Teithiau Tywys Bethel
Dewch ar daith dywys o gwmpas ein swyddfeydd cangen, sy’n aml yn cael eu galw’n Bethel. Mewn llawer o swyddfeydd mae arddangosfeydd hunan-dywys i’w gweld.
Rhybudd Coronafeirws (COVID-19): Mewn llawer o wledydd, dydyn ni ddim ar hyn o bryd yn gallu gwahodd ymwelwyr i'n canghennau. Am fwy o fanylion, cysylltwch â'r gangen yr hoffech ymweld â hi.
Yr Ariannin
Bwcio Taith Dywys
A ddylech chi fwcio taith dywys o flaen llaw? Dylech. Gofynnwn i bawb fwcio taith dywys ymlaen llaw, boed i’r grŵp yn fawr neu yn fach, er mwyn inni sicrhau fod digon o le i bawb fwynhau y daith.
Ydy’n bosib mynd ar daith dywys heb fwcio o flaen llaw? Os nad ydych chi wedi bwcio o flaen llaw, efallai na fydd lle ichi ar y daith. Dim ond rhif penodol sy’n gallu mynd ar daith dywys bob diwrnod.
Pa amser dylech chi gyrraedd? Er mwyn i’r daith dywys gychwyn ar amser, awgrymwn ichi gyrraedd o fewn hanner awr cyn dechrau eich taith dywys.
Sut rydych chi’n bwcio taith dywys? Cliciwch ”Bwcio Taith Dywys.”
Ydy’n bosib ichi newid neu ganslo amser taith dywys? Ydy. Cliciwch ”Gweld neu Newid Taith Dywys.”
Beth gallaf ei wneud os nad oes taith dywys ar gael? Rhowch gynnig arni eto. Wrth i grwpiau eraill newid eu teithiau tywys neu eu canslo, mae dyddiau ac amserau newydd teithiau tywys ar gael.
Teithiau Tywys
Av. Elcano 3820 BB Chacarita
C1427BVV CDAD. AUT. DE BUENOS AIRES
YR ARIANNIN
+54 11-3220-5900
+54 11-4849-9600
Beth sydd i’w weld?
Arolygu gwaith Tystion Jehofa yn yr Ariannin ac yn Wrwgwái. Cyfieithu cyhoeddiadau am y Beibl i Romani (Yr Ariannin), ac i Ieithoedd Arwyddion yr Ariannin ac Wrwgwái, ac i bump iaith frodorol arall: Citshwa (Santiago del Estero), Pilagá, Toba, Tsiorote, a Wicî.