Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Beibl yn Cytuno â Gwyddoniaeth?

Ateb y Beibl

Ydy. Er nad yw’r Beibl yn werslyfr gwyddoniaeth, wrth gyffwrdd â materion gwyddonol, mae’n gywir. Ystyriwch rai enghreifftiau sy’n dangos bod y Beibl yn cytuno â gwyddoniaeth, a’i fod yn cynnwys ffeithiau gwyddonol a oedd yn wahanol iawn i’r hyn roedd llawer o bobl yn ei gredu ar y pryd.

  • Roedd dechrau i’r bydysawd. (Genesis 1:1) Mae llawer o hen chwedlau yn disgrifio’r bydysawd, nid fel rhywbeth a gafodd ei greu, ond fel rhywbeth a gafodd ei roi at ei gilydd o’r anhrefn a fu yno yn barod. Roedd y Babiloniaid yn credu bod y duwiau a roddodd enedigaeth i’r bydysawd wedi dod o ddau gefnfor. Mae chwedlau eraill yn dweud bod y bydysawd wedi dod allan o wy enfawr.

  • Deddfau natur, nid mympwy’r duwiau, sy’n rheoli’r bydysawd. (Job 38:33; Jeremeia 33:25) Mae chwedlau ar draws y byd yn dysgu bod bodau dynol yn ddiymadferth yn nwylo duwiau sy’n anwadal ac weithiau’n greulon.

  • Mae’r ddaear yn hongian mewn gwagle. (Job 26:7) Roedd llawer o ddiwylliannau’r hen fyd yn credu mai plât oedd y ddaear, wedi ei chynnal gan gawr neu anifail, fel ych neu grwban.

  • Mae’r dŵr yn yr afonydd yn dod o’r môr ac o lefydd eraill trwy anweddiad. Mae wedyn yn disgyn ar ffurf glaw, eira, neu genllysg. (Job 36:27, 28; Pregethwr 1:7; Eseia 55:10; Amos 9:6) Roedd y Groegiaid gynt yn meddwl bod y dŵr yn yr afonydd yn dod o foroedd o dan y ddaear, a pharhaodd y syniad hwnnw tan y ddeunawfed ganrif.

  • Mae’r mynyddoedd yn codi ac yn disgyn, ac ar un adeg, roedd y tir sydd bellach yn fynyddig o dan y môr. (Salm 104:​6, 8) Yn wahanol i hyn, mae nifer o chwedlau yn dweud bod y duwiau wedi creu’r mynyddoedd yn union fel y maen nhw heddiw.

  • Mae hylendid yn cadw pobl yn iach. Yn y Gyfraith a roddwyd i genedl Israel, ceir rheolau am ymolchi ar ôl cyffwrdd â chyrff marw, am roi pobl â chlefydau heintus mewn cwarantîn, ac am gael gwared ar garthion dynol mewn ffordd ddiogel. (Lefiticus 11:28; 13:​1-5; Deuteronomium 23:13) Ond roedd un o feddyginiaethau’r Aifft o’r un cyfnod yn dweud y dylid trin clwyf agored â chymysgedd a oedd yn cynnwys carthion dynol.

A oes gwallau gwyddonol yn y Beibl?

Nac oes, a bydd ymchwiliad rhesymol o’r Beibl yn dangos pam. Dyma rai camsyniadau cyffredin am gywirdeb gwyddonol y Beibl:

Camsyniad: Mae’r Beibl yn dweud bod y bydysawd wedi cael ei greu mewn chwe diwrnod pedair awr ar hugain.

Ffaith: Yn ôl y Beibl, creodd Duw y bydysawd ar ryw adeg amhenodol yn y gorffennol. (Genesis 1:1) Hefyd, cyfnodau oedd dyddiau’r creu yn Genesis pennod 1 a nid yw’r Beibl yn dweud pa mor hir oedden nhw. Yn wir, “dydd” yw’r gair a ddefnyddiwyd i ddisgrifio holl gyfnod y creu.​—Genesis 2:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Camsyniad: Mae’r Beibl yn dweud bod Duw wedi creu’r planhigion cyn iddo greu’r haul i’w cynnal drwy ffotosynthesis.​—Genesis 1:11, 16.

Ffaith: Mae’r Beibl yn dweud bod yr haul, sydd yn un o sêr “y bydysawd,” wedi ei greu cyn y planhigion. (Genesis 1:1) Yn ystod “diwrnod” neu gyfnod cyntaf y creu, roedd goleuni tryledol yn gallu cyrraedd wyneb y ddaear. Fe gliriodd yr atmosffer yn araf deg, ac erbyn trydydd “diwrnod” y creu roedd y goleuni yn ddigon cryf i gynnal ffotosynthesis. (Genesis 1:3-5, 12, 13) Dim ond yn ddiweddarach y byddai’n bosib gweld yr haul yn eglur o wyneb y ddaear.​—Genesis 1:16.

Camsyniad: Mae’r Beibl yn dweud bod yr haul yn troi o gwmpas y ddaear.

Ffaith: Mae Pregethwr 1:5 yn dweud: “Mae’r haul yn codi ac yn machlud, yna rhuthro’n ôl i’r un lle, i godi eto.” Sut bynnag, mae’r adnod hon yn disgrifio symudiad ymddangosiadol yr haul o safbwynt rhywun ar y ddaear. Hyd yn oed heddiw, bydd pobl yn dweud bod yr haul yn “codi” neu’n “diflannu,” er eu bod nhw’n gwybod bod y ddaear yn troi o gwmpas yr haul.

Camsyniad: Mae’r Beibl yn dweud bod y ddaear yn fflat.

Ffaith: Mae’r Beibl yn defnyddio’r ymadrodd “hyd eithaf y ddaear” i olygu “drwy’r byd i gyd”; ond nid yw hynny yn awgrymu bod y ddaear yn fflat neu fod terfyn iddi. (Actau 1:8, cymharer BCND) Yn yr un modd, ffigur ymadrodd sy’n cyfeirio at holl wyneb y ddaear yw “o bedair congl y ddaear”; heddiw efallai bydd rhywun yn defnyddio pwyntiau’r cwmpawd fel trosiad tebyg.​—Eseia 11:12, Beibl Cysegr-lân; Luc 13:29, BCND.

Camsyniad: Mae’r Beibl yn dweud mai tair gwaith y diamedr yw cylchedd cylch ond pai (π), neu tua 3.1416, sy’n gywir.

Ffaith: Yn 1 Brenhinoedd 7:​23 a 2 Cronicl 4:2, mae’r Beibl yn disgrifio basn anferth sy’n “bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i’r llall,” ac “un deg tri metr a hanner o’i hamgylch.” Mae’n bosib bod y mesuriadau hyn wedi eu talgrynnu i’r ffigur crwn agosaf. Mae hefyd yn bosib bod y diamedr yn cyfeirio at fesuriadau allanol y basn, a’r cylchedd yn cyfeirio at y mesuriadau mewnol.