Cymraeg
A Ddylen Ni Fyw Gyda’n Gilydd Cyn Priodi?
https://cms-imgp.jw-cdn.org/img/p/500300124/univ/art/500300124_univ_sqr_xl.jpg
ijwhf erthygl 34

HELP AR GYFER Y TEULU | PRIODAS

A Ddylen Ni Fyw Gyda’n Gilydd Cyn Priodi?

A Ddylen Ni Fyw Gyda’n Gilydd Cyn Priodi?

 Mae llawer o gyplau yn byw gyda’i gilydd cyn priodi. Mae rhai yn teimlo y bydd hyn yn dangos a ydyn nhw’n gallu byw yn gytûn, ac yn gobeithio y bydd ganddyn nhw well siawns o gael priodas hapus. Ydy hi’n syniad da felly i fyw gyda’ch gilydd cyn priodi?

Yn yr erthygl hon

 Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

  •   Yn ôl y Beibl, mae cael rhyw cyn priodi’n anghywir. Er enghraifft, mae’n dweud bod angen inni “wrthod anfoesoldeb rhywiol.” (1 Thesaloniaid 4:3; 1 Corinthiaid 6:18) Mae hynny yn cynnwys perthynas rywiol rhwng pobl sy’n cyd-fyw, hyd yn oed os ydyn nhw’n bwriadu priodi yn nes ymlaen. a Mae safonau’r Beibl yn helpu pobl i osgoi’r problemau sy’n codi pan fydd pobl yn cyd-fyw, fel, er enghraifft, beichiogi cyn priodi.

  •   Duw sydd wedi creu priodas. Pan sefydlodd y briodas gyntaf, dywedodd Duw: “Bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a byddan nhw’n dod yn un cnawd.” (Genesis 2:24) Y sylfaen orau ar gyfer teulu hapus a sefydlog ydy ymrwymiad mewn priodas.

 A fyddwch chi’n fwy parod ar gyfer priodas os ydych chi’n byw gyda’ch gilydd yn gyntaf?

 Mae rhai’n meddwl bod hyn yn wir. Maen nhw’n teimlo bod cwpl yn dysgu llawer drwy edrych ar ôl y tŷ, a gweld ymddygiad eu partner. Ond un o’r pethau sy’n hanfodol mewn priodas hapus ydy ymrwymiad.

 Sut gall cwpl ddysgu glynu wrth ei gilydd drwy amserau da a drwg? Nid drwy gytuno i gael “cyfnod prawf” lle mae’r partneriaid yn gallu troi cefn ar y berthynas ar unrhyw adeg. Yn hytrach, bydd y berthynas yn llwyddo pan fydd y ddau’n ymrwymo i’w gilydd ac i’r gwaith sydd ei angen i oresgyn problemau.

 Y gwir yw: Mae’n bosib y bydd cwpl sy’n byw gyda’i gilydd heb briodi yn paratoi, nid ar gyfer priodi ond ar gyfer gwahanu.

 Egwyddor o’r Beibl: “Beth bynnag mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.”—Galatiaid 6:7.

 A fydd byw gyda’ch gilydd yn arbed arian?

 Mae rhai’n meddwl y bydd. Yn ôl arolwg gan y Pew Research Center yn yr Unol Daleithiau, o bob deg oedolyn a oedd yn byw gyda’u partneriaid, mae tua phedwar yn dweud mai arian oedd y rheswm. Sut bynnag, ar ôl cyd-fyw am gyfnod, dywedodd llawer mai problemau ariannol oedd yn eu rhwystro rhag priodi.

 Mae canlyniadau eraill hefyd i bobl sy’n cyd-fyw, yn enwedig i fenywod. Er enghraifft, pan fydd perthynas yn dod i ben, menywod sy’n fwy tebygol o gael y cyfrifoldeb o fagu’r plant.

 Y gwir yw: Gall yr anfanteision sy’n dod o fyw gyda’i gilydd cyn priodi fod yn fwy o lawer nag unrhyw fanteision honedig.

 Egwyddor o’r Beibl: “Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les.”—Eseia 48:17.

 A fydd byw gyda’ch gilydd yn eich helpu chi i osgoi priodi’r person anghywir?

 Mae rhai’n credu y bydd. Ond mae’r llyfr Fighting for Your Marriage yn dweud: “Yn aml, mae pobl sy’n cyd-fyw cyn priodi yn methu sylweddoli ei bod hi’n anoddach gwahanu pan fyddwch chi’n byw gyda’ch gilydd.” Pam? Mae rhai cyplau’n gwybod nad ydyn nhw’n tynnu ymlaen. Ond oherwydd eu bod nhw’n rhentu tŷ, yn berchen ar anifail anwes, neu’n disgwyl babi, maen nhw’n tueddu i beidio â gwneud dim i newid y sefyllfa. b Mae Fighting for Your Marriage yn esbonio bod “rhai pobl a fyddai wedi gwahanu cyn priodi yn mynd ymlaen i briodi oherwydd dyna oedd y peth hawsaf i’w wneud.”

 Y gwir yw: Yn lle eich helpu chi i wneud penderfyniad da, mae byw gyda’ch gilydd yn gallu ei gwneud hi’n fwy anodd rhoi terfyn ar berthynas ddrwg.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.”—Diarhebion 22:3.

 A oes ffordd well?

 Fe allwch chi osgoi’r problemau sy’n dod o fyw gyda’ch gilydd cyn priodi, a gwella’r siawns o gael priodas lwyddiannus. Sut? Drwy gadw at safonau’r Beibl ar gyfer priodas. Cymerwch ddigon o amser i ddod i adnabod y person rydych chi’n ei ganlyn cyn ichi ddechrau byw gyda’ch gilydd fel gŵr a gwraig. Mae’n well dewis rhywun i’w briodi ar sail y gwerthoedd a’r daliadau rydych chi’n eu rhannu, sydd yn llawer mwy pwysig nag atyniad rhywiol.

 Mae’r Beibl yn llawn cyngor a fydd yn eich helpu chi i gael priodas hapus a sefydlog. c Er enghraifft, mae’n cynnwys egwyddorion a fydd yn eich helpu chi . . .

 I ddysgu mwy am y pynciau hyn, gweler yr adran “Priodas a’r Teulu” ar jw.org.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r holl Ysgrythurau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol ar gyfer dysgu”—2 Timotheus 3:16.

b O’r erthygl “Sliding Versus Deciding: Inertia and the Premarital Cohabitation Effect,” gan Scott M. Stanley, Galena Kline Rhoades, a Howard J. Markman, wedi ei chyhoeddi yn y cylchgrawn Family Relations.

c Mewn rhai diwylliannau, mae’n gyffredin i’r rhieni ddylanwadu’n gryf ar y dewis o gymar ar gyfer eu mab neu ferch. Os felly, mae’r Beibl yn gallu helpu rhieni i wybod pa rinweddau sy’n bwysig.