TRYSORAU O AIR DUW | GENESIS 40-41
Jehofa yn Achub Joseff
Roedd Joseff yn dioddef fel carcharor a chaethwas am tua 13 o flynyddoedd cyn i Jehofa ei achub. Yn lle gadael i’r profiad ei droi’n chwerw, gadawodd iddo ei goethi. (Sal 105:17-19) Gwyddai nad oedd Jehofa erioed wedi cefnu arno. Sut gwnaeth Joseff y gorau o’i sefyllfa?
Roedd yn weithgar ac yn ddibynadwy, ac felly fe roddodd gyfle i Jehofa ei fendithio.—Ge 39:21, 22
Roedd yn garedig tuag at eraill yn hytrach na cheisio talu’r pwyth yn ôl i’r rhai oedd wedi ei drin yn annheg.—Ge 40:5-7
Sut mae profiad Joseff yn fy helpu i ddal ati pan ydw i’n wynebu problemau?
Sut galla’ i wneud y gorau o’m sefyllfa nes bod Jehofa yn fy achub yn ystod Armagedon?