Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

EFELYCHU EU FFYDD | JONATHAN

Ni All Dim Rwystro Jehofa

Dychmygwch wylfa filwrol unig yn edrych dros dirwedd sych a chreigiog. Mae milwyr y Philistiaid ar ddyletswydd yno wedi hen ddiflasu ar yr olygfa undonog. Ond yn sydyn dyma rywbeth yn dal eu sylw: Dau Israeliad yn sefyll yn gwbl amlwg ar ochr arall y ceunant. Mae’r milwyr yn gwenu—nid oes dim byd i’w poeni nhw yno. Mae’r Philistiaid wedi bod yn feistri ar yr Israeliaid ers tro. Yn wir, ni allai’r Israeliaid hyd yn oed hogi eu hoffer ffermio heb droi at eu gelynion am help. Nid oedd arfau’r Israeliaid yn dda iawn. A dau ddyn—dyna i gyd! Hyd yn oed pe baen nhw’n filwyr arfog, beth fydden nhw’n gallu ei wneud? Yn wawdlyd, dyma’r Philistiaid yn gweiddi: “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!”​—1 Samuel 13:19-​23; 14:11, 12.

Yn sicr, fe oedd rhywun ar fin dysgu gwers, ond nid y ddau ddyn o Israel. Rhedodd y ddau Israeliad i lawr y ceunant a chroesi i’r ochr arall a dechrau dringo. Roedd y ffordd mor serth, nes eu bod nhw’n gorfod mynd ar eu pedwar mewn mannau, ond ymlaen â nhw dros y cerrig yn anelu’n syth am yr wylfa! (1 Samuel 14:13) Roedd y Philistiaid yn medru gweld nawr bod arfau gan y dyn ar y blaen, a’i gludydd arfau yn ei ddilyn. Doedd bosib bod y dyn hwn a’i was yn mynd i ymosod ar fintai gyfan! A oedd y dyn o’i gof?

Nac oedd, dyn llawn ffydd oedd hwn. Ei enw oedd Jonathan, ac mae ei hanes byrlymus yn llawn gwersi i Gristnogion heddiw. Nid ydyn ni’n cymryd rhan mewn rhyfeloedd y byd, ond o edrych ar esiampl Jonathan, gallwn ddysgu llawer am y dewrder, y ffyddlondeb, a’r anhunanoldeb sydd ei angen er mwyn adeiladu ffydd go iawn.​—Eseia 2:4; Mathew 26:51, 52.

Yn Fab Ffyddlon ac yn Filwr Dewr

Er mwyn deall pam ymosododd Jonathan ar yr wylfa honno, mae angen inni edrych ar ei gefndir. Mab hynaf Saul, brenin cyntaf Israel, oedd Jonathan. Pan gafodd Saul ei eneinio’n frenin, roedd Jonathan eisoes yn oedolyn, o leiaf 20 oed. Ymddengys fod Jonathan yn agos at ei dad, ac roedd ei dad yn ymddiried ynddo. Yn y dyddiau cynnar, roedd Jonathan yn gweld ei dad yn ddyn tal, golygus, ac yn filwr dewr. Ond yn bwysicach o lawer, roedd yn ddyn ffyddlon a gostyngedig. Roedd Jonathan yn gallu gweld pam roedd Jehofa wedi dewis Saul yn frenin. Dywedodd hyd yn oed y proffwyd Samuel nad oedd neb tebyg i Saul yn Israel gyfan!​—1 Samuel 9:​1, 2, 21; 10:20-​24; 20:2.

Rhaid bod Jonathan yn teimlo mai braint oedd ymladd wrth ochr ei dad yn erbyn gelynion pobl Jehofa. Nid oedd y rhyfeloedd hynny yr un fath â gwrthdaro’r cenhedloedd heddiw. Bryd hynny, roedd Jehofa wedi dewis cenedl Israel i’w gynrychioli, ac roedd y cenhedloedd o’i chwmpas, a oedd yn addoli gau dduwiau, yn ymosod yn ddi-baid. Wedi eu llygru drwy addoli duwiau fel Dagon, roedd y Philistiaid yn ceisio gormesu neu hyd yn oed dinistrio pobl Jehofa.

