Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

 TRYSORAU O AIR DUW | GENESIS 9-11

“Un Iaith Oedd Drwy’r Byd i Gyd”

“Un Iaith Oedd Drwy’r Byd i Gyd”

11:1-4, 6-9

Yn Babel y gwnaeth Jehofa wasgaru pobl anufudd drwy ddrysu eu hiaith. Heddiw, mae’n casglu tyrfa fawr o bob cenedl ac iaith, ac yn rhoi iddyn nhw “geiriau glân,” neu’r iaith bur, fel y gallan nhw alw ar enw Jehofa a’i wasanaethu gyda’i gilydd. (Seff 3:9; Dat 7:9) Yr iaith bur yw’r gwirionedd am Jehofa a’i bwrpas a welir yn yr Ysgrythurau.

Mae dysgu iaith newydd yn golygu mwy na chofio geiriau newydd yn unig. Mae’n gofyn am ddysgu ffordd newydd o feddwl. Yn yr un modd, wrth inni ddysgu iaith bur y gwirionedd, rydyn ni’n trawsffurfio ein ffordd o feddwl. (Rhu 12:2) Mae hyn yn broses barhaol sy’n arwain at undod ymysg pobl Dduw.—1Co 1:10.