Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 124

Bythol Ffyddlon

Bythol Ffyddlon

(Salm 18:25)

  1. 1. Bythol ffyddlon i Jehofa,

    Cariad teyrngar iddo rown.

    Gan ein bod yn bobl iddo,

    At ei Air am gyngor trown.

    Sylw haedda’i holl orchmynion,

    Gwrando wnawn ac ufuddhau.

    Cwbl ffyddlon yw Jehofa,

    At ei ochr cawn nesáu.

  2. 2. Bythol ffyddlon i’r frawdoliaeth,

    Helpu wnawn mewn amser blin.

    Rhown ar waith ein cariad cynnes

    A chydweithio yn gytûn.

    I bob brawd fe rown anrhydedd;

    Parch, o galon hapus daw.

    Bythol ffyddlon, bythol deyrngar,

    Teimlad clòs o berthyn gawn.

  3. 3. Bythol ffyddlon i’r arweiniad

    Sydd yn dod o’n brodyr triw,

    Dilyn wnawn bob cyfarwyddyd,

    Maent yn rhodd i ni gan Dduw.

    Ein bendithio wna Jehofa,

    Eiddo ydyn ni i Dduw.

    Byddwn deyrngar i Jehofa—

    I’r rhai ffyddlon, ffyddlon yw.

(Gweler hefyd Salm 149:1; 1 Tim. 2:8; Heb. 13:17.)