Felly, i ddynion fel Jonathan, roedd ymladd yn rhan o’u gwasanaeth ffyddlon i Jehofa. Ac fe wnaeth Jehofa fendithio ei ymdrechion. Yn fuan ar ôl i Saul ddod yn frenin, penododd ei fab yn gadfridog dros fil o filwyr, ac o dan arweiniad Jonathan ymosodon nhw ar wersyll y Philistiaid yn Geba. Er gwaethaf diffyg arfau da, ennill y dydd a wnaeth Jonathan gyda help Jehofa. Ond ateb y Philistiaid oedd casglu byddin fawr ynghyd. Roedd milwyr Saul wedi dychryn. Rhedodd rhai i ffwrdd a chuddio, a gwnaeth rhai hyd yn oed ymuno â’r gelyn! Ond ni wnaeth dewrder Jonathan bylu.​—1 Samuel 13:​2-7; 14:21.

Ar y diwrnod a ddisgrifiwyd ar y dechrau, penderfynodd Jonathan adael yn ddistaw bach a’i was yn unig wrth ei ochr. Wrth iddyn nhw agosáu at wylfa’r Philistiaid ym Michmas, datgelodd Jonathan ei gynllun i’w was. Roedden nhw am ddangos eu hunain yn glir i’r milwyr. Pe bai’r Philistiaid yn eu herio i ddod i fyny ac ymladd, fe fyddai hynny yn arwydd bod Jehofa yn mynd i helpu ei weision. Cytunodd gwas Jonathan yn syth, efallai ar ôl clywed geiriau cadarn Jonathan: “Bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae’r un mor hawdd iddo fe achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.” (1 Samuel 14:​6-​10) Beth oedd hyn yn ei olygu?

Yn amlwg roedd Jonathan yn adnabod ei Dduw. Fe wyddai fod Jehofa wedi helpu ei bobl yn y gorffennol i drechu gelynion llawer mwy niferus. Ar adegau, roedd hyd yn oed wedi defnyddio unigolion i ennill y dydd. (Barnwyr 3:​31; 4:​1-​23; 16:23-​30) Roedd Jonathan yn gwybod nad y niferoedd, na’r grym, na’r arfau oedd y peth pwysicaf i bobl Dduw; y peth pwysicaf oedd eu ffydd. Mewn ffydd, gadawodd Jonathan i Jehofa benderfynu a ddylai ef a’i was ymosod ar y wylfa. Dewisodd arwydd a fyddai’n dangos sêl bendith Jehofa ar y cynllun. Wedi cael bendith Jehofa, aeth Jonathan yn ei flaen yn ddewr.

Sylwch ar ddwy agwedd ar ffydd Jonathan. Yn gyntaf, roedd ganddo’r parch mwyaf at Jehofa, ei Dduw. Fe wyddai nad yw’r Hollalluog yn dibynnu ar nerth dynol i gyflawni ei bwrpas, ond eto mae Jehofa wrth ei fodd yn bendithio pobl ffyddlon. (2 Cronicl 16:9) Yn ail, roedd Jonathan yn ceisio sicrhau bod cefnogaeth Jehofa ganddo cyn iddo weithredu. Heddiw, nid ydyn ni’n ceisio arwyddion gwyrthiol gan Dduw i ddangos ei fod yn cefnogi ein penderfyniadau. Mae’r Beibl cyfan, Gair ysbrydoledig Duw, ar gael bellach, felly mae gennyn ni bopeth sydd ei angen er mwyn canfod ewyllys Duw. (2 Timotheus 3:​16, 17) A ydyn ni’n ystyried beth sydd yn y Beibl yn ofalus cyn gwneud penderfyniadau pwysig? Os felly, fel Jonathan, rydyn ni’n dangos bod ewyllys Duw yn bwysicach na’n hewyllys ni.

Rhuthrodd Jonathan a’i was i fyny’r llechwedd serth tuag at yr wylfa. Unwaith i’r Philistiaid sylweddoli eu bod nhw o dan ymosodiad, anfonon nhw ddynion allan i ymladd yn erbyn y ddau dresmaswr. Nid yn unig oedd gan y Philistiaid fantais o ran niferoedd, ond hefyd mantais o ran dal y tir uwch. Dylen nhw fod wedi medru cael gwared ar y ddau ymosodwr yn hawdd. Ond roedd Jonathan yn taro un milwr ar ôl y llall i lawr, tra bod ei was yn ei ddilyn a’u lladd. Mewn dim o dro, roedd y ddau ddyn wedi lladd 20 o filwyr y gelyn! A dyma Jehofa yn gwneud rhywbeth ychwanegol. Darllenwn: “Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid. Roedden nhw’n panicio yn y gwersyll ac allan ar y maes​—y fintai i gyd a’r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi’r panig yma.”​—1 Samuel 14:15.

