Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth yw ystyr uno’r ddwy ffon a ddisgrifir yn Eseciel pennod 37?

Rhoddodd Jehofa neges o obaith i Eseciel a oedd yn addo uno cenedl Israel wedi iddi gael ei hadfer i Wlad yr Addewid. Mae’r neges hefyd yn rhagfynegi’r weithred o uno pobl Dduw a ddechreuodd yn ystod y dyddiau diwethaf.

Gofynnodd Jehofa i’w broffwyd Eseciel ysgrifennu ar ddwy ffon. Roedd yn rhaid iddo ysgrifennu ar un ffon: “I Jwda ac i’r Israeliaid sydd mewn cysylltiad ag ef,” ac ar y llall: “Ffon Effraim: i Joseff a holl dŷ Israel sydd mewn cysylltiad ag ef.” Roedd y ddwy ffon i ddod “yn un ffon” yn llaw Eseciel.—Esec. 37:15-17.

Beth mae’r term “Effraim” yn ei gynrychioli? Roedd Jeroboam, brenin cyntaf teyrnas deg llwyth y gogledd, yn dod o  lwyth Effraim, y llwyth cryfaf. (Deut. 33:13, 17; 1 Bren. 11:26) O linach mab Joseff, Effraim, y daeth y llwyth hwn. (Num. 1:32, 33) Roedd Joseff wedi derbyn bendith arbennig gan ei dad Jacob. Priodol, felly, oedd i’r ffon sy’n cynrychioli teyrnas y deg llwyth gael ei galw’n “ffon Effraim.” Erbyn i Eseciel gofnodi’r broffwydoliaeth am y ddwy ffon, roedd teyrnas ogleddol Israel eisoes wedi ei gorchfygu gan yr Asyriaid yn 740 COG. (2 Bren. 17:6) Felly, roedd y rhan fwyaf o’r Israeliaid hynny wedi eu gwasgaru ar hyd a lled Ymerodraeth Babilon, a oedd wedi disodli Ymerodraeth Asyria.

Yn 607 COG, cipiwyd teyrnas dau lwyth y de yn gaethion i Fabilon yn ogystal â’r rhai efallai a oedd yn weddill o deyrnas y gogledd. Roedd y brenhinoedd o linach Jwda wedi teyrnasu dros y ddau lwyth hyn, ac roedd yr offeiriadaeth yn gysylltiedig â nhw oherwydd bod yr offeiriaid wedi gwasanaethu yn y deml yn Jerwsalem. (2 Cron. 11:13, 14; 34:30) Priodol, felly, oedd i deyrnas y ddau lwyth gael ei chynrychioli gan y ffon “i Jwda.”

Pa bryd yr unwyd y ddwy ffon symbolaidd hyn? Pan ddychwelodd yr Israeliaid i Jerwsalem i ailadeiladu’r deml yn 537 COG. Gwnaeth cynrychiolwyr teyrnas y ddau lwyth a theyrnas y deg llwyth ddychwelyd gyda’i gilydd o’r gaethglud. Doedd dim rhaniad bellach rhwng meibion Israel. (Esec. 37:21, 22) Unwaith eto, roedd yr Israeliaid yn unedig yn eu haddoliad i Jehofa. Hefyd, rhagfynegwyd y cymodi hwn gan y proffwydi Eseia a Jeremeia.—Esei. 11:12, 13; Jer. 31:1, 6, 31.

Pa wirionedd pwysig am wir addoliad sy’n cael ei amlygu gan y broffwydoliaeth hon? Y ffaith y bydd Jehofa yn achosi i’w addolwyr ddod yn un yn ei law. (Esec. 37:18, 19) A yw’r addewid hwn am undod wedi dod yn wir yn ein dyddiau ni? Do. Yn y lle cyntaf, dechreuodd y broffwydoliaeth gael ei chyflawni ym 1919, pan gafodd pobl Dduw eu haildrefnu yn raddol, a’u hailuno. Roedd cynlluniau Satan i rannu pobl Dduw am byth wedi eu rhwystro.

Bryd hynny, roedd gan y rhan fwyaf o’r rhai a gafodd eu hailuno y gobaith o ddod yn frenhinoedd ac yn offeiriaid yn y nefoedd gyda Iesu. (Dat. 20:6) Yn symbolaidd, roedden nhw’n debyg i’r ffon ar gyfer Jwda. Fodd bynnag, wrth i amser fynd heibio, dechreuodd mwy a mwy o’r rhai â gobaith daearol ymuno â’r Iddewon ysbrydol hyn. (Sech. 8:23) Roedden nhw’n debyg i’r ffon ar gyfer Joseff, ac nid oedd ganddyn nhw’r gobaith o deyrnasu gyda Christ.

Wedi eu huno, mae’r ddau grŵp heddiw yn gwasanaethu gyda’i gilydd yn bobl i Jehofa o dan un Brenin, Iesu Grist, a elwir “fy ngwas Dafydd” mewn proffwydoliaeth. (Esec. 37:24, 25) Gweddïodd Iesu i’w ddilynwyr “oll fod yn un,” yn union fel y mae’r Tad a’r Mab yn un. * (Ioan 17:20, 21) Rhagfynegodd Iesu y byddai ei braidd bychan o ddilynwyr eneiniog ynghyd â’r defaid eraill yn dod yn “un praidd.” Byddan nhw i gyd yn dod o dan “un bugail.” (Ioan 10:16) Mae geiriau Iesu yn disgrifio undod ysbrydol pobl Jehofa heddiw i’r dim, ni waeth pa obaith sydd ganddyn nhw ar gyfer y dyfodol!

^ Par. 10 Diddorol yw nodi ym mha drefn y gwnaeth Iesu adrodd y damhegion a ddaeth yn rhan o arwydd ei bresenoldeb. Yn gyntaf, cyfeiriodd at y “gwas ffyddlon a chall,” grŵp bach o frodyr eneiniog a fyddai’n rhoi arweiniad. (Math. 24:45-47) Yna fe roddodd ddamhegion a oedd, yn bennaf, yn berthnasol i’r rhai â’r gobaith nefol. (Math. 25:1-30) Yn olaf, siaradodd am y rhai sydd â’r gobaith daearol a fyddai’n cefnogi brodyr Crist. (Math. 25:31-46) Yn yr un modd, mae cyflawniad cyfoes proffwydoliaeth Eseciel yn cyfeirio yn gyntaf at yr hyn a fyddai’n digwydd i’r rhai â’r gobaith nefol. Er nad yw teyrnas y deg llwyth fel arfer yn darlunio’r rhai â’r gobaith daearol, mae’r undod a ddisgrifiwyd yn y broffwydoliaeth yn ein hatgoffa ni o’r undod sy’n bodoli rhwng y rhai â’r gobaith daearol a’r rhai â gobaith nefol.