Am ddegawdau, mae Tystion Jehofa wedi cael eu beirniadu’n negyddol oherwydd eu bod nhw’n gwrthod trallwysiadau gwaed. Ar y cyfan mae meddygon yn ceisio gweithredu er lles eu cleifion, ond ar adegau, mae barn y Tystion a barn y meddygon yn mynd yn groes i’w gilydd. Mae penderfyniad Tystion Jehofa i ‘ymgadw rhag gwaed,’ yn seiliedig ar orchymyn sydd yn y Beibl.Actau 15:29.

Erbyn hyn, mae llawer mwy o bobl brofiadol yn y gymuned feddygol yn tynnu sylw at resymau meddygol dros ddefnyddio dulliau clinigol eraill sy’n osgoi defnyddio trallwysiadau gwaed.

Roedd y cylchgrawn Stanford Medicine Magazine, cyfrol y Gwanwyn 2013, sef cyhoeddiad gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Stanford, yn cynnwys adroddiad arbennig ar waed, gyda rhan yn dwyn y teitl “Mynd yn Erbyn y Llif—Pam Mae’r Nifer o Drallwysiadau Gwaed yn Disgyn?” Dywedodd awdures yr erthygl, Sarah C. P. Williams: “Dros y deng mlynedd diwethaf, mae ymchwil cynyddol wedi datgelu bod ysbytai o gwmpas y byd yn trallwyso gwaed yn rhy aml ac yn ormodol. Mae hyn yn wir yn y theatr lawdriniaeth ac ar y ward.”

Mae’r awdur yn dyfynnu Patricia Ford, M.D., sylfaenwraig a chyfarwyddwr Canolfan ar gyfer Meddygaeth a Llawfeddygaeth Ddi-waed yn Ysbyty Pensylfania. Dywedodd Dr. Ford: “Mae syniad wedi treiddio i ddiwylliant meddygon ei bod hi’n angenrheidiol i bawb gael lefel sbesiffig o waed er mwyn peidio â marw, a bod gwaed yn hanfodol i achub bywydau . . . Mae hynny’n wir mewn rhai amgylchiadau, * ond ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion, nid yw hynny’n wir.”

Mae Dr. Ford yn trin tua 700 o Dystion Jehofa yn flynyddol. Fe ddywedodd hi: “Mae gan lawer o’r meddygon rwyf wedi siarad â nhw y syniad anghywir . . . maen nhw’n meddwl nad yw’n bosibl i gleifion fyw heb dderbyn gwaed . . . I ryw raddau roeddwn i’n meddwl hynny hefyd. Ond, dysgais yn gyflym ei bod hi’n bosibl i ofalu am y cleifion hyn drwy roi dulliau hawdd ar waith.”

Yn Awst 2012, fe gyhoeddodd y cylchgrawn Archives of Internal Medicine ganlyniadau o astudiaeth a barhawyd 28 o flynyddoedd. Cynhaliwyd yr astudiaeth ar gleifion a oedd wedi cael triniaeth ar y galon mewn un ganolfan. Roedd Tystion Jehofa yn gwneud yn well na chleifion gyda iechyd tebyg a oedd wedi derbyn trallwysiadau gwaed. Wrth gymharu’r ddau grŵp, roedd y Tystion yn cael llai o broblemau iechyd yn yr ysbyty, roedd mwy ohonyn nhw’n byw ar ôl y driniaeth, ac ar ôl 20 mlynedd, doedd dim llawer o wahaniaeth yn y canlyniadau.

Ar yr 8 Ebrill 2013, dywed yr erthygl The Wall Street Journal: “Mae cleifion sy’n gwrthod trallwysiadau gwaed am resymau crefyddol wedi derbyn triniaethau di-waed, sef llawdriniaeth heb waed, am flynyddoedd. Nawr, mae mwy o ysbytai yn mabwysiadu’r arfer gan ddweud bod osgoi trallwysiadau yn rhatach ac yn well i’r cleifion. Mae llawfeddygon sy’n hybu triniaeth ddi-waed yn dweud bod gwneud hyn yn arbed arian gan nad oes angen prynu, storio, prosesu, profi, na chasglu gwaed. Ar ben hynny, mae dulliau di-waed yn lleihau’r peryglon o heintiau sy’n dod drwy drallwysiadau, ac yn lleihau’r problemau a fyddai’n achosi i gleifion aros yn hirach yn yr ysbyty.”

Nid yw’n syndod felly, bod Robert Lorenz, cyfarwyddwr meddygol sy’n rheoli gwaed ar gyfer Clinig Cleveland, yn dweud: “Rydych yn teimlo eich bod chi’n helpu rhywun yn syth os ydych yn rhoi trallwysiad iddyn nhw . . . Ond, mae’r wybodaeth a gasglwyd dros gyfnod o amser yn awgrymu’n wahanol.”

^ Par. 5 Er mwyn deall safbwynt Tystion Jehofa ynglŷn â gwaed, gweler yr erthygl “Cwestiynau Cyffredin—Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Derbyn Trallwysiadau Gwaed?