Ymosododd Jonathan a’i was ar fintai gyfan o filwyr arfog

Gwyliodd Saul a’i ddynion o bell wrth i banic llwyr ledaenu ymhlith y Philistiaid, a oedd hyd yn oed wedi dechrau troi yn erbyn ei gilydd! (1 Samuel 14:16, 20) Magodd yr Israeliaid hyder i ymosod, gan efallai gymryd arfau oddi ar gyrff y Philistiaid. Rhoddodd Jehofa y fuddugoliaeth i’w bobl y diwrnod hwnnw. Nid yw Jehofa wedi newid. Os ydyn ninnau heddiw yn rhoi ffydd ynddo, fel y gwnaeth Jonathan a’i was di-enw, ni fyddwn ni byth yn difaru.​—Malachi 3:6; Rhufeiniaid 10:11.

Yn Cydweithio Gyda Duw

Nid oedd y fuddugoliaeth honno mor llwyddiannus i Saul ag yr oedd i Jonathan. Roedd Saul wedi gwneud camgymeriadau difrifol. Aeth yn groes i orchymyn Duw drwy’r proffwyd Samuel, gan gynnig offrwm y dylai’r proffwyd, a oedd yn Lefiad, fod wedi ei offrymu. Pan gyrhaeddodd Samuel, dywedodd wrth Saul ni fyddai ei deyrnas yn para oherwydd ei anufudd-dod. Yna, cyn mynd i’r frwydr, gwnaeth Saul i’w ddynion dyngu llw annoeth: “Melltith ar unrhyw un fydd yn bwyta unrhyw beth cyn iddi nosi​—cyn i mi ddial ar fy ngelynion.”​—1 Samuel 13:10-​14; 14:24.

Mae geiriau Saul yn awgrymu ei fod yn newid, ond nid er gwell. A oedd y dyn gostyngedig ac ysbrydol hwn yn troi’n fi fawr? Wedi’r cwbl, nid oedd Jehofa wedi mynnu bod y milwyr dewr yn gweithio o dan y fath amodau afresymol. A beth am eiriau Saul “cyn i mi ddial ar fy ngelynion”​—oes awgrym yma fod Saul yn meddwl mai ei gyfraniad ef oedd y peth pwysicaf yn y rhyfel hwn? A oedd wedi anghofio nad ei awydd ei hun am ddial, clod neu fuddugoliaeth oedd y peth pwysicaf, ond cyfiawnder Jehofa?

Ni wyddai Jonathan ddim am lw byrbwyll ei dad. Wedi blino’n lân ar ôl y frwydr, estynnodd ei ffon i’r diliau mêl a oedd ar y llawr a’u blasu. Cafodd ei nerth yn ôl ar unwaith. Yna, dywedodd un o’i ddynion wrtho am lw ei dad ynglŷn â pheidio â bwyta. Atebodd Jonathan: “Mae dad wedi gwneud pethau’n anodd i bawb. Edrychwch gymaint gwell dw i’n teimlo ar ôl blasu’r mymryn bach yna o fêl! Petai’r dynion wedi cael bwyta’r bwyd adawodd y gelynion heddiw, bydden ni wedi lladd llawer mwy o’r Philistiaid!” (1 Samuel 14:25-30) Roedd Jonathan yn gywir. Roedd yn fab ffyddlon, ond nid oedd ei ffyddlondeb yn ei ddallu. Nid oedd yn cytuno’n ddifeddwl â phopeth roedd ei dad yn ei ddweud, neu’n ei wneud, ac roedd yr agwedd gytbwys honno yn ennyn parch pobl eraill.

Pan glywodd Saul fod Jonathan wedi torri’r llw, roedd yn dal i wrthod derbyn ffolineb ei orchymyn. Yn wir, fe ddywedodd y dylid lladd ei fab ei hun! Ni wnaeth Jonathan ddadlau nac ymbil am drugaredd. Sylwch ar ei ymateb hynod o anhunanol: “Dyma fi, rwy’n barod i farw.” Ond, dywedodd yr Israeliaid: “A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i’r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn.” Beth oedd y canlyniad? Ildiodd Saul i reswm. Mae’r hanes yn dweud: “Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw.”​—1 Samuel 14:43-​45, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

“Dyma fi, rwy’n barod i farw”

Roedd dewrder Jonathan, ei waith caled, a’i natur anhunanol, wedi creu enw da iddo. Felly pan oedd ei fywyd mewn perygl, ei enw da a’i hachubodd. Peth da yw ystyried sut enw rydyn ninnau’n ei greu o ddydd i ddydd. Mae’r Beibl yn dweud bod enw da yn werthfawr iawn. (Pregethwr 7:1) Os ydyn ni, fel Jonathan, yn gwneud enw da o flaen Jehofa, bydd hynny yn drysor gwerthfawr.

