Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Tystion Jehofa

Cymraeg

Diwrnod Graddio Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower Dosbarth 136

Diwrnod Graddio Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower Dosbarth 136

Ar ôl cwblhau cwrs dwys Beiblaidd a oedd yn para am bum mis, graddiodd y myfyrwyr o Gilead ar ddydd Sadwrn, 8 Mawrth 2014. Yn yr ysgol hon, mae Tystion Jehofa sy’n weinidogion profiadol yn dysgu sut i fod yn fwy ffrwythlon yn eu gweinidogaeth a sut i gryfhau ffydd eu cyd-addolwyr. Gwyliodd 11,548 y rhaglen, un ai drwy fynd i ganolfan addysg Tystion Jehofa yn Patterson, Efrog Newydd, neu drwy gysylltiad fideo o Ganada, Jamaica, Puerto Rico, a’r Unol Daleithiau.

“Cadwch yr Agwedd Meddwl Hon.” Roedd David Splane, aelod o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa a chadeirydd y rhaglen, yn seilio ei sylwadau agoriadol ar Philipiaid 2:5-7: “Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu.” Pan oedd Iesu ar y ddaear, yn hytrach na phoeni am ei safle, roedd yn canolbwyntio ar gysegru ei hun i waith Duw.

Er enghraifft, gwrthododd Iesu demtasiynau’r Diafol drwy ailadrodd geiriau Moses i genedl Israel. Dywedodd Iesu “Y mae’n ysgrifenedig.” (Mathew 4:4, 7, 10; Deuteronomium 6:13, 16; 8:3) Fel Mab eneiniog Duw, buasai Iesu’n gallu llefaru gydag awdurdod ei hun os mynnai, ond nid felly y gwnaeth. Roedd Iesu yn dangos ei hun yn ostyngedig drwy ddangos parch am y gwaith y gwnaeth Moses. Yn yr un modd, dylen ni gydnabod galluoedd pobl eraill a’u canmol.

Pwysleisiodd y Brawd Splane agwedd meddwl cywir y dangosodd Iesu ar ddiwedd ei gyfnod hyfforddi ar y ddaear. Wrth weddïo, dywedodd Iesu: “Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i’w wneud. Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun â’r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd.” (Ioan 17:4, 5) Doedd Iesu ddim yn chwilio am freintiau ychwanegol. Ei unig ddymuniad oedd mynd yn ôl i’w safle gwreiddiol ar ôl dychwelyd i’r nefoedd. Mewn ffordd debyg, dylai’r graddedigion efelychu Iesu drwy ganolbwyntio ar eu gwaith yn hytrach na’u safle. Mae angen iddyn nhw fod yn fodlon, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n derbyn unrhyw fraint ychwanegol wrth fynd yn ôl i’w haseiniadau.

“Aberthu Heb Ddifaru.” Roedd cynorthwyydd Pwyllgor Addysgu’r Corff Llywodraethol, William Malenfant, yn annog y myfyrwyr i ddilyn agwedd hunanaberthol yr apostol Paul. Yn hytrach nag edrych yn ôl ar yr hyn a aberthodd er mwyn gwasanaethu Duw, fe ddywedodd Paul: “Gan anghofio’r hyn sydd o’r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o’r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod.”Philipiaid 3:13, 14.

Drwy aberthu heb ddifaru, bydd y myfyrwyr yn efelychu gweision ffyddlon y gorffennol a’r presennol. Dyfynnodd y brawd Malenfant eiriau Clara Gerber Moyer, chwaer a ddechreuodd wasanaethu Jehofa yn ei phlentyndod, gan ddweud “Braint yw cael edrych yn ôl ar 80 mlynedd o wasanaeth cysegredig i Dduw—heb ddifaru unrhyw beth! Pe bawn i’n gallu byw fy mywyd eto, buaswn i’n newid dim.”

“Pregethu am y Deyrnas Gydag Angylion ac Fel Angylion.” Roedd Gerrit Lösch, aelod o’r Corff Llywodraethol, yn helpu’r myfyrwyr i werthfawrogi dwy fraint arbennig sy’n dod i’r rhai sy’n pregethu. Yn gyntaf, maen nhw’n gwasanaethu fel angylion Duw wrth iddyn nhw rannu newyddion da’r Deyrnas. Gall y geiriau Hebraeg a Groeg sy’n cael eu defnyddio yn y Beibl am “angel” gael eu trosi fel “negesydd.” Yn ail, mae myfyrwyr yn pregethu’r newyddion da o dan arweiniad yr angylion, fel y gwnaeth Philip.Actau 8:26-35.

