TRYSORAU O AIR DUW | EXODUS 10-11
Moses ac Aaron yn Dangos Dewrder Mawr
Dangosodd Moses ac Aaron ddewrder mawr wrth siarad â’r Pharo, y dyn mwyaf pwerus yn y byd bryd hynny. Beth alluogon nhw i wneud hynny? Mae’r Beibl yn dweud: “Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i’r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.” (Heb 11:27) Roedd gan Moses ac Aaron ffydd gref yn Jehofa—digon i ddibynnu arno’n llwyr.
Pa sefyllfaoedd sy’n gofyn am ddewrder wrth iti fynegi dy ffydd o flaen rhywun mewn awdurdod?