MAI 4, 2022
BETH SY’N NEWYDD
Categori Fideo Newydd: “Cyfresi”
Mae categori newydd o’r enw “Cyfresi” wedi cael ei ychwanegu i’r adran Fideos ar jw.org a JW Library. Yn y categori hwn, byddwch yn dod o hyd i gyfresi fideo, fel “Dod yn Ffrind i Jehofa,” “Gwersi o’r Tŵr Gwylio,” “Gwaith Da’r Gyfundrefn,” “Dod â’n Hanes yn Fyw,” “Wedi ei Ddylunio?,” ac “Animeiddiadau Bwrdd Gwyn.”
Bydd fideos yn dal i ymddangos o dan yr un categorïau ag o’r blaen, heblaw am y rhai canlynol:
Fydd “Gwersi o’r Tŵr Gwylio” ddim yn ymddangos o dan y categori “Cyfweliadau a Phrofiadau.”
Fydd “Gwaith Da’r Gyfundrefn” ddim bellach yn ymddangos fel casgliad cyfan o dan y categori “Ein Cyfundrefn.”
Fydd “Animeiddiadau Bwrdd Gwyn” ddim bellach yn ymddangos fel casgliad o dan y categorïau “Plant” ac “Arddegau.”
Mae enw’r casgliad “Safbwyntiau ar Darddiad Bywyd,” sydd o dan y categori “Cyfweliadau a Phrofiadau,” wedi newid i “Gwyddoniaeth.”
Mae enw’r casgliad “Barn Dy Gyfoedion,” sydd o dan y categori “Arddegau,” wedi newid i “Cyfweliadau a Phrofiadau.”
Gweld y categori “Cyfresi.”