Ym mis Mehefin 2013, o’r 6ed i’r 16eg, heidiodd miliynau o ymwelwyr o bedwar ban y byd i Rouen, yng ngogledd Ffrainc, i ymweld ag un o’r cynulliadau mwyaf prydferth ac enfawr o longau sydd i’w weld yn y byd, sef yr Armada.

Wedi hwylio am 75 o filltiroedd troellog i fyny’r afon Seine, un o nodweddion mwyaf hyfryd Normandi, dyma’r tecaf a’r talaf o longau hwylio’r byd yn bwrw eu hangorau ar hyd glan o bedair milltir wedi ei gwneud yn barod ar gyfer yr ŵyl. Am dros ddeg o ddyddiau, cafodd ymwelwyr y cyfle unigryw o fyrddio a chrwydro unrhyw un o’r 45 o longau tal chwedlonol a oedd yn bresennol yn yr ŵyl.

Beth ysgogodd cymaint o bobl mor amryw eu hoedran i ymweld â’r ŵyl? Ateb trefnydd a sylfaenydd yr Armada yw, bod yr ŵyl yn cynnig cyfle “i ymnesáu at ‘Mawrion y Moroedd’ sydd yn peri inni freuddwydio.” Yn wir, beth bynnag yw’n hoedran, mae’r llongau hwylio hardd hyn yn dwyn i gof ddarlun o fordeithiau pell, ple y mae rhyddid.

Y mae hefyd math arall o ryddid ar gael—yng ngwirioneddau’r Beibl, a chafodd miloedd o ymwelwyr y cyfle i glywed amdano. (Ioan 8:31, 32) Wrth iddyn nhw droedio ynghyd â’r heidiau ar lonydd cul a chanoloesol dinas ddeniadol Rouen, roedd yn amhosibl i’r bobl fethu stondinau symudol Tystion Jehofa y ddinas. Cafodd y morwyr a’r teithwyr a ymwelodd ag unrhyw un o’r stondinau wahoddiad i gymryd llenyddiaeth Feiblaidd yn ddi-dâl. Mynegodd nifer o’r bobl eu diddordeb yn erthygl amlycaf Y Tŵr Gwylio a oedd yn dwyn y teitl “A World Without Prejudice—When?”, a chawson nhw wahoddiad i wrando ar anerchiad wedi’i seilio ar y Beibl a gafodd ei draddodi trwy Ffrangeg, Saesneg neu Sbaeneg.

Datganodd dinasyddion Rouen werthfawrogiad am fenter newydd y stondinau. Er mor annisgwyl a oedd iddo weld y Tystion wrthi’n sefyll gerbron eu stondinau, medd un dyn: “Rydw i’n hapus o’ch gweld chi ar y strydoedd. Mae gennyf i barch at y sawl sy’n dal ei dir dros ei ddaliadau, er nad ydw i’n rhannu’r un ffydd â chi.” Ymateb dau ŵr mewn oed o gyfarfod â chwpl o Dystion ifanc yn brysur ar eu stondin oedd: “Mi fedrwch chi fod yn falch o’ch hunaniaeth!”