Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

 HANES BYWYD

Dydy Bod yn Fyddar Ddim Wedi Fy Nal yn Ôl Rhag Dysgu Eraill

Dydy Bod yn Fyddar Ddim Wedi Fy Nal yn Ôl Rhag Dysgu Eraill

Ges i fy medyddio yn 1941, yn 12 mlwydd oed. Ond, doeddwn i ddim yn deall gwirionedd y Beibl yn iawn tan 1946. Pam felly? Gad imi adrodd fy stori.

YN Y 1910au, symudodd fy rhieni o Tbilisi, Georgia, i Ganada, a byw mewn tŷ fferm ar y paith gyferbyn â Pelly, Saskatchewan, yng ngorllewin Canada. Ges i fy ngeni yn 1928, y ieuengaf o chwech o blant. Bu farw fy nhad chwe mis cyn imi gael fy ngeni, a bu farw fy mam pan oeddwn i’n dal yn fabi. Bu farw fy chwaer hynaf, Lucy, ychydig yn ddiweddarach, yn 17 oed. Wedi hynny, gofalodd fy ewythr, Nick, amdanaf fi a fy mrodyr a fy chwiorydd.

Un diwrnod, tra oeddwn i’n blentyn bach, gwelodd fy nheulu finnau’n tynnu cynffon un o geffylau’r fferm. Yn poeni’n arw y byddai’r ceffyl yn fy nghicio, roedden nhw’n sgrechian arnaf i stopio—ond wnes i ddim ymateb. Roeddwn i’n sefyll â’m cefn tuag atyn nhw, a ni chlywais y sgrechian. Yn ffodus, chefais i ddim fy mrifo, ond dyna oedd y diwrnod y sylweddolodd fy nheulu fy mod i’n fyddar.

Awgrymodd un o ffrindiau’r teulu imi gael fy nysgu gyda phlant byddar eraill, felly trefnodd fy ewythr, Nick, imi fynd i’r ysgol ar gyfer plant byddar yn Saskatoon, Saskatchewan. Symudais i ardal a oedd yn bell i ffwrdd o fy nheulu, a minnau ond yn bump oed, roeddwn i wedi ofni’n lân. Roeddwn i’n cael gweld fy nheulu yn ystod y gwyliau ac yn yr haf. Yn y pen draw, dysgais iaith arwyddion a ges i hwyl yn chwarae gyda’r plant eraill.

DYSGU GWIRIONEDD Y BEIBL

Yn 1939, priododd fy chwaer hŷn Marion â Bill Danylchuck, a dechreuon nhw ofalu amdanaf fi a fy chwaer, Frances. Y nhw oedd y cyntaf yn y teulu i ymwneud â Thystion Jehofa. Yn ystod fy ngwyliau, gwnaethon nhw eu gorau i rannu’r hyn roedden nhw’n ei ddysgu o’r Beibl â mi. A dweud y gwir, nid oedd yn hawdd cyfathrebu â nhw, oherwydd doedden nhw ddim yn defnyddio iaith  arwyddion. Ond, yn amlwg, gwelon nhw fy mod i wrth fy modd â phethau ysbrydol. Gwelais y cysylltiad rhwng yr hyn roedden nhw’n ei wneud, a’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud, felly, es i gyda nhw yn y weinidogaeth. Cyn bo hir, roeddwn i eisiau cael fy medyddio, ac ar 5 Medi 1941, gwnaeth Bill fy medyddio mewn drwm metel llawn dŵr o’r ffynnon. Roedd y dŵr yn rhewllyd!

Gyda grŵp o bobl fyddar yn y gynhadledd yn Cleveland, Ohio, yn 1946

Yn 1946, pan gyrhaeddais adref i dreulio’r haf, aethon ni i gynhadledd yn Cleveland, Ohio, UDA. Ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd, roedd fy chwiorydd, yn eu tro, yn ysgrifennu nodiadau er mwyn imi ddilyn y rhaglen. Ond, ar yr ail ddiwrnod, roeddwn i’n hapus i ddarganfod bod grŵp byddar yno gyda rhywun yn cyfieithu i iaith arwyddion. O’r diwedd, roeddwn i’n gallu mwynhau’r rhaglen, ac roeddwn i’n gallu deall gwirionedd y Beibl yn glir am y tro cyntaf!

