Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth am Swyddfeydd a Theithiau Tywys

Dewch ar daith dywys o gwmpas ein swyddfeydd a’n hargraffdai. Dod o hyd i gyfeiriadau ac amserau.

Portiwgal

Bwcio Taith Dywys

A ddylech chi fwcio taith dywys o flaen llaw? Dylech. Gofynnwn i bawb fwcio taith dywys ymlaen llaw, boed i’r grŵp yn fawr neu yn fach, er mwyn inni sicrhau fod digon o le i bawb fwynhau y daith. Bwciwch o leiaf un wythnos ymlaen llaw.

Ydy’n bosib mynd ar daith dywys heb fwcio o flaen llaw? Os nad ydych chi wedi bwcio o flaen llaw, efallai na fydd lle ichi ar y daith. Dim ond rhif penodol sy’n gallu mynd ar daith dywys bob diwrnod.

Pa amser dylech chi gyrraedd? Er mwyn i’r daith dywys gychwyn ar amser, awgrymwn ichi gyrraedd o fewn awr cyn dechrau eich taith dywys.

Sut rydych chi’n bwcio taith dywys? Cliciwch ”Bwcio Taith Dywys.”

Ydy’n bosib ichi newid neu ganslo amser taith dywys? Ydy. Cliciwch ”Gweld neu Newid Taith Dywys.”

Beth gallaf ei wneud os nad oes taith dywys ar gael? Rhowch gynnig arni eto. Wrth i grwpiau eraill newid eu teithiau tywys neu eu canslo, mae dyddiau ac amserau newydd teithiau tywys ar gael.

Teithiau Tywys

Rua Conde Barão, 511

P-2649-513 ALCABIDECHE

PORTIWGAL

+351 214-690-600

Beth sydd i’w weld?

Dosbarthu cyhoeddiadau i fwy na 700 o gynulleidfaoedd yn yr Asores, Cape Verde, Madeira, Portiwgal, a São Tomé a Príncipe. Gwneud recordiadau sain a fideo ym Mhortiwgaleg (Portiwgal) ac Iaith Arwyddion Portiwgal.

Lawrlwytho Taflen Daith