Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am y Nadolig?

Ateb y Beibl

Dydy’r Beibl ddim yn dweud ar ba ddiwrnod cafodd Iesu ei eni, nac yn dweud y dylen ni ddathlu ei ben-blwydd. Dywed Cyclopedia McClintock a Strong: “Ni chafodd gŵyl y Nadolig ei sefydlu gan Dduw, a does dim sôn amdani yn y Testament Newydd ychwaith.”

O dyrchu i wreiddiau’r Nadolig, gwelwn ei fod yn tarddu o ddefodau crefyddol paganaidd. Mae’r Beibl yn dangos y byddwn ni’n digio Duw os ceisiwn ei addoli mewn ffordd nad yw’n ei chymeradwyo.—Exodus 32:5-7.

Hanes arferion y Nadolig

  1. Dathlu pen-blwydd Iesu: Dywed Zonia Bowen yn ei llyfryn Gwir ystyr y Nadolig fod y “Cristnogion cynnar yn gwrthwynebu’r dathliadau hyn.” Esbonia’r World Book Encyclopedia bod hyn “oherwydd eu bod yn ystyried bod dathlu dydd geni rhywun yn arferiad paganaidd.”

  2. 25 Rhagfyr: Does dim byd i brofi y cafodd Iesu ei eni ar y dyddiad hwnnw. Mae’n debyg y dewisodd arweinwyr yr Eglwys y dyddiad hwn er mwyn cyd-ddigwydd â gwyliau paganaidd a gynhelir ar neu o gwmpas heuldro’r gaeaf, sef diwrnod byrraf y flwyddyn.

  3. Rhoi anrhegion, gwledda, cael partïon: Dywed y cylchgrawn Cymru: “Diorseddodd y Nadolig y Saturnalia gedwid er coffadwriaeth am y duw Sadwrn. Nodweddid yr wyl fawr hon gan bob math o loddest a rhialtwch. Byddai bonedd Rhufain yn gwledda gyda rhwysg a mawredd. Halogwyd yr wyl felly yn ei mebyd, ac erys llawer o’r llygredd hyd yn oed yn Nadolig yr ugeinfed ganrif.” Mae’r llyfryn Gwir Ystyr y Nadolig yn ychwanegu: “Yn ystod y Saturnalia hefyd roedd pobl o bob dosbarth yn rhoi anrhegion i’w gilydd, megis canhwyllau cŵyr, torchau o ddail bytholwyrdd a doliau clai. . . . Yn ystod y Saturnalia roedd busnes cyhoeddus a phreifat ar stop; roedd y llysoedd barn a’r ysgolion ar gau, a pheidiai pob math o weithgareddau swyddogol.”

  4. Goleuadau’r Nadolig: Yn ôl The Encyclopedia of Religion, byddai pobl Ewrop yn addurno eu tai “gyda goleuadau a brigau bythwyrdd o bob math” er mwyn dathlu heuldro’r gaeaf ac i gadw draw ysbrydion drwg.

  5. Uchelwydd, celyn: “Arferai’r Derwyddon addurno eu lleoedd sanctaidd ag uchelwydd a phlanhigion bytholwyrdd eraill. Edrychid ar yr uchelwydd fel planhigyn hud,” ac roedd y celyn bytholwyrdd yn cael ei addoli fel “symbol o anfarwoldeb a pharhad bywyd.”—Gwir Ystyr y Nadolig.

  6. Coeden Nadolig: “Roedd addoli coed, gynt yn gyffredin ymysg paganiaid Ewrop, yn dal yn fyw ar ôl iddyn nhw droi at Gristnogaeth.” Diolch i’r arfer modern o “osod coeden Nadolig ger mynediad y tŷ neu y tu mewn iddo yn ystod gwyliau canol gaeaf,” mae addoli coed yn fyw o hyd.​—Encyclopædia Britannica.