Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cân 137

Rho Inni Hyder

Rho Inni Hyder

(Actau 4:​29)

  1. Tystiolaethwn am y Deyrnas,

    A chyhoeddwn d’enw di.

    Mae ’na lawer yn ein herbyn,

    Codi c’wilydd arnon ni.

    Ond nid ofnwn ddynion drwg,

    Oherwydd gwrandawn arnat ti.

    Ymbil rydyn ni am dy ysbryd;

    O Jehofa, rho glust i’n cri.

    (CYTGAN)

    Tystiolaethwn gyda hyder

    A phregethwn yn ddi-ofn.

    Rho wroldeb yn fy nghalon

    I gyhoeddi’n hy heb ofn.

    Armagedon sy’n agosáu,

    Ond cyn daw dy ryfel mawr di,

    Tystiolaethwn gyda hyder.

    Hwn yw ein cri.

  2. Ofnus ydym ar adegau.

    Cofio rwyt mai llwch ŷm ni.

    D’addewidion sy’n ein cynnal

    Ac yn obaith sicr cry’.

    Nid wyt fyddar i’r rhai cas

    Sydd yn ein bygwth a’n sarhau.

    Er mwyn datgan d’enw â hyder,

    Estyn gymorth i ni barhau.

    (CYTGAN)

    Tystiolaethwn gyda hyder

    A phregethwn yn ddi-ofn.

    Rho wroldeb yn fy nghalon

    I gyhoeddi’n hy heb ofn.

    Armagedon sy’n agosáu,

    Ond cyn daw dy ryfel mawr di,

    Tystiolaethwn gyda hyder.

    Hwn yw ein cri.

(Gweler hefyd 1 Thes. 2:2; Heb. 10:35.)