Cafodd rhan gyntaf y New World Translation ei chyhoeddi ym 1950. Oherwydd bod y New World Translation * yn wahanol i gyfieithiadau eraill mewn mannau, mae nifer o bobl wedi cynnig sylwadau neu wedi codi cwestiynau ynglŷn â’i gywirdeb. Gan amlaf, bydd y rhesymau dros y gwahaniaethau hyn yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:

  • Dibynadwyaeth. Mae’r New World Translation yn seiliedig ar ymchwil ysgolheigaidd diweddar ac ar y llawysgrifau mwyaf dibynadwy. Nid oedd pob un o’r llawysgrifau hyn ar gael pan gyhoeddwyd Beibl William Morgan ym 1588 a’r Bibl Cyssegr-lan ym 1620.

  • Ffyddlondeb. Nod y New World Translation yw cyfleu mor ffyddlon â phosibl y neges wreiddiol a oedd wedi ei hysbrydoli gan Dduw. (2 Timotheus 3:16) Mae llawer o gyfieithiadau wedi dewis dilyn traddodiad yn hytrach na chadw’n ffyddlon at neges Duw. Er enghraifft, maen nhw wedi tynnu enw personol Duw, Jehofa, allan o’r testun a rhoi teitlau fel Arglwydd neu Dduw yn ei le.

  • Llythrenoldeb. Yn wahanol i gyfieithiadau sy’n aralleirio’r testun, mae’r New World Translation yn trosi geiriau yn llythrennol lle na fydd hynny yn peri i’r geiriad fod yn drwsgl neu’n cuddio ystyr y testun gwreiddiol. Gall cyfieithiadau sy’n aralleirio’r testun gwreiddiol fod yn euog o ychwanegu syniadau dynol neu o hepgor manylion pwysig.

Gwahaniaethau rhwng y New World Translation a chyfieithiadau eraill

Llyfrau wedi eu hepgor. Mae Beiblau’r Eglwys Gatholig a Beiblau Eglwys Uniongred y Dwyrain yn cynnwys llyfrau y mae rhai yn eu hadnabod fel yr Apocryffa. Sut bynnag, nid oedd yr Iddewon yn derbyn y llyfrau hyn fel rhan o ganon yr Ysgrythurau Hebraeg, ac mae’n werth nodi bod y Beibl yn dweud mai “i’r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw.” (Rhufeiniaid 3:1, 2) Felly mae’r New World Translation a llawer o Feiblau modern eraill yn iawn i hepgor llyfrau’r Apocryffa.

Adnodau wedi eu hepgor. Mae rhai cyfieithiadau yn cynnwys adnodau ac ymadroddion sydd yn absennol o lawysgrifau hynaf y Beibl, ond mae’r New World Translation yn eu hepgor. Mae llawer o gyfieithiadau modern eraill yn gwneud yr un fath neu’n cydnabod nad oes dim cefnogaeth iddyn nhw yn y ffynonellau mwyaf awdurdodol. *

Geiriad Gwahanol. Weithiau, bydd cyfieithiadau gair am air yn anodd eu deall, neu’n gamarweiniol. Er enghraifft, cyfieithiad cyffredin o eiriau Iesu ym Mathew 5:3 yw: “Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd.” (Beibl Cysegr-lân; cymharer hefyd y Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig a Cyfieithiad y Brifysgol) I lawer, mae’r trosiad llythrennol “tlodion yn yr ysbryd” yn anodd ei ddeall. Mae eraill yn meddwl bod Iesu’n dweud mai rhinwedd yw bod yn dlawd ac yn wylaidd. Sut bynnag, pwynt Iesu oedd fod hapusrwydd yn dod i’r rhai sy’n cydnabod bod angen arweiniad Duw arnyn nhw. Mae’r New World Translation yn cyfleu ystyr geiriau Iesu yn gliriach gan ddweud, “y rhai sy’n ymwybodol o’u hangen ysbrydol.”Mathew 5:3. *

Sylwadau cadarnhaol am y New World Translation gan ysgolheigion nad ydynt yn Dystion Jehofa

  • Ynglŷn â’r New World Translation of the Christian Greek Scriptures, mewn llythyr dyddiedig 8 Rhagfyr 1950, ysgrifennodd yr ysgolhaig a chyfieithydd y Beibl Edgar J. Goodspeed: “Mae diddordeb gennyf yn eich cenhadaeth fyd-eang, ac mae’r cyfieithiad rhwydd, uniongyrchol a chyhyrog wedi fy mhlesio’n fawr. Mae yma lond gwlad o ysgolheictod cadarn a gofalus fel y gallaf dystio.”

