Neidio i'r cynnwys

 CWESTIYNAU EIN DARLLENWYR . . .

Pwy Greodd Dduw?

Pwy Greodd Dduw?

Dychmygwch dad yn siarad â’i fab saith mlwydd oed. Mae’n dweud, “Yn bell bell yn ôl, creodd Duw y ddaear a phopeth arni, creodd yr haul, y lleuad, a’r sêr hefyd.” Mae’r bachgen yn meddwl am hyn am funud ac yna’n gofyn, “Dad, pwy greodd Dduw?”

“Does neb wedi creu Duw,” meddai’r tad. “Mae wastad wedi bodoli.” Mae’r ateb syml yn bodloni’r plentyn am y tro. Ond, wrth iddo fynd yn hŷn mae’n dal i bendroni dros y cwestiwn. Mae’n ei chael hi’n anodd deall sut gallai rhywun fod heb ddechreuad. Mae hyd yn oed y bydysawd wedi cychwyn rywdro. Felly mae’n meddwl iddo’i hun, ‘O le ddaeth Duw?’

Sut mae’r Beibl yn ateb? Yn y bôn, mewn ffordd debyg iawn i’r tad yn yr enghraifft uchod. Ysgrifennodd Moses: “ARGLWYDD, . . . cyn geni’r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a’r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.” (Salm 90:​1, 2, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Hefyd, dywedodd y proffwyd Eseia: “Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy’r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu y ddaear gyfan.” (Eseia 40:28) Mewn ffordd debyg, mae llythyr Jwdas yn dweud bod Duw wedi bodoli “cyn yr oesoedd.”​—Jwdas 25, BCND.

Mae’r adnodau hynny yn dangos inni mai Duw yw ‘Brenin tragwyddoldeb,’ fel mae’r apostol Paul yn ei ddisgrifio. (1 Timotheus 1:​17) Mae hyn yn golygu bod Duw wastad wedi bodoli, ni waeth pa mor bell yn ôl rydyn ni’n edrych. Ac fe fydd wastad yn bodoli yn y dyfodol. (Datguddiad 1:8) Felly, mae ei fodolaeth dragwyddol yn un o nodweddion annatod yr Hollalluog.

Pam mae’r syniad hwn mor anodd inni ei ddeall? Am fod ein bywydau mor fyr, rydyn ni’n edrych ar amser mewn ffordd gwbl wahanol i Jehofa. Gan fod Duw yn dragwyddol, iddo ef mae mil o flynyddoedd fel diwrnod. (2 Pedr 3:8) I egluro: A allai sboncyn y gwair, sydd ond yn byw fel oedolyn am tua 50 diwrnod, ddeall hyd ein bywydau ni o tua 70 neu 80 mlynedd? Go brin! Eto, mae’r Beibl yn esbonio ein bod ni fel sboncynnod y gwair i gymharu â’n Creawdwr Mawr. Mae hyd yn oed ein gallu i resymu yn bitw o gymharu i’w allu ef. (Eseia 40:22; 55:​8, 9) Felly does dim syndod fod ’na agweddau ar natur Jehofa na all bodau dynol eu deall yn llawn.

Er bod y syniad o Dduw tragwyddol yn un anodd ei ddeall, gallwn weld ei fod yn gwneud synnwyr. Petasai rhywun arall wedi creu Duw, y person hwnnw fyddai’r Creawdwr. Ond eto, fel mae’r Beibl yn esbonio, Jehofa yw’r un a “greodd bob peth.” (Datguddiad 4:​11) Ac ar ben hynny, gwyddon ni nad oedd y bydysawd yn bodoli ar un adeg. (Genesis 1:​1, 2) O le daeth y bydysawd? Roedd rhaid i’w Greawdwr fodoli’n gyntaf. Roedd Ef hefyd yn bodoli cyn bod ’na unrhyw fodau deallus eraill, fel ei unig-anedig Fab a’r angylion. (Job 38:4, 7; Colosiaid 1:15, BCND) Yn amlwg felly, roedd yn bodoli ar ei ben ei hun yn gyntaf. Doedd hi ddim yn bosib iddo gael ei greu; doedd dim byd yn bodoli a allai fod wedi ei greu.

Mae’r ffaith ein bod ni, a’r bydysawd cyfan yn bodoli, yn dystiolaeth fod ’na Dduw tragwyddol. Mae’n rhaid fod yr Un a roddodd gychwyn ar ein bydysawd eang, yr Un a sefydlodd y deddfau i’w reoli, wastad wedi bodoli. Dim ond ef allai fod wedi anadlu bywyd i mewn i bopeth arall.​—Job 33:4.