Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Beth Yw Barn Tystion Jehofa ar Angladdau?

Beth Yw Barn Tystion Jehofa ar Angladdau?

Rydyn ni’n seilio ein barn ar angladdau a’u harferion ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud, er enghraifft:

  • Mae’n beth naturiol i alaru am farwolaeth anwyliaid. Fe wnaeth disgyblion Iesu alaru am eu hanwyliaid. (Ioan 11:33-​35, 38; Actau 8:2; 9:​39) Felly, nid yw angladd yn amser ar gyfer parti gwyllt. (Pregethwr 3:​1, 4; 7:​1-4) Yn hytrach, mae’n amser i ddangos empathi.​—Rhufeiniaid 12:15.

  • Nid yw’r meirw yn ymwybodol. Ni waeth beth yw ein diwylliant neu’n cefndir ethnig, rydyn ni’n osgoi arferion sy’n seiliedig ar gredoau anysgrythurol, sef bod y meirw yn ymwybodol ac yn gallu dylanwadu ar bobl. (Pregethwr 9:​5, 6, 10) Mae’r rhain yn cynnwys cadw gwylnos, dathliadau a phenblwyddi drudfawr, aberthu i’r meirw, siarad â’r meirw, a defodau gweddwdod. Rydyn ni’n osgoi’r arferion hyn mewn ufudd-dod i eiriau’r Beibl: “Dewch allan o’u canol. . . . Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan.”​—2 Corinthiaid 6:​17.

  • Mae yna obaith ar gyfer y meirw. Mae’r Beibl yn dysgu y bydd yna atgyfodiad, ac y bydd amser yn dod heb unrhyw farwolaeth o gwbl. (Actau 24:15; Datguddiad 21:4) Yn debyg i’r Cristnogion cynnar, mae’r gobaith hwn yn ein helpu ni i osgoi arferion galaru eithafol.​—1 Thesaloniaid 4:​13.

  • Mae’r Beibl yn ein hannog i fod yn wylaidd. (Diarhebion 11:2) Nid ydyn ni’n credu bod angladd yn gyfle i wneud sioe fawr o statws ariannol neu gymdeithasol rhywun. (1 Ioan 2:​16) Nid ydyn yn trefnu angladdau mawreddog er mwyn gwneud argraff fawr ar bobl i’w difyrru, neu i ddangos faint rydyn ni wedi gwario ar yr arch neu’r wisg.

  • Nid ydyn ni’n trio gwthio ein credoau ar eraill ynglŷn ag angladdau. Yn hyn o beth, rydyn ni’n dilyn yr egwyddor: Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.” (Rhufeiniaid 14:12) Er hynny, pan fo’r cyfle’n codi, rydyn ni’n ceisio egluro ein credoau yn garedig ac yn barchus.​—1 Pedr 3:​15, 16.

Beth sy’n digwydd yn ystod angladdau Tystion Jehofa?

Lleoliad: Os yw’r teulu yn penderfynu cael angladd, eu dewis nhw yw’r lleoliad, efallai bydd yn Neuadd y Deyrnas, yn y tŷ, mewn amlosgfa, neu wrth ymyl y bedd.

Gwasanaeth: Ceir anerchiad i gysuro’r rhai sy’n galaru, a defnyddir y Beibl i egluro ystyr marwolaeth a gobaith yr atgyfodiad. (Ioan 11:25; Rhufeiniaid 5:​12; 2 Pedr 3:​13) Efallai bydd y gwasanaeth yn atgoffa pobl o rinweddau’r un sydd wedi marw, ac yn sôn am wersi calonogol o’i fywyd ffyddlon.​—2 Samuel 1:​17-​27.

Efallai bydd cân sy’n seiliedig ar y Beibl yn cael ei chanu. (Colosiaid 3:​16) Bydd y gwasanaeth yn cael ei gloi â gweddi i gysuro pawb.​—Philipiaid 4:​6, 7.

Taliadau a chasgliadau: Nid ydyn ni’n codi tâl oddi wrth ein haelodau ar gyfer unrhyw wasanaeth crefyddol, gan gynnwys angladdau. Nid oes casgliad yn ein cyfarfodydd ychwaith.​—Mathew 10:8.

Presenoldeb: Mae croeso i bawb fynychu angladdau sy’n cael eu cynnal yn Neuaddau’r Deyrnas. Yn debyg i’n cyfarfodydd eraill, mae angladdau hefyd yn agored i’r cyhoedd.

Ydy Tystion yn mynychu angladdau sy’n cael eu harwain gan grefyddau eraill?

Penderfyniad pob Tyst yw hyn, yn seiliedig ar ei gydwybod Gristnogol. (1 Timotheus 1:19) Sut bynnag, nid ydyn yn cael rhan mewn seremonïau crefyddol sy’n groes i egwyddorion y Beibl.​—2 Corinthiaid 6:​14-​17.