Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 21

Ceisiwch yn Gyntaf y Deyrnas

Ceisiwch yn Gyntaf y Deyrnas

(Mathew 6:33)

  1. 1. Gwerthfawr iawn i’n Duw Jehofa

    Yw ei Deyrnas nefol Ef.

    Mae ei Fab, Crist, yn teyrnasu

    Ac am roi’r byd yn ei le.

    (CYTGAN)

    Ceisiwch Deyrnas Dduw yn gyntaf,

    Ceisiwch ei gyfiawnder Ef.

    Rhowch yn gyntaf ac yn bennaf

    Wasanaethu’r Brenin nef.

  2. 2. Peidiwch felly â phryderu

    Am eich bwyd nac am eich gwisg.

    Os rhown Deyrnas Dduw yn gyntaf

    Cawn ni’r pethau hyn i gyd.

    (CYTGAN)

    Ceisiwch Deyrnas Dduw yn gyntaf,

    Ceisiwch ei gyfiawnder Ef.

    Rhowch yn gyntaf ac yn bennaf

    Wasanaethu’r Brenin nef.

  3. 3. Ewch, a chwiliwch am rai teilwng.

    Rhannu’r newydd da sydd rhaid.

    Ar ôl dysgu am y Deyrnas,

    Safan nhwythau’n ddewr o’i phlaid.

    (CYTGAN)

    Ceisiwch Deyrnas Dduw yn gyntaf,

    Ceisiwch ei gyfiawnder Ef.

    Rhowch yn gyntaf ac yn bennaf

    Wasanaethu’r Brenin nef.

(Gweler hefyd Salm 27:14; Math. 6:34; 10:11, 13; 1 Pedr 1:21.)