Imagination World/stock.adobe.com
Neges o Air Duw—Gobaith i Ffoaduriaid!
Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn gorfod ffoi o’u cartrefi. Ai dyna sy’n digwydd i chi? Os felly, does dim angen ichi wynebu’r straen ar eich pen eich hun—mae Duw yn cynnig gobaith am ddyfodol llawer gwell. Gallwch chi ddarllen amdano yn y Beibl.
“Mae ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli a angen mwy na help mewn argyfwng,” meddai Christos Stylianides, a fu’n gomisiynydd i’r Undeb Ewropeaidd. b “Maen nhw angen . . . gobaith ar gyfer y dyfodol hefyd.” Mae gobaith yn rhoi rheswm i bobl aros yn bositif am y dyfodol. Ond er mwyn gwella’n emosiynol mae angen i ffoaduriaid gael cysur hefyd.
“Pan oedd rhaid imi ffoi o’m gwlad a gadael fy nheulu, roedd y gwacter yn fy nghalon yn annioddefol. Roeddwn i’n ofnus, yn drist, ac yn llawn pryderon.”—Emmanuel, Haiti.
Ydych chi’n teimlo fel Emmanuel? Os ydych chi wedi ffoi o’ch cartref, mae angen cysur a gobaith arnoch chi hefyd. Sut mae Gair Duw, y Beibl yn gallu eich helpu chi?
Cysur o Air Duw
Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa c “yn caru’r mewnfudwyr.”—Deuteronomiwm 10:17, 18
Felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae Jehofa Dduw, Awdur y Beibl, yn deall eich sefyllfa ac yn eich caru chi. Mae eich profiadau a’ch teimladau’n bwysig iddo.
Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa: “yn agos at y rhai sy’n galw arno.”—Salm 145:18.
Felly pan fyddwch yn gweddïo, bydd Jehofa yn gwrando. Gall Duw roi tawelwch meddwl ichi. Y mae hefyd wedi rhoi cyngor doeth yn y Beibl i’ch helpu chi i ymdopi.
Mae’r Beibl yn dweud: “Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; . . . dydy’r Un sy’n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder.”—Job 34:10, 12
Felly dydy Duw ddim yn achosi ichi ddioddef. Dydy Duw ddim yn eich cosbi chi, nac yn rhoi prawf arnoch chi drwy wneud bywyd yn anodd.
Gobaith yng Ngair Duw
Mae’r Beibl yn esbonio beth bydd Duw yn ei wneud droston ni yn y dyfodol. Ystyriwch sut mae’r gobaith hwn yn helpu pobl sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.
Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.”—Datguddiad 21:4.
Felly bydd dioddefaint yn dod i ben. Mae Duw yn addo datrys yr holl broblemau sy’n gwneud inni deimlo’n ddigalon heddiw.
“Yn fuan, bydd Duw yn rhoi terfyn ar yr anghyfiawnder a’r pethau drwg sy’n digwydd. Mae’r gobaith hwnnw yn fy helpu i edrych ymlaen at y dydd pan fydd neb yn dioddef.”—Karla, El Salvador.
Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd pethau’r gorffennol wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.
Felly byddwn ni’n rhydd o effaith atgofion annymunol. Bydd Duw yn sicrhau na fydd atgofion profiadau annifyr yn parhau i’ch poeni.
“Mae’r Beibl yn addo na fyddwn ni’n cofio’r boen a’r golled. Mae gwybod y bydd popeth yn newid cyn bo hir yn fy helpu i ymdopi â’n sefyllfa anodd heddiw.”—Natalia, Wcráin.
Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd . . . yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben.”—Daniel 2:44.
Felly bydd llywodraeth nefol berffaith yn rheoli dros y ddaear. Yn fuan, mae Duw yn mynd i gael gwared ar yr holl lywodraethau dynol a gosod ei lywodraeth nefol ei hun yn eu lle. Bydd y llywodraeth hon yn creu gwir heddwch a diogelwch a dod â chyfiawnder a llewyrch i bawb.—Micha 4:3, 4.
“Dw i’n cael nerth o wybod na fydd problemau fel gorthrwm, gwahaniaethu, drwgdybiaeth, a hiliaeth yn para am byth. Yn fuan, bydd Teyrnas Jehofa yn dod â’r holl bethau hyn i ben.”—Mustafa, Dwyrain Canol.
Gall neges obeithiol y Beibl roi cysur ichi
Doethineb yng Ngair Duw
Mae’r doethineb ymarferol yn y Beibl yn gallu eich helpu chi wrth ichi ddygymod â’r hyn sydd wedi digwydd ichi. Y mae hefyd yn gallu eich helpu chi i ddelio â’r newid yn eich amgylchiadau, gan gynnwys colli pethau materol. Sylwch ar y ffordd mae’r egwyddorion canlynol yn helpu ffoaduriaid:
Mae’r Beibl yn dweud: “Hyd yn oed os oes gan rywun ddigonedd, dydy’r pethau sydd ganddo ddim yn rhoi bywyd iddo.”—Luc 12:15.