DYSGU’R GWIRIONEDD I ERAILL

Yr adeg honno, roedd yr Ail Ryfel Byd newydd orffen ac roedd pobl yn genedlaethol iawn. Dychwelais o’r gynhadledd yn benderfynol o wneud safiad dros fy naliadau yn yr ysgol. Felly stopiais saliwtio’r faner ac ymuno yn yr anthem genedlaethol. Hefyd, wnes i roi’r gorau i ddathlu gwyliau a mynychu gwasanaethau gorfodol yn yr eglwys. Doedd staff yr ysgol ddim yn hapus a gwnaethon nhw geisio fy ngorfodi i newid fy meddwl drwy ddweud celwyddau wrthyf fi. Achosodd hyn stŵr ymhlith fy nghyd-ddisgyblion, ond daeth cyfleoedd i bregethu hefyd. Gwnaeth fy nghyd-ddisgyblion Larry Androsoff, Norman Dittrick, ac Emil Schneider dderbyn y gwir, ac maen nhw’n gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon hyd heddiw.

Wrth imi ymweld â dinasoedd eraill, rydw i’n wastad wedi gwneud ymdrech i bregethu i’r bobl fyddar yno. Er enghraifft, mewn clwb ar gyfer pobl fyddar ym Montreal, pregethais i Eddie Tager, dyn ifanc a oedd mewn gang. Hyd at ei farwolaeth blwyddyn diwethaf, roedd yn aelod o’r gynulleidfa fyddar yn Laval, Quebec. Gwnes i hefyd gwrdd â Juan Ardanez, a oedd fel pobl Berea yn gwneud ymchwil i gadarnhau gwirionedd neges y Beibl. (Act. 17:10, 11) Daeth yntau hefyd i mewn i’r gwir a gwasanaethu’n henuriad yn Ottawa, Ontario, nes iddo farw.

Yn pregethu ar y stryd yn y 1950au cynnar

Yn 1950, symudais i Vancouver. Er fy mod i wrth fy modd yn pregethu i bobl fyddar, fydda’ i byth yn anghofio profiad a ges i yn pregethu ar y stryd i ddynes o’r enw Chris Spicer a oedd yn medru clywed. Derbyniodd hi danysgrifiad ar gyfer y cylchgronau ac roedd hi eisiau imi gyfarfod â’i gŵr, Gary. Felly, es i i’w cartref, a gwnaethon ni siarad am yn hir gan ddefnyddio nodiadau. Dyna’r  unig gysylltiad a gawson ni tan flynyddoedd wedyn ac, er mawr syndod imi, dyma nhw’n fy ngweld i mewn torf o bobl yn y gynhadledd yn Toronto, Ontario. Roedd Gary am gael ei fedyddio’r diwrnod hwnnw. Gwnaeth y profiad fy atgoffa o’r pwysigrwydd o ddal ati i bregethu oherwydd dydyn ni byth yn gwybod lle bydd y gwirionedd yn bwrw ei wreiddiau.

Yn hwyrach ymlaen, symudais yn ôl i Saskatoon. Yno, cwrddais â mam a oedd eisiau imi astudio’r Beibl gyda’i dwy ferch fyddar, Jean a Joan Rothenberger, a oedd yn mynd i’r un ysgol ar gyfer plant byddar y gwnes i fynd iddi. Cyn bo hir, roedd y ddwy ferch yn rhannu’r hyn roedden nhw’n ei ddysgu â’u cyd-ddisgyblion. Yn y diwedd, daeth pum aelod o’u dosbarth yn Dystion Jehofa. Un ohonyn nhw oedd Eunice Colin. Roeddwn i wedi cwrdd ag Eunice am y tro cyntaf yn yr ysgol honno pan oeddwn i yn y dosbarth uwch. Bryd hynny, rhoddodd hi fferins imi a gofyn a gawn ni fod yn ffrindiau. Yn nes ymlaen, daeth hi’n bwysig iawn yn fy mywyd—daeth hi’n wraig imi!

Gydag Eunice yn 1960 ac yn 1989

Pan glywodd mam Eunice ei bod hi’n astudio’r Beibl, aeth at y prifathro a gofyn iddo i’w pherswadio hi i stopio. Cymerodd y prifathro ei deunydd astudio hyd yn oed. Ond, roedd Eunice yn benderfynol o gadw Jehofa yn gyntaf yn ei bywyd. Pan oedd hi eisiau cael ei bedyddio, dywedodd ei rhieni wrthi, “Os wyt ti’n troi’n un o Dystion Jehofa, byddi di’n gorfod symud allan!” Yn 17 oed, fe wnaeth Eunice symud allan o’r cartref, a gwnaeth teulu o Dystion lleol ofalu amdani. Parhaodd hi i astudio a chafodd hi ei bedyddio yn nes ymlaen. Pan briodon ni yn 1960, ni ddaeth ei rhieni i’r briodas. Ond, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, dechreuon nhw ein parchu oherwydd ein daliadau a’r ffordd gwnaethon ni ddwyn ein plant i fyny.

