Cymraeg
Mae Plant yn “Etifeddiaeth” Oddi Wrth Jehofa
https://cms-imgp.jw-cdn.org/img/p/2026284/univ/art/2026284_univ_sqr_xl.jpg
w26 Chwefror tt. 26-29

Mae Plant yn “Etifeddiaeth” Oddi Wrth Jehofa

Mae Plant yn “Etifeddiaeth” Oddi Wrth Jehofa

BETH sy’n dod i dy feddwl pan wyt ti’n clywed y gair “etifeddiaeth”? Efallai byddi di’n meddwl am arian, eiddo, neu drysor teuluol. Beth bynnag sy’n dod i dy feddwl, mae etifeddiaeth yn werthfawr ac mae’n siŵr y byddi di eisiau edrych ar ei hôl.

Mae’r Beibl yn galw plant yn “etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD.” (Salm 127:3, BCND) Yn wir, mae rhieni Cristnogol yn ystyried eu plant fel rhoddion gwerthfawr oddi wrth eu Tad nefol ac maen nhw eisiau gwneud popeth posib i’w cadw nhw’n saff ac i ofalu amdanyn nhw yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol.

Yn anffodus, dydy rhai rhieni ddim yn ystyried eu plant fel rhoddion oddi wrth Dduw. (Esei. 49:15; 2 Tim. 3:1-3) Mae eraill wir eisiau gofalu am eu plant ond yn cael trafferth gwneud hynny oherwydd gwahanol heriau. Pa fath o heriau sy’n ei gwneud hi’n anodd i rieni ofalu am eu plant? Beth mae Jehofa’n ei ofyn gan rieni? A sut gall rhieni Cristnogol fagu eu plant yn llwyddiannus?

YR HERIAU

  • Pwysau gan y gymuned a’r teulu. Mewn rhai llefydd o’r byd, mae’r gymuned yn rhoi mwy o barch i rieni sydd â llawer o blant. Felly, gall cyplau wynebu pwysau gan eu teulu neu eu cymdogion i gael llawer o blant—efallai mwy nag y gallen nhw edrych ar eu holau.

  • Pryderon am y dyfodol. Mewn gwledydd lle mae’r nifer o farwolaethau babanod yn uchel oherwydd afiechydon, diffyg maeth, neu ddiffyg gofal iechyd, mae rhai cyplau yn cael llawer o blant i sicrhau bod o leiaf rhai ohonyn nhw yn byw i fod yn oedolion. Mae cyplau eraill yn dewis cael llawer o blant er mwyn cael rhywun i ofalu amdanyn nhw yn eu henaint. Mae hyn yn enwedig o wir mewn gwledydd lle nad ydy’r llywodraeth yn rhoi cymorth i’r henoed.

  • Cynllunio Teulu. Mewn llefydd eraill, mae’n anodd i gyplau gael hyd i ddulliau ar gyfer rheoli cenhedlu. Mae eraill yn ofni sgileffeithiau dulliau atal cenhedlu sydd ar gael iddyn nhw sydd o safon isel. I eraill, mae’r dulliau yn rhy ddrud iddyn nhw eu fforddio. a

BETH MAE JEHOFA’N EI OFYN GAN RIENI?

Treuliwch amser gyda phob un o’ch plant

Gofalu am anghenion dy blant. Mae Jehofa wedi rhoi i rieni y cyfrifoldeb o ofalu am anghenion materol eu plant dan oed. Mae’n disgwyl i rieni fod yn barod i weithio’n galed i ddarparu bwyd, dillad, a lloches ar gyfer pob un plentyn. Mae Jehofa hefyd yn gofyn i rieni ddysgu eu plant. Felly dydy rhieni Cristnogol ddim yn anfon eu plant i ysgolion preswyl. Yn hytrach, maen nhw’n sicrhau bod eu plant yn byw yn y cartref wrth iddyn nhw dyfu fel eu bod nhw’n gallu cael yr addysg a’r sylw sydd eu hangen er mwyn iddyn nhw deimlo’n saff, yn ddiogel, a bod eu rhieni yn eu caru nhw. Ond eto, mae Jehofa’n rhesymol; nid yw’n disgwyl i rieni fod yn gyfoethog. Yn wir, dewisodd Jehofa rieni tlawd a oedd yn gweithio’n galed i fagu ei Fab ei hun.—Math. 13:55, 56; Luc 2:24.

Egwyddor o’r Beibl: “Yn wir, os nad ydy rhywun yn darparu ar gyfer y rhai sydd o dan ei ofal, ac yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n aelodau o’i deulu, mae ef wedi cefnu ar y ffydd ac yn waeth na rhywun sydd heb ffydd.”—1 Tim. 5:8.

Mae Jehofa’n deall efallai bydd angen i rieni gael help ymarferol wrth iddyn nhw heneiddio. Mewn gwirionedd, un ffordd gall plant anrhydeddu eu rhieni ydy drwy drefnu eu gofal pan maen nhw’n mynd yn hŷn. (Ex. 20:12; 1 Tim. 5:4) Ond, mae Jehofa’n hapus pan mae rhieni yn meddwl yn bennaf am sut byddan nhw’n gofalu am eu plant yn hytrach nag am sut byddai’r plant yn gofalu amdanyn nhw.—2 Cor. 12:14.

