Neidio i'r cynnwys

A Wnaeth Duw Ddefnyddio Esblygiad i Greu’r Gwahanol Fathau o Fywyd?

A Wnaeth Duw Ddefnyddio Esblygiad i Greu’r Gwahanol Fathau o Fywyd?

Ateb y Beibl

 Naddo. Dywed y Beibl yn eglur fod Duw wedi creu bodau dynol yn ogystal â phob “math” o anifeiliaid a phlanhigion. a (Genesis 1:12, 21, 25, 27; Datguddiad 4:11) Dywed fod y teulu dynol i gyd yn ddisgynyddion i Adda ac Efa, ein rhieni cyntaf. (Genesis 3:20; 4:1) Nid yw’r Beibl yn cefnogi’r syniad bod Duw wedi creu’r gwahanol fathau o fywyd drwy broses esblygiad, damcaniaeth a elwir weithiau yn esblygiad theistaidd. Y gwir yw, nid oes dim yn y Beibl sy’n anghytuno â gwyddonwyr sy’n dweud bod amrywiaethau i’w gweld o fewn y mathau gwahanol o fywyd. b

 A wnaeth Duw ddefnyddio esblygiad?

 Mae’r term “esblygiad theistaidd” yn cwmpasu amrywiaeth eang o syniadau. Yn ôl yr Encyclopædia Britannica, mae’r term yn hyrwyddo’r syniad “mai dethol naturiol yw un o’r prosesau y mae Duw’n eu defnyddio i reoli byd natur.”

 Mae esblygiad theistaidd yn gallu cynnwys y syniadau canlynol:

  •   Bod tarddiad cyffredin i bob organeb byw yn y gorffennol pell.

  •   Bod un math o fywyd yn gallu esblygu yn fath hollol wahanol. Macro-esblygiad yw’r term a ddefnyddir weithiau i gyfeirio at y cysyniad hwn.

  •   Bod Duw rywsut yn gyfrifol yn y pen draw am y prosesau hyn.

 A yw esblygiad yn cyd-fynd â’r Beibl?

 Mae esblygiad theistaidd yn awgrymu nad yw hanes y creu yn y Beibl yn hollol gywir. Sut bynnag, cyfeiriodd Iesu at yr hanes yn Genesis fel ffaith. (Genesis 1:26, 27; 2:18-24; Mathew 19:4-6) Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu yn byw yn y nefoedd gyda Duw cyn iddo ddod i’r ddaear, a’i fod wedi helpu Duw i wneud “popeth sy’n bod.” (Ioan 1:3) Felly, mae’r syniad bod Duw wedi defnyddio esblygiad i greu’r gwahanol ffurfiau ar fywyd yn anghyson â dysgeidiaeth y Beibl.

 Beth am allu anifeiliaid a phlanhigion i addasu i’r amgylchedd?

 Nid yw’r Beibl yn esbonio faint o amrywiaeth all ddigwydd o fewn un “math” o fywyd. Ac nid yw’n anghytuno â’r ffaith bod gwahanol anifeiliaid a phlanhigion a grëwyd gan Dduw yn gallu amrywio wrth atgenhedlu, neu addasu i amgylcheddau newydd. Er bod rhai yn ystyried yr addasiadau hyn yn ffurf ar esblygiad, nid yw’r addasiadau yn creu mathau newydd o fywyd.

a Mae’r gair “math” yn y Beibl yn ehangach ei ystyr na’r gair “rhywogaeth” fel y defnyddir gan wyddonwyr. Yn aml, nid yw’r hyn y mae gwyddonwyr yn ei alw yn esblygiad rhywogaeth newydd yn ddim mwy nag amrywiaeth o fewn “math,” fel y mae’r hanes yn Genesis yn defnyddio’r gair.

b Micro-esblygiad yw’r term a ddefnyddir weithiau i gyfeirio at y cysyniad hwn.