 MAE JEHOFA WEDI GOFALU AMDANAF

Mae fy mab Nicholas a’i wraig, Deborah, yn gwasanaethu yn y Bethel yn Llundain

A ninnau’n rhieni byddar, cawson ni saith o fechgyn a phob un ohonyn nhw’n gallu clywed. Roedd hynny’n her, ond gwnaethon ni sicrhau eu bod nhw’n defnyddio iaith arwyddion er mwyn inni gyfathrebu’n dda a dysgu’r gwirionedd iddyn nhw. Roedd y brodyr a’r chwiorydd yn y gynulleidfa yn help mawr. Er enghraifft, ysgrifennodd un rhiant nodyn yn dweud bod un o’n bechgyn yn dweud geiriau aflednais yn Neuadd y Deyrnas. Roedden ni’n medru datrys y broblem yn y fan a’r lle. Mae pedwar o’n bechgyn—James, Jerry, Nicholas, a Steven—yn gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon gyda’u gwragedd. Mae’r pedwar ohonyn nhw’n henuriaid. Hefyd, mae Nicholas a’i wraig, Deborah, yn helpu gyda’r gwaith cyfieithu i iaith arwyddion yn y gangen ym Mhrydain tra bo Steven a’i wraig, Shannan, yn rhan o dîm cyfieithu iaith arwyddion yn y gangen yn yr Unol Daleithiau.

Mae fy meibion James, Jerry, a Steven a’u gwragedd yn cefnogi’r gwaith pregethu mewn ieithoedd arwyddion mewn amryw ffyrdd

Fis cyn ein 40fed pen blwydd priodas, collodd Eunice ei brwydr yn erbyn cancr. Roedd hi’n ddewr iawn drwy’r cyfnod hwnnw. Roedd ei gobaith yn yr atgyfodiad yn ei chadw’n gryf. Rydw i’n dyheu am gael ei gweld hi eto.

Faye a James Markin; Jerry ac Evelyn Markin; Shannan a Steve Markin

Ym mis Chwefror 2012, syrthiais a thorri fy nghlun, ac roedd yn amlwg y bydd angen help arnaf. Felly, symudais i fyw gydag un o’m plant a’i wraig. Rydyn ni nawr yn rhan o Gynulleidfa Iaith Arwyddion Calgary, ac rydw i’n dal i wasanaethu’n henuriad yno. Dyma’r tro cyntaf imi fod mewn cynulleidfa iaith arwyddion. Dychmyga hynny! Sut roeddwn i’n gallu llwyddo’n ysbrydol mewn cynulleidfa Saesneg ar hyd yr holl flynyddoedd—ers 1946? Mae Jehofa wedi cadw ei addewid i ofalu am blant amddifad. (Salm 10:14) Rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud yr ymdrech i ysgrifennu nodiadau, dysgu iaith arwyddion, a chyfieithu imi orau ag y medran nhw.

Yn yr ysgol arloesi yn Iaith Arwyddion America (ASL) yn 79 oed

A dweud y gwir, roedd yna adegau pan oeddwn yn teimlo’n rhwystredig iawn ac eisiau rhoi’r gorau iddi oherwydd doeddwn i ddim yn deall beth oedd yn cael ei ddweud neu oherwydd ei bod hi’n ymddangos fel nad oedd neb yn deall anghenion pobl fyddar. Ond, ar adegau o’r fath, roeddwn i’n meddwl am yr hyn a ddywedodd Pedr wrth Iesu: “Arglwydd, at bwy awn ni? . . . Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol.” (Ioan 6:66-68) Yn debyg i lawer o frodyr a chwiorydd byddar eraill o’m cenhedlaeth i, rydw i wedi dysgu i ddangos amynedd. Rydw i wedi dysgu i aros am Jehofa a’i gyfundrefn, ac rydw i wedi cael lles o wneud hynny! Nawr mae gen i wledd o fwyd ysbrydol yn fy iaith i, a galla’ i fwynhau cymdeithasu ag eraill mewn cynulleidfa a chynhadledd iaith arwyddion. Yn wir, rydw i wedi cael bywyd hapus iawn yn gwasanaethu Jehofa, ein Duw cariadus.