Adroddodd y Brawd Lösch sawl profiad a gafodd Tystion Jehofa yn eu gwaith pregethu. Er enghraifft, roedd Tyst o’r enw Gabino o Mecsico, fel arfer yn cnocio ar ddrws unwaith neu ddwy, ond y tro hwn fe gnociodd bedair gwaith. Pan atebodd y dyn y drws, fe ddywedodd wrth Gabino ei fod ar fin lladd ei hun. Meddai, “Pan wnes di gnocio’r bedwaredd waith, roedd y rhaff am fy ngwddw. Tynnais y rhaff i ffwrdd cyn ateb y drws. Heb iti ddal ati, buaswn i wedi crogi fy hun. Diolch o galon am dy ddyfalbarhad.”

Ar adegau gall profiadau fel hyn fod yn gyd-ddigwyddiad, ond nid pob un. Yn hytrach, maen nhw’n rhoi tystiolaeth fod angylion Duw yn arwain y gwaith pregethu byd-eang.Datguddiad 14:6.

“Caiff y Rhai Anrhydeddus eu Bendithio.” Datblygodd Michael Burnett, hyfforddwr Gilead, y thema uchod gan ddefnyddio esiampl Jabes, un o ddisgynyddion Jwda a oedd yn “fwy anrhydeddus na’i frodyr.” Fel hyn gweddïodd Jabes ar Dduw: “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i’m hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!”1 Cronicl 4:9, 10.

Gall y myfyrwyr efelychu esiampl anrhydeddus Jabes drwy fod yn benodol yn eu gweddïau, gan ofyn i Dduw eu helpu nhw i gyflawni pwrpas eu hyfforddiant Gilead. Hefyd, mae’n iawn iddyn nhw ofyn i Dduw eu hamddiffyn rhag trychineb, nid eu gwarchod yn gyfan gwbl, ond eu helpu nhw i beidio â chael eu trechu gan alar neu effaith drygioni. Atebodd Duw weddi Jabes, a bydd hefyd yn ateb gweddïau myfyrwyr Gilead.

“Cynnal Eich Fflam.” Roedd anerchiad Mark Noumair, hyfforddwr Gilead a chynorthwyydd i’r Pwyllgor Addysgu, yn seiliedig ar 1 Thesaloniaid 5:16-19. Er mwyn cynnal fflam llythrennol mae angen tanwydd, ocsigen, a gwres. Yn yr un modd, mae angen tair elfen bwysig ar y myfyrwyr i’w helpu i gadw eu fflam a’u brwdfrydedd am y weinidogaeth yn fyw.

Yn gyntaf, “llawenhewch bob amser.” (1 Thesaloniaid 5:16) Gall y myfyrwyr lawenhau wrth fyfyrio ar deimladau cynnes Duw tuag atyn nhw. Mae hyn yn fendith ac yn danwydd i’w brwdfrydedd. Yn ail, “gweddïwch yn ddi-baid.” (1 Thesaloniaid 5:17) Mae gweddi fel ocsigen sy’n adfywio fflam. Dylen ni dreulio mwy o amser yn gweddïo, gan agor ein calonnau i Dduw. Yn drydydd, “ym mhob dim rhowch ddiolch.” (1 Thesaloniaid 5:18) Mae calon ddiolchgar yn dod â ni’n agosach at Jehofa ac at ein brodyr. Meddai Brawd Noumair, “Rhaid meithrin y teimladau cynnes o ddiolchgarwch, yn lle cynnal ysbryd negyddol a beirniadol.”

“Clodfori Jehofa Ynghyd â’r Nefoedd.” Agorodd Sam Robertson, hyfforddwr ysgolion theocrataidd, ei anerchiad gydag adnodau o’r Beibl sy’n dangos bod yr haul, y lloer, a’r sêr yn clodfori Jehofa. (Salm 19:1; 89:37; 148:3) Dywedodd y brawd fod y myfyrwyr hefyd wedi cael y fraint o glodfori Jehofa, ac yna fe gyflwynodd ddangosiadau o brofiadau roedd rhai o’r myfyrwyr wedi eu cael yn y weinidogaeth yn ddiweddar. Er enghraifft, ar ôl i ddyn mewn cadair olwyn groesi’r ffordd a diolch i’r myfyriwr, fe ddiolchodd y myfyriwr yntau am iddo ddangos gwerthfawrogiad. Dilynodd sgwrs, a derbyniodd y dyn y cynnig i astudio’r Beibl am ddim. Wrth i’r myfyriwr Gilead gynnal yr astudiaeth dros yr wythnosau canlynol, cafodd y cyfle i dystiolaethu i nifer o bobl eraill a oedd yn ymweld â’r dyn. Yn y pen draw, cafodd saith astudiaeth ychwanegol eu cychwyn o ganlyniad i’r sgwrs gyntaf rhwng y myfyriwr a’r dyn.

