch ymlaen, pregethwch yn hyderus

    i bob llwyth a gwlad.

    Ffyddlon fyddwch, teyrngar i

    Jehofa Dduw ein nefol Dad.

(Gweler hefyd Salm 23:4; Act. 4:29, 31; 1 Pedr 2:21.)