CÂN 130
Byddwch Faddeugar
1. Duw, o’i gariad, drefnodd,
Drwy farwolaeth Iesu Grist,
Inni dderbyn nawr faddeuant,
A chael byw hyd byth ryw ddydd.
Gyda chalon edifeiriol,
Ar sail pridwerth Crist ei Fab,
Erfyn rhaid am Ei faddeuant—
Ac o’n dyled cawn ryddhad.
2. Derbyn wnawn faddeuant
Pan faddeuwn ninnau’n hael.
Efelychu wnawn Jehofa
Wrth roi cariad ar y blaen.
Yn oddefgar a thrugarog
Rhown deimladau cas ymaith,
Cydymdeimlo wnawn â’n brodyr—
Hwn yw cariad pur ar waith.
3. Meithrin rhaid dosturi,
Mae’n ein cadw rhag dal dig,
Mae’n lleihau teimladau chwerwon,
Mae’n dwysáu tiriondeb pur.
Rhown ein bryd ar efelychu
Cariad tra rhagorol Duw,
A bydd bod yn wir faddeugar
Yn dod inni’n rhan o’n byw.
(Gweler hefyd Math. 6:12; Eff. 4:32; Col. 3:13.)