“Tyfu’n Gryf Drwy Addysg Ddwyfol.” Fe wnaeth Donald Gordon, cynorthwyydd i’r Pwyllgor Cyhoeddi, gyfweld â dau gwpl o’r dosbarth. Wrth gofio am y cwrs, soniodd un brawd am sut cafodd yr adnodau yn Effesiaid 3:16-20 eu hamlygu. Roedd hyn yn helpu’r myfyrwyr i dyfu’n ysbrydol drwy ddangos iddyn nhw y pwysigrwydd o fod yn ostyngedig, o fod yn bobl sy’n hawdd mynd atyn nhw, ac iddyn nhw gydnabod fod gan Jehofa lawer o waith eto i bob Tyst i’w wneud. Dywedodd un o’r chwiorydd ei bod hi wedi gwerthfawrogi sut roedd un hyfforddwr Gilead wedi annog y myfyrwyr i beidio â bod fel pysgodyn mawr mewn powlen fach, heb le i dyfu. Yn hytrach, roedden nhw i fod fel pysgodyn bach mewn môr mawr. Meddai hi: “Y wers i mi oedd, os gwnaf ymddwyn fel un o’r lleiaf yng nghyfundrefn Jehofa, yna fe gaf gymorth gan Jehofa i dyfu’n ysbrydol.”

“Bydd Jehofa yn Eich Cofio Chi er Daioni.” Rhoddodd Mark Sanderson, aelod o’r Corff Llywodraethol, brif anerchiad y rhaglen graddio, gan gymryd ei thema o weddi Nehemeia: “Cofia fi, fy Nuw, er daioni.” (Nehemeia 5:19; 13:31) Doedd Nehemeia ddim yn pryderu y byddai Jehofa yn ei anghofio ef, na’i wasanaeth i Dduw. Yn hytrach, fe ofynnodd i Dduw ei gofio’n ffafriol, ac i’w fendithio.

Yn ogystal, gall y myfyrwyr fod yn hyderus y bydd Jehofa yn eu cofio nhw er daioni os ydyn nhw’n rhoi’r gwersi sylfaenol a ddysgwyd yng Ngilead ar waith. Er enghraifft, cariad tuag at Jehofa dylai fod eu prif reswm dros wasanaethu. (Marc 12:30) Roedd Abraham yn caru Jehofa gyda’i holl galon, ac fe gofiodd Duw ef gyda hoffter. Er bod Abraham wedi marw ers mil o flynyddoedd, roedd Duw yn cyfeirio ato fel “f’anwylyd,” neu ffrind.Eseia 41:8.

Nesaf, anogodd y Brawd Sanderson y myfyrwyr i garu eu cymdogion, yn enwedig eu brodyr a’u chwiorydd Cristnogol. (Marc 12:31) Fel y Samariad da a wnaeth ei hun yn gymydog “i’r dyn a syrthiodd i blith lladron,” dylai’r myfyrwyr gymryd y cam cyntaf i ymestyn allan i’r rhai anghenus. (Luc 10:36) I egluro’r pwynt, fe ddefnyddiodd yr enghraifft o Nicholas Kovalak, myfyriwr Gilead a oedd yn arfer gwasanaethu fel arolygwr rhanbarth. Roedd gan y Brawd Kovalak enw am fod yn gariadus a chynnes. Unwaith, gwnaeth Brawd Kovalak annog arolygwr teithiol a’i wraig i fod yn fwy dyfal yn eu gweinidogaeth, gan ddefnyddio’r dywediad, “Gynnar yn y dydd, yr wythnos, y mis, a’r flwyddyn.” Ond, ar ôl gwylio’r chwaer am rai dyddiau, meddai ef wrthi: “Anghofia beth ddywedais i. Rwyt ti’n gweithio’n rhy galed yn barod. Rhaid iti arafu er mwyn iti beidio â gorflino.” Roedd ei gyngor caredig a thosturiol wedi helpu’r chwaer i ddal ati yn y weinidogaeth llawn amser am ddegawdau.

Yn y diwedd, anogodd y Brawd Anderson y myfyrwyr i gyflawni pwrpas eu haddysg drwy ddysgu a hyfforddi eraill. (2 Timotheus 2:2) Wrth weithio yn eu haseiniadau, gallan nhw gryfhau a sefydlogi’r frawdoliaeth, gyda’r sicrwydd y bydd Jehofa yn eu cofio nhw mewn modd ffafriol.Salm 20:1-5.

Diweddglo. Ar ôl i’r myfyrwyr dderbyn eu tystysgrifau, dyma un o’r myfyrwyr yn darllen llythyr o ddiolch gan y dosbarth. Nesaf, roedd pymtheg aelod o’r dosbarth yn gorffen y rhaglen drwy ganu yn ‘a capella’ cân 123, o’r enw “Bugeiliaid—Rhoddion i Ddynion,” o’r llyfr Canwch i Jehofa.