Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Ysgrifennodd yr apostol Paul na fydd Jehofa “yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi.” (1 Cor. 10:13) Ydy hyn yn golygu bod Jehofa yn asesu o flaen llaw faint y gallwn ei ddioddef ac wedyn yn dewis pa dreialon y byddwn yn eu hwynebu?

Ystyria oblygiadau safbwynt o’r fath. Gofynnodd un brawd yr oedd ei fab wedi ei ladd ei hun: “A oedd Jehofa wedi gweld o flaen llaw fy mod i a’m gwraig yn medru dioddef hunanladdiad ein mab?” A oes rheswm inni gredu bod Jehofa yn pennu’r hyn sy’n digwydd inni mewn modd mor benodol?

Mae ystyriaeth bellach o eiriau Paul yn 1 Corinthiaid 10:13 yn arwain at y casgliad canlynol: Does dim rheswm Ysgrythurol dros gredu bod Jehofa yn asesu o flaen llaw faint y gallwn ei ddioddef ac yna’n dewis pa dreialon a ddaw i’n rhan. Ystyriwn bedwar rheswm dros ddod i’r casgliad hwnnw.

Yn gyntaf, mae Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd i fodau dynol. Mae’n dymuno inni ddewis ein llwybr ein hunain mewn bywyd. (Deut. 30:19, 20; Jos. 24:15) Os dewiswn y ffordd iawn, gallwn droi at Jehofa am arweiniad. (Diar. 16:9) Ond, os dewiswn y ffordd anghywir, bydd rhaid wynebu’r canlyniadau. (Gal. 6:7) Pe bai Jehofa yn dewis y treialon sy’n dod i’n rhan, oni fyddai hynny yn amharu ar ein hewyllys rhydd?

Yn ail, nid yw Jehofa yn ein gwarchod rhag “y damweiniau [sy]’n gallu digwydd i bawb.” (Preg. 9:11) Mae damweiniau, gan gynnwys rhai trychinebus, yn gallu digwydd oherwydd bod rhywun yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir. Cyfeiriodd Iesu at drychineb a laddodd 18 o bobl pan syrthiodd tŵr arnyn nhw, ond dangosodd nad ewyllys Duw oedd y marwolaethau hynny. (Luc 13:1-5) Onid afresymol yw credu bod Duw yn penderfynu o flaen llaw pwy sy’n byw a phwy sy’n marw o ganlyniad i bethau sy’n digwydd trwy ddamwain?

Yn drydydd, mae’r ddadl ynglŷn â chadw uniondeb yn ymwneud â phob un ohonon ni. Cofia fod Satan wedi codi cwestiwn am uniondeb pawb sy’n gwasanaethu Jehofa, gan honni na fydd neb yn aros yn ffyddlon i Jehofa dan brawf. (Job 1:9-11; 2:4; Dat. 12:10) Pe bai Jehofa yn ein gwarchod rhag  wynebu rhai treialon oherwydd iddo feddwl eu bod nhw’n ormod inni, oni fyddai hynny yn awgrymu bod Satan yn iawn i’n cyhuddo ni o wasanaethu Duw am resymau hunanol?

Yn bedwerydd, nid oes rhaid i Jehofa wybod am bopeth sy’n digwydd inni o flaen llaw. Mae’r syniad fod Duw yn dewis ein treialon o flaen llaw yn awgrymu bod rhaid iddo wybod popeth am ein dyfodol. Ond nid safbwynt Ysgrythurol yw hwnnw. Yn ddiamau, fe all Duw ragweld y dyfodol. (Esei. 46:10) Ond mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn dewis pa bethau y mae eisiau eu gwybod am ddigwyddiadau’r dyfodol. (Gen. 18:20, 21; 22:12) Felly, mae’n cloriannu ei ragwybodaeth â’i barch tuag at ein hewyllys rhydd. Onid dyna y bydden ni’n ei ddisgwyl gan Dduw sy’n parchu ein rhyddid ac sydd bob amser yn arfer ei briodoleddau mewn ffordd berffaith gytbwys?—Deut. 32:4; 2 Cor. 3:17.

