Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwnaeth y Masoretiaid gopïo’r Ysgrythurau’n ofalus

AR Y CLAWR | Y BEIBL—HANES GOROESIAD

Gwnaeth y Beibl Oroesi Ymdrechion i Newid ei Neges

Gwnaeth y Beibl Oroesi Ymdrechion i Newid ei Neges

Y PERYG: Mae’r Beibl wedi goroesi pydredd a gwrthwynebiad. Ond eto, mae rhai copïwyr a chyfieithwyr wedi ceisio newid neges y Beibl. Ar adegau, maen nhw wedi ceisio newid y Beibl i gytuno â’u dysgeidiaethau yn hytrach na newid eu dysgeidiaethau i gytuno â’r Beibl. Ystyriwch rai enghreifftiau:

  • Man addoli: Rhwng y bedwaredd a’r ail ganrif COG, ychwanegodd ysgrifenwyr Pumllyfr y Samariaid y geiriau canlynol ar ôl Exodus 20:17, “ym Mynydd Gerisim. Ac yno byddwch yn adeiladu allor.” Gwnaethon nhw hyn yn y gobaith y byddai’r Ysgrythurau yn cefnogi eu cynllun i adeiladu teml ar Fynydd Gerisim.

  • Dysgeidiaeth y Drindod: Lai na 300 mlynedd ar ôl i’r Beibl gael ei orffen, ychwanegodd un Trindodwr y geiriau canlynol at 1 Ioan 5:7, “yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt.” Doedd y geiriau hynny ddim yn y testun gwreiddiol. “O’r chweched ganrif ymlaen,” meddai ysgolhaig y Beibl Bruce Metzger, roedd y geiriau hynny “yn ymddangos yn fwy ac yn fwy aml yn llawysgrifau’r Hen Ladin a’r Fwlgat [Lladin].”

  • Yr enw dwyfol: Gan gyfeirio at draddodiad ofergoelus yr Iddewon fel eu hawdurdod, gwnaeth llawer o gyfieithwyr y Beibl benderfynu tynnu’r enw dwyfol o’r Ysgrythurau. Gwnaethon nhw roi teitlau fel “Duw” neu “Arglwydd” yn lle’r enw hwnnw, teitlau sy’n cael eu defnyddio yn y Beibl, nid yn unig ar gyfer y Creawdwr, ond hefyd ar gyfer dynion, eilunod, a hyd yn oed y Diafol.—Ioan 10:34, 35; 1 Corinthiaid 8:5, 6; 2 Corinthiaid 4:4. *

SUT GWNAETH Y BEIBL OROESI? Yn gyntaf, er bod rhai copïwyr y Beibl wedi bod yn esgeulus neu hyd yn oed yn dwyllodrus, roedd llawer eraill yn hynod o fedrus ac yn fanwl gywir. Rhwng y chweched a’r degfed ganrif OG, copïodd y Masoretiaid yr Ysgrythurau Hebraeg a chynhyrchu’r Testun Masoretaidd. Dywedir eu bod nhw wedi cyfri’r geiriau a’r llythrennau i sicrhau nad oedd unrhyw gamgymeriadau wedi sleifio i mewn. Lle roedden nhw’n tybio bod ’na gamgymeriad yn y prif destun roedden nhw’n copïo ohono, bydden nhw’n nodi’r rheini ar ymyl y dudalen. Roedd y Masoretiaid yn gwrthod ymyrryd â thestun y Beibl. “Byddai ymyrryd yn bwrpasol â’r testun wedi bod yn drosedd enfawr yn eu golwg nhw,” meddai’r Athro Moshe Goshen-Gottstein.

Yn ail, gan fod ’na gymaint o lawysgrifau heddiw gall ysgolheigion y Beibl gael hyd i gamgymeriadau’n haws. Er enghraifft, dysgodd arweinwyr crefyddol am ganrifoedd mai eu cyfieithiadau Lladin nhw o’r Beibl oedd yn cynnwys y testun gwreiddiol. Ond eto, yn 1 Ioan 5:7, roedden nhw wedi ychwanegu’r geiriau a soniwyd amdanyn nhw gynt yn yr erthygl hon. Gwnaeth y camgymeriad hyd yn oed sleifio i mewn i’r Beibl Cysegr-lân! Ond pan ddaeth llawysgrifau eraill i’r golwg, beth wnaethon nhw ei ddatgelu? Ysgrifennodd Bruce Metzger: “Dydy’r rhan honno o’r adnod [yn 1 Ioan 5:7] ddim yn ymddangos yn unrhyw un o’r llawysgrifau hynafol (Syrieg, Copteg, Armeneg, Ethiopeg, Arabeg, Slafoneg), heblaw am y fersiwn Lladin.” O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o gyfieithiadau modern o’r Beibl i’r Gymraeg wedi hepgor y geiriau annilys.

Chester Beatty P46, llawysgrif Beiblaidd papyrws o tua 200 OG

A yw llawysgrifau hŷn yn profi nad yw neges y Beibl wedi ei newid? Pan gafodd Sgroliau’r Môr Marw eu darganfod ym 1947, roedd ysgolheigion yn gallu cymharu’r testun Masoretaidd Hebraeg â’r hyn oedd yn ymddangos mewn sgroliau Beiblaidd a oedd wedi cael eu hysgrifennu dros fil o flynyddoedd ynghynt. Daeth un arbenigwr i’r casgliad fod un sgrôl yn rhoi tystiolaeth gadarn fod y Masoretiaid wedi bod yn hynod o ofalus ac yn fanwl wrth gopïo testun y Beibl dros gyfnod o fil o flynyddoedd.

Mae gan Lyfrgell Chester Beatty yn Nulyn, Iwerddon, gasgliad o bapyri sy’n cynrychioli bron pob llyfr yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, gan gynnwys llawysgrifau o’r ail ganrif OG​—dim ond rhyw 100 mlynedd ar ôl i’r Beibl gael ei orffen. “Er bod y Papyri yn rhoi cyfoeth o wybodaeth newydd ar fanylion y testun,” meddai’r Anchor Bible Dictionary, “maen nhw hefyd yn dangos cysondeb rhyfeddol yn hanes trosglwyddo’r testun beiblaidd.”

“Gallwn ni ddweud â sicrwydd nad oes yr un gwaith hynafol arall wedi cael ei drosglwyddo mor gywir”

Y CANLYNIAD: Mae’r ffaith fod gynnon ni gymaint o lawysgrifau mor hen wedi amddiffyn y Beibl rhag cael ei newid. “Does ’na’r un llyfr hynafol arall wedi cael ei gopïo gymaint o weithiau,” meddai Syr Frederic Kenyon am yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, “ac eto fyddai’r un ysgolhaig diduedd yn gwadu fod y testun rydyn ni’n ei ddarllen wedi aros yr un fath.” Ac ynglŷn â’r Ysgrythurau Hebraeg, dywedodd yr ysgolhaig William Henry Green: “Gallwn ni ddweud â sicrwydd nad oes yr un gwaith hynafol arall wedi cael ei drosglwyddo mor gywir.”

^ Par. 6 Am fwy o wybodaeth, gweler y llyfryn Cymorth i Astudio Gair Duw, tt. 1-13, sydd ar gael ar jw.org/cy.