Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 5

Sut i Gadw Heddwch â’ch Perthnasau

Sut i Gadw Heddwch â’ch Perthnasau

“Gwisgwch amdanoch . . . caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.”—Colosiaid 3:12

Mae priodas yn creu teulu newydd. Er y byddwch wastad yn caru a pharchu eich rhieni, eich cymar yw’r person mwyaf pwysig i chi ar y ddaear. Gall hyn fod yn anodd i rai o’ch perthnasau ei dderbyn. Ond, gall egwyddorion y Beibl eich helpu i gael cydbwysedd, er mwyn ichi gadw heddwch gyda’ch teulu a gweithio’n galed ar adeiladu eich teulu newydd.

1 CADWCH AGWEDD GYWIR TUAG AT EICH PERTHNASAU

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Anrhydedda dy dad a’th fam.” (Effesiaid 6:2) Boed yn hen neu’n ifanc, dylech chi o hyd anrhydeddu a pharchu eich rhieni. Mae’n bwysig i gydnabod bod angen i’ch cymar roi sylw i’w rieni hefyd. “Nid yw cariad yn cenfigennu,” felly peidiwch â theimlo dan fygythiad oherwydd y perthynas rhwng eich cymar a’i rieni.—1 Corinthiaid 13:4; Galatiaid 5:26.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Osgowch wneud sylwadau fel, “Mae eich teulu bob amser yn fy mychanu” neu “Mae dy fam yn casáu popeth dw i’n ei wneud”

  • Ceisiwch weld pethau o safbwynt eich cymar

2 BYDDWCH YN GADARN PAN FYDD ANGEN

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.” (Genesis 2:24) Ar ôl ichi briodi, efallai bydd eich rhieni yn dal i deimlo’n gyfrifol amdanoch, a cheisio dylanwadu’n fwy ar eich priodas nag y dylen nhw.

Dylech chi a’ch cymar benderfynu lle i dynnu’r llinell, a gadael i’ch perthnasau wybod mewn ffordd garedig. Gallwch fod yn agored ac yn onest heb fod yn anghwrtais. (Diarhebion 15:1) Bydd dangos gostyngeiddrwydd, addfwynder, ac amynedd yn eich helpu i gynnal perthynas agos gyda’ch perthnasau “gan oddef eich gilydd mewn cariad.”—Effesiaid 4:2.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Os ydych yn pryderu am faint o ddylanwad mae eich rhieni yn cael ar eich bywyd, trafodwch hyn gyda’ch cymar pan fydd pethau’n dawel

  • Dewch i gytundeb ar sut y byddwch yn delio â’r sefyllfa