Sut felly mae deall geiriau Paul: “Fydd [Duw] ddim yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi”? Yma, mae Paul yn disgrifio’r hyn y mae Jehofa yn ei wneud, nid cyn ond yn ystod ein treialon. * Mae geiriau’r apostol yn rhoi’r sicrwydd inni y bydd Jehofa, ni waeth pa dreialon sy’n dod i’n rhan, yn ein cynnal os ymddiriedwn ynddo. (Salm 55:22) Mae geiriau Paul yn seiliedig ar ddau wirionedd.

Yn gyntaf, nid yw ein treialon ni’n wahanol i dreialon pobl eraill. Hynny yw, maen nhw’n rhan o’r profiad dynol cyffredin. Nid yw treialon felly y tu hwnt i’n gallu i’w dioddef—cyhyd â’n bod ni’n dibynnu ar Dduw. (1 Pedr 5:8, 9) O edrych ar gyd-destun 1 Corinthiaid 10:13, gwelwn fod Paul yn cyfeirio at dreialon Israel yn yr anialwch. (1 Cor. 10:6-11) Nid oedd yr un o’r treialon hynny y tu hwnt i’r profiad dynol nac yn amhosibl i’r Israeliaid ffyddlon ei ddioddef. Dywed Paul bedair gwaith y bu “rhai ohonyn nhw” yn anufudd. Ildiodd rhai o’r Israeliaid oherwydd iddyn nhw fethu dibynnu ar Dduw.

Yn ail, “mae Duw yn ffyddlon.” Mae hanes y ffordd y mae Duw wedi ymdrin â’i bobl yn dangos ei fod yn ffyddlon “i’r rhai sy’n ei garu ac yn gwneud beth mae e’n ddweud.” (Deut. 7:9) Mae’r hanes hefyd yn dangos ei fod bob amser yn cadw ei addewidion. (Jos. 23:14) Oherwydd ei ffyddlondeb yn y gorffennol, mae’r rhai sy’n caru Jehofa ac sy’n ufudd iddo yn gallu dibynnu arno i gadw’r addewid deublyg hwn ynglŷn â threialon y gallen nhw eu hwynebu: (1) Ni fydd yn gadael i unrhyw dreial barhau nes ei fod yn amhosibl inni ei ddioddef, a (2) “bydd yn dangos ffordd [inni] ddianc.”

Mae Jehofa yn “ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion”

Sut mae Jehofa yn rhoi dihangfa i’r rhai sy’n dibynnu arno dan brawf? Wrth gwrs, petai’n dymuno, fe allai roi terfyn ar unrhyw brawf yn syth. Ond cofia eiriau Paul: “Bydd [Jehofa] yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.Felly, mewn llawer o achosion, mae’n rhoi dihangfa trwy ddarparu’r hyn sydd ei angen arnon ni er mwyn dod trwy’r prawf yn llwyddiannus. Ystyria rai o’r ffyrdd y gall Jehofa roi dihangfa inni.

  • “Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.” (2 Cor. 1:3, 4) Mae Jehofa’n gallu cysuro ein calonnau a thawelu ein hemosiynau a’n meddyliau drwy ei Air, ei ysbryd glân, a’r bwyd ysbrydol sy’n dod trwy law’r gwas ffyddlon.—Math. 24:45; Ioan 14:16; Rhuf. 15:4.

  • Fe all ein harwain drwy ei ysbryd glân. (Ioan 14:26) Pan ddaw prawf, mae’r ysbryd yn gallu galw i’n cof hanesion ac egwyddorion o’r Beibl i’n helpu ni i wybod pa gamau i’w cymryd.

  • Gall Duw ddefnyddio’r angylion i’n helpu.—Heb. 1:14.

  • Gall ein helpu drwy eiriau a gweithredoedd ein cyd-addolwyr sydd “yn gysur mawr” inni.—Col. 4:11.

Beth felly yw ein casgliad ynglŷn ag ystyr geiriau Paul yn 1 Corinthiaid 10:13? Nid yw Jehofa yn dewis a dethol y treialon sy’n dod i’n rhan. Ond pan ddaw treialon, gallwn fod yn sicr o hyn: Os ymddiriedwn yn llwyr yn Jehofa, ni fydd byth yn gadael i’n treialon barhau nes eu bod yn amhosibl inni eu dioddef; bydd bob amser yn rhoi dihangfa inni fel y gallwn ddyfalbarhau. Onid yw hynny yn rhoi cysur inni?

^ Par. 2 Gall y gair Groeg a gyfieithir “temtasiwn” olygu “prawf, treial.”