Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy Dy Weinidogaeth Di Fel y Gwlith?

Ydy Dy Weinidogaeth Di Fel y Gwlith?

MAE ein gweinidogaeth yn bwysig ac yn werthfawr. Ond nid yw pawb rydyn ni’n pregethu iddyn nhw yn deall hyn. Hyd yn oed os oes gan rywun ddiddordeb yn y Beibl, dydyn nhw ddim bob tro yn teimlo bod angen astudio Gair Duw gyda ni.

Meddylia, er enghraifft, am Gavin. Roedd yn mynychu’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas, ond nid oedd yn dymuno cael astudiaeth Feiblaidd. Roedd Gavin yn gwybod fawr ddim am y Beibl ac roedd yn ceisio cuddio’r ffaith oddi wrth eraill. Roedd yn poeni y byddai rhywun yn gofyn iddo ymuno â chrefydd benodol, ac nid oedd eisiau cael ei dwyllo. Beth rwyt ti’n ei feddwl? A oedd hi’n bosibl i helpu Gavin? Meddylia am yr effaith y gall dysgeidiaethau’r Beibl ei chael ar fywyd unigolyn. Dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid fod ei eiriau fel diferion o wlith ac fel glaw yn disgyn ar laswellt. (Deuteronomium 31:19, 30; 32:2, beibl.net) Gad inni ddysgu am natur y gwlith a’i gymharu â’n gweinidogaeth er mwyn inni helpu pobl “o bob math” mewn ffordd effeithiol.—1 Timotheus 2:3, 4, beibl.net.

SUT MAE EIN GWEINIDOGAETH FEL Y GWLITH?

Mae’r gwlith yn ysgafn. Mae’r gwlith yn ymffurfio’n raddol wrth i leithder yn yr awyr droi’n ddŵr. Sut roedd geiriau Jehofa yn “diferu fel gwlith”? Siaradodd â’i bobl mewn ffordd ffeind, addfwyn, a chariadus. Rydyn ni’n ei efelychu drwy barchu daliadau pobl eraill. Rydyn ni’n eu hannog i resymu a gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain. Wrth inni ddangos y fath ddiddordeb personol, bydd pobl yn fwy tebygol o dderbyn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud, a bydd ein gweinidogaeth yn fwy effeithiol.

Mae’r gwlith yn adfywio. Bydd ein gweinidogaeth yn adfywio eraill os ydyn ni’n meddwl am wahanol ffyrdd o’u helpu i ddysgu mwy am y gwirionedd. Gwnaeth brawd o’r enw Chris gynnig astudio gyda Gavin, ond heb roi pwysau arno i dderbyn. Yn hytrach, ceisiodd ddod o hyd i wahanol ffyrdd o wneud i Gavin deimlo’n fwy cyfforddus wrth drafod y Beibl. Dywedodd Chris wrth Gavin fod yna neges bwysig sy’n rhedeg drwy’r Beibl cyfan a bod dysgu am y neges honno yn mynd i’w helpu i ddeall y cyfarfodydd yn well. Yna, esboniodd Chris fod proffwydoliaethau’r Beibl wedi profi iddo fod yr hyn sydd yn y Beibl yn wir. O ganlyniad, cawson nhw lawer o sgyrsiau am sut cafodd proffwydoliaethau’r Beibl eu cyflawni. Cafodd Gavin ei adfywio gan y sgyrsiau hyn, ac yn y pen draw, derbyniodd astudiaeth Feiblaidd.

Mae’r gwlith yn hanfodol ar gyfer bywyd. Yn ystod y tymor poeth a sych yn Israel, mae’n bosibl na fydd hi’n glawio am fisoedd. Heb leithder y gwlith byddai’r planhigion yn crino ac yn marw. Rhagfynegodd Jehofa y byddai sychder yn ein dyddiau ni, hynny yw, y byddai pobl yn sychedu am “glywed geiriau’r ARGLWYDD.” (Amos 8:11) Addawodd Duw y byddai’r eneiniog “fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD” wrth iddyn nhw bregethu newyddion da’r Deyrnas, gyda chymorth y defaid eraill. (Micha 5:7; Ioan 10:16) Mae’r neges rydyn ni’n ei chyhoeddi yn rhan o ddarpariaeth Jehofa i roi bywyd i bawb sy’n sychedu am y gwir. Ydyn ni’n trysori’r neges hon?

Mae’r gwlith yn fendith oddi wrth Jehofa. (Deuteronomium 33:13) Gall ein gweinidogaeth fod yn fendith, neu’n anrheg, i’r rhai sy’n ymateb iddi. Roedd astudio’r Beibl yn fendith i Gavin oherwydd ei fod wedi cael atebion i bob un o’i gwestiynau. Roedd ei gynnydd yn gyflym, cafodd ei fedyddio, a nawr mae’n mwynhau pregethu’r newyddion da ochr yn ochr â’i wraig, Joyce.

Mae Tystion Jehofa yn llenwi’r ddaear â’r newyddion da am y Deyrnas

TRYSORA DY WEINIDOGAETH

Gall cymharu ein gwaith pregethu â’r gwlith ein helpu hefyd i ddeall bod ein hymdrechion yn y weinidogaeth yn werthfawr. Sut felly? Dydy un diferyn o ddŵr ddim yn helpu llawer, ond mae miliynau o ddiferion yn creu gwlith, ac mae’r tir yn llawn lleithder. Mewn modd tebyg, efallai ein bod ni’n tybio nad yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn y weinidogaeth o unrhyw werth. Ond oherwydd ymdrechion miliynau o weision Jehofa, mae’r “holl genhedloedd” yn clywed y gwirionedd. (Mathew 24:14) A fydd ein gweinidogaeth yn cael ei hystyried gan eraill yn fendith oddi wrth Jehofa? Yn bendant, bydd ein neges ni yn union fel y gwlith, sy’n ysgafn, sy’n adfywiol, ac sy’n hanfodol ar gyfer bywyd!