Ateb y Beibl

Mae “llefaru â thafodau” yn disgrifio’r gallu gwyrthiol a oedd gan rai Cristnogion cynnar i siarad ieithoedd heb fynd ati yn gyntaf i’w dysgu. (Actau 10:46, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Roedd unrhyw un a oedd yn deall yr ieithoedd hynny yn gallu deall y siaradwyr yn hawdd. (Actau 2:4-8) Roedd llefaru â thafodau yn un o ddoniau’r ysbryd a roddodd Duw i rai Cristnogion yn y ganrif gyntaf.—Hebreaid 2:4; 1 Corinthiaid 12:4, 30.

  • Pryd a lle dechreuodd llefaru â thafodau?

  • Beth oedd pwrpas llefaru â thafodau?

  • Oedd y gallu i lefaru â thafodau i bara am byth?

  • Pryd daeth llefaru â thafodau i ben?

  • Beth am lefaru â thafodau heddiw?

  • Sut gellir adnabod gwir Gristnogion?

Pryd a lle dechreuodd llefaru â thafodau?

Digwyddodd y wyrth hon am y tro cyntaf yn Jerwsalem ar fore dathlu Gŵyl y Pentecost yn 33 OG. Roedd tua 120 o ddisgyblion Iesu yn cyfarfod pan gafodd pawb “eu llenwi â’r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill.” (Actau 1:15; 2:1-4) Daeth tyrfa fawr o bobl “o wahanol wledydd” at ei gilydd, ac roedd “pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad.”—Actau 2:5, 6.

Beth oedd pwrpas llefaru â thafodau?

  1. I ddangos bod gan y Cristnogion gefnogaeth Duw. Yn y gorffennol, roedd Duw wedi rhoi arwyddion gwyrthiol i brofi ei fod yn cefnogi pobl ffyddlon fel Moses. (Exodus 4:1-9, 29-31; Numeri 17:10) Roedd llefaru â thafodau yn ateb diben tebyg, gan ddangos bod Duw yn cefnogi’r gynulleidfa Gristnogol newydd. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Arwyddion yw tafodau, felly, nid i gredinwyr, ond i anghredinwyr.”—1 Corinthiaid 14:22, BCND.

  2. I helpu’r Cristnogion i dystiolaethu’n drwyadl. Dywedodd y rhai a glywodd ddisgyblion Iesu ar ddiwrnod Pentecost: “Maen nhw’n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!” (Actau 2:11) Felly rheswm arall dros y wyrth hon oedd i helpu’r Cristnogion i gyhoeddi’r newyddion da yn drwyadl ac i “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion,” fel yr oedd Iesu wedi ei orchymyn. (Actau 10:42; Mathew 28:19) Y diwrnod hwnnw, daeth tua 3,000 o bobl yn ddisgyblion ar ôl gweld y wyrth a gwrando ar dystiolaeth y Cristnogion.—Actau 2:41.

Oedd y gallu i lefaru â thafodau i bara am byth?

Nac oedd. Rhoddion dros dro oedd doniau’r ysbryd, gan gynnwys y ddawn i lefaru â thafodau. Rhagfynegodd y Beibl: “Bydd proffwydoliaethau’n dod i ben; y tafodau sy’n siarad ieithoedd dieithr yn tewi.”—1 Corinthiaid 13:8.

Pryd daeth llefaru â thafodau i ben?

Gan amlaf, roedd Cristnogion yn derbyn doniau’r ysbryd pan oedd yr apostolion yn bresennol. Fel arfer, roedd yr apostolion yn gwneud hyn drwy osod eu dwylo ar gyd-gredinwyr. (Actau 8:18; 10:44-46) Nid yw’n ymddangos bod y rhai a dderbyniodd ddoniau’r ysbryd gan yr apostolion yn gallu eu trosglwyddo i bobl eraill. (Actau 8:5-7, 14-17) I egluro, gall swyddog y llywodraeth roi trwydded yrru i rywun, ond nid yw hynny’n golygu bod gan y person hwnnw’r hawl i roi trwydded i rywun arall. Mae’n ymddangos bod llefaru â thafodau wedi dod i ben pan fu farw’r apostolion a’r rhai a oedd wedi derbyn y ddawn ganddyn nhw.

Beth am lefaru â thafodau heddiw?

Mae’n debyg bod y ddawn i lefaru â thafodau wedi dod i ben tua diwedd y ganrif gyntaf OG. Heddiw ni all neb honni’n deg mai drwy nerth Duw maen nhw’n llefaru â thafodau.

Sut gellir adnabod gwir Gristnogion?

Dywedodd Iesu y byddai pobl yn gallu adnabod ei ddilynwyr wrth eu cariad hunan-aberthol. (Ioan 13:34, 35) Yn yr un modd, dysgodd yr apostol Paul mai cariad yw’r rhinwedd barhaol sy’n dangos pwy yw gwir Gristnogion. (1 Corinthiaid 13:​1, 8) Dangosodd Paul y byddai ysbryd Duw yn meithrin rhinweddau ym mywydau Cristnogion. Gelwir y rhain yn “ffrwyth yr ysbryd”, a’r cyntaf ohonyn nhw yw cariad.​—Galatiaid 5:22, 23.