    Edgar J. Goodspeed

  • Cyfeiriodd yr Athro Allen Wikgren o Brifysgol Chicago at y New World Translation fel esiampl o fersiwn mewn iaith lafar fodern nad yw’n dilyn cyfieithiadau eraill, ond sy’n cynnig “darlleniadau annibynnol a gwerthfawr.”The Interpreter’s Bible, Cyfrol I, tudalen 99.

  • Wrth drafod y New World Translation of the Christian Greek Scriptures, dywedodd y beirniad Beiblaidd o Brydain, Alexander Thomson: “Gwaith ysgolheigion deallus a medrus yw’r cyfieithiad hwn. Maent wedi ceisio cyfleu cymaint o wir ystyr y testun Groeg ag y bydd y Saesneg yn ei ganiatáu.”The Differentiator, Ebrill 1952, tudalen 52.

  • Er i’r awdur Charles Francis Potter nodi ambell drosiad a oedd yn anarferol yn ei farn ef, aeth ymlaen i ddweud: “Mae’r cyfieithwyr anhysbys wedi defnyddio’r llawysgrifau gorau, yn Hebraeg ac yn Roeg, a’u trosi yn fedrus, yn graff, ac yn ysgolheigaidd.”The Faiths Men Live By, tudalen 300.

  • Barn Robert M. McCoy oedd fod hynodion a rhagoriaethau yn perthyn i’r New World Translation, ond dywedodd ar ddiwedd ei adolygiad: “Mae’r cyfieithiad hwn o’r Testament Newydd yn dangos bod ysgolheigion yn y mudiad [Tystion Jehofa] sydd â’r gallu i ymdrin yn ddeallus â’r problemau niferus sy’n codi wrth gyfieithu’r Beibl.”Andover Newton Quarterly, Ionawr 1963, tudalen 31.

  • Er nad oedd yr Athro S. MacLean Gilmour yn cytuno â rhai trosiadau yn y New World Translation, roedd yn cydnabod bod y cyfieithwyr “yn meddu ar sgiliau anghyffredin yn y Roeg.”Andover Newton Quarterly, Medi 1966, tudalen 26.

  • Wrth adolygu’r New World Translation sydd yn rhan o’r Kingdom Interlinear Translation of the Greek Scriptures, ysgrifennodd y Darlithydd Cyswllt, Thomas N. Winter: “Mae’r cyfieithiad hwn, gan bwyllgor anhysbys, yn fodern ac yn gyson gywir.”The Classical Journal, Ebrill-Mai 1974, tudalen 376.

  • Ym 1989, dywedodd ysgolhaig Hebraeg yn Israel, yr Athro Benjamin Kedar: “Yn fy ymchwil ieithyddol i’r Beibl Hebraeg ac i gyfieithiadau ohono, rwyf yn troi yn aml at argraffiad Saesneg y New World Translation. Dro ar ôl tro, y mae’n cadarnhau fy marn mai ymgais ddidwyll sydd yma i ddod i’r ddealltwriaeth gywiraf bosibl o’r testun.”

  • Ar ôl cymharu naw o’r prif gyfieithiadau Saesneg, ysgrifennodd y darlithydd cyswllt mewn astudiaethau crefyddol, Jason David BeDuhn: “O’r cyfieithiadau a gymharwyd, yr un sy’n dod i’r brig o ran cywirdeb yw’r NW [New World Translation].” Er i’r cyhoedd a llawer o ysgolheigion Beiblaidd dybio mai rhagfarn grefyddol y cyfieithwyr sy’n gyfrifol am y gwahaniaethau a welir yn y New World Translation, dywedodd BeDuhn: Mae’r rhan fwyaf o’r gwahaniaethau i’w priodoli i gywirdeb y NW fel cyfieithiad llythrennol a cheidwadol o eiriau gwreiddiol ysgrifenwyr y Testament Newydd.”Truth in Translation, tudalennau 163, 165.

^ Par. 2 Gwnaed y sylwadau hyn am argraffiadau o’r New World Translation Saesneg cyn yr argraffiad diwygiedig 2013.

^ Par. 8 Cymharwch er enghraifft, y Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig â’r Beibl Cysegr-lân. Yr adnodau dan sylw yw Mathew 17:21; 18:11; 23:14; Marc 7:16; 9:44, 46; 11:26; 15:28; Luc 17:36; 23:17; Ioan 5:4; Actau 8:37; 15:34; 24:7; 28:29; a Rhufeiniaid 16:24. Yn 1 Ioan 5:7, 8, mae’r Beibl Cysegr-lân yn cynnwys testun a ychwanegwyd gannoedd o flynyddoedd ar ôl i’r Beibl gael ei ysgrifennu er mwyn cefnogi dysgeidiaeth y Drindod.

^ Par. 9 Yn yr un modd, mae cyfieithiad Y Ffordd Newydd yn sôn am y “rhai sy’n cydnabod eu bod yn dlawd yn ysbrydol.”