Tywyllwch yn Tyfu

Er gwaethaf gwendidau Saul, parhaodd Jonathan i ymladd wrth ochr ei dad ar hyd y blynyddoedd. Ni allwn ond dychmygu ei siom wrth weld ei dad yn troi’n ddyn anufudd a balch. Roedd tywyllwch yn tyfu y tu mewn i’w dad, ac nid oedd Jonathan yn gallu gwneud dim i’w rwystro.

Aeth y broblem i’r pen pan anfonodd Jehofa Saul i frwydro yn erbyn yr Amaleciaid. Roedd y bobl hyn wedi ymgolli cymaint yn eu drygioni nes bod Jehofa, yn amser Moses, wedi dweud y câi’r genedl gyfan ei dinistrio. (Exodus 17:14) Cafodd Saul orchymyn i ladd eu hanifeiliaid i gyd ac i ddienyddio eu brenin, Agag. Enillodd Saul y frwydr, gyda Jonathan, yn ddiau, yn ymladd yn ddewr o dan arweiniad ei dad. Ond wedyn aeth Saul yn gwbl groes i orchymyn Jehofa, gan arbed bywyd Agag a chadw’r holl gyfoeth a’r anifeiliaid. Cyhoeddodd Samuel farn Jehofa ar Saul: “Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD mae e wedi dy wrthod di fel brenin.”​—1 Samuel 15:​2, 3, 9, 10, 23.

Wedi hynny, tynnodd Jehofa ei ysbryd glân oddi ar Saul. Heb ddylanwad cariadus Jehofa, roedd Saul yn dioddef hwyliau drwg, pyliau o ddicter ac ofn llethol. Roedd fel pe bai ysbryd drwg oddi wrth Dduw wedi disodli’r un da. (1 Samuel 16:14; 18:10-​12) Am ergyd i Jonathan o weld ei dad, a fu gynt mor anrhydeddus, yn newid gymaint! Er gwaethaf hynny, ni wnaeth Jonathan byth wyro oddi wrth ei wasanaeth ffyddlon i Jehofa. Roedd yn cefnogi ei dad y gorau y gallai, hyd yn oed yn siarad yn blwmp ac yn blaen gydag ef ar adegau, ond hoeliodd ei sylw ar ei Dad nefol, a’i Dduw digyfnewid, Jehofa.​—1 Samuel 19:​4, 5.

A ydych chi erioed wedi gweld anwylyd, efallai perthynas agos, yn newid yn llwyr am y gwaethaf? Gall fod yn brofiad poenus iawn. Mae esiampl Jonathan yn dwyn i gof eiriau’r Salmydd: “Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i, byddai’r ARGLWYDD yn gofalu amdana i.” (Salm 27:10) Mae Jehofa yn ffyddlon. Ef yw’r Tad gorau oll, ac fe fydd yn gofalu amdanoch chithau hefyd, ni waeth sut bydd pobl amherffaith yn eich siomi.

Mae’n debyg bod Jonathan wedi clywed bod Jehofa am dynnu’r frenhiniaeth oddi wrth Saul. Beth oedd ymateb Jonathan? A oedd yn ystyried sut frenin y byddai ef, o gael y cyfle? A oedd yn gobeithio unioni camweddau ei dad a gosod esiampl well fel brenin ffyddlon ac ufudd? Nid ydyn ni’n gwybod ei feddyliau, ond rydyn ni yn gwybod na fyddai unrhyw obeithion o’r fath yn cael eu gwireddu. A ydy hyn yn golygu bod Jehofa wedi cefnu ar y dyn ffyddlon hwnnw? I’r gwrthwyneb, fe ddefnyddiodd Jonathan i osod un o’r esiamplau gorau o gyfeillgarwch yn y Beibl cyfan! Y cyfeillgarwch hwnnw fydd yn cael sylw manwl mewn erthygl arall am Jonathan.