Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

A Oes Rhywbeth o’i Le ar Gyfunrhywiaeth?

A Oes Rhywbeth o’i Le ar Gyfunrhywiaeth?

 “Pan o’n i’n tyfu fyny, un o’r heriau mwyaf oedd y ffaith bod gen i atyniad at fechgyn eraill. Ro’n i’n gobeithio y byddai’r teimladau hynny yn diflannu ymhen amser, ond wnaethon nhw ddim.”​—David, 23.

 Mae David yn Gristion sydd eisiau plesio Duw. A yw’n bosib iddo wneud hynny er gwaethaf ei deimladau? Sut mae Duw yn teimlo am gyfunrhywiaeth?

 Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

 Nid yw agweddau at gyfunrhywiaeth yr un fath ym mhob diwylliant ac maen nhw’n tueddu i newid dros amser. Ond nid yw Cristnogion yn cael eu dylanwadu gan farn boblogaidd y dydd nac yn cael eu “chwythu yma ac acw gan bob awel sy’n dod heibio.” (Effesiaid 4:14) Yn hytrach, maen nhw’n seilio eu barn ar safonau Duw sydd i’w gweld yn y Beibl.

 Mae safbwynt y Beibl ar weithredoedd hoyw yn glir. Mae Gair Duw yn dweud:

  •  “Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall.”—Lefiticus 18:22.

  •  “Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. . . Mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn.”—Rhufeiniaid 1:24, 26.

  •  “Peidiwch twyllo’ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy’n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu’n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol, lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy’n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw.”—1 Corinthiaid 6:9, 10.

 Mewn gwirionedd, mae Duw yn gosod yr un safonau i bawb, ni waeth a ydyn nhw’n cael eu denu at rai o’r un rhyw neu’r rhyw arall. Y gwir yw bod angen i bawb ddangos hunan-reolaeth pan fydd awydd yn codi i wneud rhywbeth sydd ddim yn plesio Duw.—Colosiaid 3:5.

 Ydy hynny yn golygu . . . ?

 Ydy hynny yn golygu bod y Beibl yn annog casineb yn erbyn pobl hoyw?

 Nac ydy. Nid yw’r Beibl yn annog casineb yn erbyn neb—yn hoyw neu’n heterorywiol. Yn hytrach, mae’n dweud wrthon ni am ‘geisio heddwch â phawb,’ ni waeth beth yw eu dewisiadau mewn bywyd. (Hebreaid 12:14, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Felly mae’n hollol anghywir i gymryd rhan mewn bwlio, troseddau casineb neu unrhyw beth arall sy’n cam-drin pobl hoyw.

 Ydy hynny yn golygu y dylai Cristnogion wrthwynebu cyfreithiau sy’n caniatáu priodas rhwng pobl o’r un rhyw?

 Mae’r Beibl yn dangos bod Duw wedi bwriadu i briodas fod rhwng un dyn ac un ddynes. (Mathew 19:4-6) Ond mater gwleidyddol yn hytrach nag un moesol yw cyfreithiau dynol ar briodas. Mae’r Beibl yn dweud wrth Gristnogion am fod yn hollol niwtral mewn materion gwleidyddol. (Ioan 18:36) Felly fyddan nhw ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu cyfreithiau ar gyfunrhywiaeth neu briodasau rhwng pobl o’r un rhyw.

 Ond beth petai . . . ?

 Ond beth petai rywun yn hoyw? Ydy hi’n bosib newid?

 Ydy. Dyna a wnaeth rhai pobl yn y ganrif gyntaf. Ar ôl dweud na fyddai pobl gyfunrhywiol yn etifeddu Teyrnas Dduw, mae’r Beibl yn dweud: “Dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg.”1 Corinthiaid 6:11.

 Ydy hynny yn golygu nad oedd y bobl hynny yn teimlo atyniad tuag at rai o’r un rhyw bellach? Nac ydy. Mae’r Beibl yn dweud bod angen “gwisgo y natur ddynol newydd, sy’n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth.” (Colosiaid 3:10, BCND) Mae angen dal ati i wneud newidiadau.

 Ond beth petai rywun sydd eisiau byw yn ôl safonau Duw yn dal i gael teimladau hoyw?

 Fel gydag unrhyw awydd arall, gall rhywun ddewis peidio â meddwl amdano neu weithredu arno. Sut? Mae’r Beibl yn dweud: “Dylech adael i’r Ysbryd reoli’ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae’r chwantau eisiau.”—Galatiaid 5:16.

 Sylwa nad yw’r adnod y dweud na fydd gan y person unrhyw chwantau anghywir. Ond gyda’r nerth sy’n dod o ddarllen y Beibl a gweddïo’n aml, bydd rhywun yn gallu gwrthod y chwantau hynny.

 Dyna oedd profiad David, y soniwyd amdano yn gynharach, ar ôl iddo siarad â’i rieni Cristnogol am ei deimladau. “Roedd yn faich oddi ar fy ysgwyddau,” meddai, “ac mae’n debyg y byddwn i wedi mwynhau fy arddegau’n llawer mwy petaswn i wedi trafod y mater ynghynt.”

 Yn y pen draw, mae dilyn safonau Jehofa yn ein gwneud ni’n hapus. Rydyn ni’n sicr bod ei gyngor “yn dangos beth sy’n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen,” a bod “gwobr fawr i’r rhai sy’n ufuddhau” iddo.—Salm 19:8, 11.