Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

JW BROADCASTING

Newid Eich Gosodiadau ar Gyfrifiadur, Tabled, neu Ffôn Clyfar

Newid Eich Gosodiadau ar Gyfrifiadur, Tabled, neu Ffôn Clyfar

Mae’r sgrin Gosodiadau yn caniatáu ichi deilwra tv.jw.org i’ch defnydd personol.

Cliciwch neu pwyswch yr eicon Gosodiadau. Dilynwch y camau isod i ddiweddaru eich gosodiadau:

Sylwch: Dim ond y porwr rhyngrwyd neu ddyfais symudol rydych yn sefydlu’r gosodiadau arnyn nhw sy’n cael eu heffeithio. Os ydych yn clirio storfa’r porwr, mae’n bosibl bydd y gosodiadau yn mynd yn ôl i’w gwerthoedd diofyn.

 Dewis y Cydraniad Fideo Sy’n Well Gennych

  • Cliciwch neu pwyswch y botwm gyda’r cydraniad fideo sy’n well gennych.

  • Cliciwch neu pwyswch Cadw i gadw eich gosodiadau.

Beth mae’r rhifau hyn yn eu golygu? Mae’r rhifau yn y rhestr hon yn cyfeirio at uchder ffrâm y fideo. Mae rhif uwch yn cyfeirio at gydraniad fideo uwch, sydd yn gofyn am gysylltiad cyflymach i’r rhyngrwyd.

Mae’r tabl canlynol yn esbonio’r gwahanol gydraniadau:

Cydraniad

Disgrifiad

240p

Safon isaf. Mae’n gweithio’n dda ar sgriniau dyfeisiau symudol.

360p

Safon isel. Mae’n gweithio’n dda ar sgriniau dyfeisiau symudol.

480p

Manylder safonol. Mae’n gweithio’n dda ar dabledi, sgriniau cyfrifiaduron, a sgriniau teledu manylder safonol.

720p

Manylder uchel (HD). Mae’n gweithio’n dda ar sgrin cyfrifiadur gyda chydraniad sgrin o leiaf 1024x768, neu ar HDTV gyda chydraniad o leiaf 1280x720.

1080p

Safon uchaf (HD). Mae’n gweithio’n dda ar sgrin cyfrifiadur gyda chydraniad fertigol o leiaf 1080 picsel, neu HDTV gyda chydraniad 1920x1080.

Pam newid cydraniad y fideo? Os mae’ch rhyngrwyd yn araf, ac wrth chwarae’r fideo mae’n rhewi neu braidd yn herciog, gall fod yn well ichi ddefnyddio cydraniad fideo is. Gosodwch y cydraniad i’r rhif uchaf sy’n gweithio’n dda ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Fe allwch chi ddewis gosodiad is os ydych am arbed arian ar ddata rhyngrwyd.

Sut mae’r gosodiad hwn yn cael ei ddefnyddio? Ni fydd TV.JW.ORG yn ceisio ffrydio i’ch cyfrifiadur neu ddyfais gyda chydraniad uwch na’r un a benodwch yma. (Gweler Gwylio Cynnwys Wedi ei Ffrydio ar TV.JW.ORG)

Os ydych yn dewis y gosodiad Automatic, bydd tv.jw.org yn dewis y cydraniad fideo gorau wedi seilio ar faint sgrin eich cyfrifiadur neu ddyfais.

 Galluogi neu Analluogi Isdeitlau Fideo

Gall rhai o’r rhaglenni fideo gael eu chwarae gydag isdeitlau. Mae’r isdeitlau hyn yn yr un iaith â’r trac sain ar gyfer y fideo.

  • Os hoffech chi weld yr isdeitlau, ticiwch y blwch Display Subtitles When Available.

  • Dad-diciwch y blwch i ddiffodd yr isdeitlau.

  • Cliciwch neu pwyswch Cadw i gadw eich gosodiadau.

Sylwch: Mae’r gosodiad hwn yn gymwys i bob fideo ag isdeitlau, p’un a ydych yn eu gwylio yn y rhannau Streaming neu Video on Demand.

 Dewis y Sianel Ffrydio Sy’n Well Gennych

Yn ôl ei rhagosodiad, bydd y system yn cofio’r sianel ffrydio a weloch ac yn eich cymryd i’r un sianel y tro nesaf y dewiswch Streaming.

Sut bynnag, efallai yr hoffech sianel benodol i ddangos pan ddewiswch Streaming ar eich dyfais. Er enghraifft, os ydych yn rhiant, efallai y dymunwch i dabled sy’n cael ei defnyddio gan eich plant ifanc fynd yn syth i’r sianel Children.

  • I ddechrau gyda’r un sianel Streaming bob amser, ewch i Settings a dewiswch enw’r sianel.

  • I fynd yn ôl i’r gosodiad diofyn, dewiswch Start with my last selected channel.

  • Cliciwch neu pwyswch Cadw i gadw eich gosodiadau.