Gofalu am eu hanghenion ysbrydol. Yn ogystal, mae gan rieni Cristnogol y cyfrifoldeb o hyfforddi eu plant i garu Jehofa a’i addoli. Mae’n ystyried yr hyfforddiant ysbrydol mae rhieni yn ei roi yn rhan hanfodol o fagu plant.—Deut. 6:6, 7.

Egwyddor o’r Beibl: “Parhewch [i fagu eich plant] yn nisgyblaeth a hyfforddiant Jehofa.”—Eff. 6:4.

MAE JEHOFA EISIAU ITI LWYDDO

Trafodwch o flaen llaw faint o blant rydych chi eisiau eu cael

Cynllunio ar gyfer y dyfodol. Os wyt ti’n meddwl am gael plant, ystyria dy amgylchiadau yn ofalus. Er enghraifft, a wyt ti’n gallu fforddio bwydo, dilladu, a dysgu llawer o blant? Os nad wyt ti’n gallu, trafoda â dy gymar faint o blant i’w cael fel eich bod chi’n gallu gofalu amdanyn nhw yn y ffordd mae Jehofa’n ei disgwyl. Wrth gwrs, mae Jehofa’n deall na allwn ni gynllunio am bopeth mewn bywyd. (Preg. 9:11) Ond fe fydd yn bendithio eich ymdrechion diffuant i fod yn rhieni llwyddiannus.

Egwyddor o’r Beibl: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled; ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.”—Diar. 21:5.

“Os ydych chi eisiau adeiladu tŵr, pwy ohonoch chi na fyddai’n eistedd i lawr a chyfri’r gost i weld a oes ganddo ddigon i gwblhau’r gwaith?”—Luc 14:28.

Rhoi Jehofa’n gyntaf yn dy deulu. Gwna’n siŵr fod gwasanaethu Jehofa yw’r peth pwysicaf yn dy deulu. Os oes gen ti blant yn barod, bydda’n benderfynol o ddysgu pob un ohonyn nhw i garu Jehofa. Helpa nhw i dalu sylw ac i ddysgu yn y cyfarfodydd. Cadwa at rwtîn da o addoliad teuluol. Hyffordda dy blant yn y weinidogaeth. Paid â disgwyl i dy blant hŷn neu berthnasau eraill gymryd drosodd dy gyfrifoldebau fel rhiant. Bydd magu plant sy’n caru Jehofa yn cymryd amser ac egni, ond mae’r bendithion yn fawr.

Egwyddor o’r Beibl: “Does dim byd yn fy ngwneud i’n fwy llawen na chlywed bod fy mhlant yn parhau i gerdded yn y gwir.”—3 Ioan 4. b

Ymddiried yn Jehofa. Os wyt i’n meddwl am gael plant neu os oes gen ti blant yn barod, trystia fod safonau Jehofa yn llawer pwysicach na diwylliannau ac arferion lleol.

Mae gofalu am anghenion ysbrydol plant yn gofyn am amser ac egni

Os wyt ti’n dewis peidio â chael llawer o blant, bydda’n siŵr bydd Jehofa’n dal i ofalu amdanat ti yn dy henaint. Gwrthoda’r syniad o weld dy blant fel “cynllun ymddeol.” Does dim rhaid iti ofni na fydd neb yn gofalu amdanat ti. Mae Jehofa wedi addo gofalu amdanat ti, a dydy ef byth yn torri ei addewidion.—Jos. 23:14.

Egwyddor o’r Beibl: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.”—Diar. 3:5, 6.

“Roeddwn i’n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy’n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na’i blant yn gorfod chwilio am fwyd.”—Salm 37:25.

“Daliwch ati, felly, i geisio yn gyntaf y Deyrnas a chyfiawnder Duw, a bydd yr holl bethau eraill hyn yn cael eu rhoi ichi.”—Math. 6:33.

Mae plant yn rhoddion gwerthfawr oddi wrth Jehofa i rieni. Mae’n rhaid bod Jehofa wrth ei fodd pan mae cyplau Cristnogol yn cyflawni eu cyfrifoldeb! Yn gariadus, maen nhw’n gofalu am anghenion corfforol, emosiynol, ac ysbrydol eu plant, yn penderfynu faint o blant i’w cael, ac yn rhoi gofynion Duw o flaen eu diwylliant ac arferion lleol. Drwy wneud hyn, mae cyplau Cristnogol yn dangos eu bod nhw’n ystyried eu plant yn rhoddion gwerthfawr—“etifeddiaeth” oddi wrth Jehofa.

a Bydd pob cwpl yn penderfynu faint o blant i’w cael, pryd i’w cael nhw, ac a ddylen nhw ddefnyddio dulliau atal cenhedlu sydd ddim yn erthylu plentyn. Ni ddylai neb eu barnu nhw am eu penderfyniadau personol. (Rhuf. 14:4, 10-13) Yn ogystal, dylai Cristnogion priod gofio’r cyngor yn 1 Corinthiaid 7:3-5.

b Er bod y plant yn yr adnod hon yn cyfeirio at ddisgyblion Cristnogol, mae’n hawdd i rieni uniaethu â sylwadau Ioan.