Sut gall y geiriau doeth hyn eich helpu chi? Mae’n debyg bod yr hyn a ddigwyddodd wedi bod yn sioc ofnadwy, a’ch bod chi’n teimlo’r golled i’r byw. Ond os ydych chi’n aros ac ystyried gwerth eich bywyd, efallai bydd hynny yn eich helpu chi i weld unrhyw golled yn ei wir oleuni.
“Mae bywyd yn bwysicach na phethau materol. Mae ’na rai sefyllfaoedd lle mae meddiannau ac arian yn dda i ddim.”—Natalia, Wcráin.
Mae’r Beibl yn dweud: “Paid gofyn, ‘Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?’”—Pregethwr 7:10.
Sut gall y geiriau doeth hyn eich helpu chi? Mae’n debyg bod eich sefyllfa bresennol yn heriol, ond os ydych chi’n osgoi ei chymharu â’ch amgylchiadau gynt bydd hynny yn eich helpu chi i beidio â theimlo’n chwerw.
“Drwy dderbyn fy sefyllfa bresennol fel y mae, dw i’n gallu cadw agwedd bositif.”—Eli, Rwanda.
Mae’r Beibl yn dweud: “Gan fod gynnon ni fwyd a dillad, byddwn ni’n fodlon ar y pethau hyn.”—1 Timotheus 6:8.
Sut gall y geiriau doeth hyn eich helpu chi? Ceisiwch fod yn fodlon ar y pethau angenrheidiol. Yna byddwch yn teimlo llai o straen, a bydd hynny yn tawelu eich meddyliau.
“Mae’r Beibl yn fy helpu i edrych ar bethau mewn ffordd wahanol, ac i beidio â meddwl drwy’r amser am y pethau rydyn ni wedi eu colli. Mae fy ngwraig a minnau’n hapus i fod yn fyw, ac i fod mewn lle diogel.”—Ivan, Wcráin.
Mae’r Beibl yn dweud: “Popeth, felly, rydych chi eisiau i ddynion ei wneud i chi, mae’n rhaid i chithau hefyd ei wneud iddyn nhw.”—Mathew 7:12.
Sut gall y geiriau doeth hyn eich helpu chi? Mae’n debyg y byddwch chi’n dod ymlaen yn well gyda phobl eraill os ydych chi’n gwneud eich gorau i fod yn amyneddgar ac yn garedig. Bydd hyn hefyd yn eich helpu chi i chwalu rhagfarn a chael eich derbyn yn y gymuned leol.
“Mae pobl yn hoffi cael eu trin gyda pharch, caredigrwydd, a chariad. Mae’n creu perthynas dda rhyngoch chi â’r bobl leol.”—Angelo, Sri Lanka.
Mae’r Beibl yn dweud: “Rhowch wybod i Dduw am y pethau rydych chi’n eu ceisio; a bydd heddwch Duw . . . yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.”—Philipiaid 4:6, 7.
Sut gall y geiriau doeth hyn eich helpu chi? Gweddïwch ar Dduw am eich teimladau, eich anghenion a’ch pryderon. Mae gweddïo’n gallu lleddfu pryder a’ch helpu chi i beidio â chael eich llethu gan yr amgylchiadau.
“Dw i’n gweddïo pan fydda i’n wynebu problemau, ac mae Duw yn fy ateb. Mae’r hyn dw i wedi ei ddysgu yn y Beibl wedi rhoi tawelwch meddwl go iawn imi.”—Yol, De Sudan.
“Mae’r cyngor da yn y Beibl yn rhoi imi yr heddwch meddwl sydd ei angen er mwyn ymdopi â’r sefyllfa anodd hon.”—Valentina, Wcráin.
“Mae gwybod bod Jehofa Dduw yn addo bywyd gwell yn rhoi nerth imi.”—Emmanuel, Haiti
Hoffech chi wybod mwy am y cysur a’r gobaith mae’r Beibl yn eu cynnig, a’r rhesymau y gallwch chi gredu’r addewidion hyn? Gofynnwch i Dystion Jehofa alw draw. Byddan nhw’n hapus i’ch helpu, a hynny am ddim.
a Mae Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid yn cyfrif pobl sydd wedi’u dadleoli o fewn eu gwlad eu hunain yn ogystal ag ar draws ffiniau rhyngwladol i fod yn ffoaduriaid, er efallai na fyddan nhw yn cael eu hystyried yn ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches o safbwynt cyfreithiol.
b Comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd Dros Gymorth Dyngarol a Rheoli Argyfwng.
c Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?”

